Penodiadau Newydd yn Rhoi Hwb i Dîm Ymgynghori Cwmpas sy’n Prysur Dyfu

23 Hydref 2023

Rydym yn falch iawn o groesawu dau newydd i dîm Twf Busnes ac Ymgynghori Cwmpas sy’n tyfu’n gyflym.

Mae Samina Ali a Rachael Hobbs yn ymuno â ni ar amser prysur i’n tîm, sydd wedi cefnogi cyfres o 40 o gleientiaid ar draws sectorau amrywiol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda mwy yn defnyddio ein harbenigedd o hyd.

Mwy am Sam a Rachel, ein harbenigwyr effaith gymdeithasol a digidol

Mae Samina Ali yn Ymgynghorydd Digidol gyda bron i 20 mlynedd o brofiad yn y maes. Mae’n dylunio a chyflwyno rhaglenni allweddol i’r tîm, gan gefnogi ein cleientiaid i ymwreiddio prosesau digidol ar sail yr angen yn eu gweithrediadau. Mae Newid yn un rhaglen mae Sam yn ei gefnogi ar gyfer y drydedd sector. Mae Rachael Hobbs, yr Ymgynghorydd Effaith Cymdeithasol, yn cefnogi ein cleientiaid i ddatblygu entrepreneuriaeth, cryfhau eu harferion menter gymdeithasol a’r pwyslais ar gynyddu cyfoeth cymunedol. Mae Rachel yn canolbwyntio ar gefnogi ein cleientiaid gyda’u heffaith cymdeithasol a grëwyd yn nigwyddiadau Hac Caredigrwydd hefyd.

Sam Ali, Digital Consultant Rachel Hobbs, Social Impact Consultant

Ch-Dd: Sam Ali a Rachel Hobbs

Dywedodd Dr Sarah Evans, y Cyfarwyddwr Twf Busnes ac Ymgynghori: “Rydym yn falch iawn bod Samina a Rachael wedi ymuno â’n tîm ymgynghori busnes. Mae Sam a Rachael yn dod â chyfoeth o brofiad a gallu i’n tîm sy’n tyfu, sy’n golygu y gallwn ddal i ychwanegu gwerth i’n cleientiaid o arbenigedd trawsnewid digidol, effaith cymdeithasol, twf busnes neu arbenigedd sero net.”

Mwy am ein tim, o werth cymdeithasol i drawsnewid gwasanaeth

Mae tîm Twf ac Ymgynghori Busnes Cwmpas yn cynnwys cydweithwyr profiadol iawn sydd wedi ymrwymo i ddwyn newid cadarnhaol i’n cleientiaid, gan lunio cymunedau cryfach, cyfoethocach, sy’n gweithredu’n well a mwy cydlyn. Mae ein gwasanaethau ymgynghori busnes yn canolbwyntio ar gadw swyddi, caffael a chyfleoedd yn lleol, fel ein bod yn gallu rhoi hwb ymlaen i’r rhai o’n cwmpas a llunio cymunedau mwy gwydn.

Mae’n rhoi boddhad gweld yr effaith yr ydym yn ei gael mewn cymunedau ar draws Cymru, trwy helpu sefydliadau gyda’u trawsnewidiad digidol, ymwreiddio egwyddorion gwerth cymdeithasol, dangos llwybrau clir i gael mentrau cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi ac atgyfnerthu eu prosesau dysgu a datblygu a gwerthuso. Mae ein cleientiaid yn pwyso arnom hefyd, am ein dealltwriaeth gref o’r amgylchedd deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru a thu hwnt, ac am ein pwyslais trosfwaol ar y nodau a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod rhagor am ein dull i’r diben ar sail anghenion i’ch sefydliad neu gymuned – os ydych wedi gweithio i’r cyfeiriad hwn neu beidio, cofiwch gysylltu. Byddem yn falch o helpu.

Anfonwch e-bost atom yn commercialteam@cwmpas.coop
https://cwmpas.coop/what-we-do/services/consultancy-services/

Er mwyn dysgu ychydig mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud, gallwch wylio ein fideo yma: