Partïon Te Digidol Hyder Digidol Sir Ddinbych: Cysylltu cymunedau a phontio’r rhaniad digidol
Yn Cwmpas, rydyn ni’n arwain trawsnewidiad digidol yng Nghymru i sicrhau y gall pawb fanteisio i’r eithaf ar wasanaethau ar-lein.
Dyw 7% o bobl Cymru ddim ar-lein heddiw. Mae mwy o wasanaethau cyhoeddus hanfodol yn cael eu darparu ar-lein nawr nag erioed o’r blaen, ac mae’n hanfodol nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl. Yn Sir Ddinbych, mae’r ffigwr hwn yn cynyddu i 9%.
Er mwyn helpu i hyrwyddo cynhwysiant digidol yn y sir, cynhaliodd ein rhaglen Hyder Digidol Sir Ddinbych gyfres o Bartïon Te Digidol yn Ninbych, Rhuthun a Phrestatyn yn ddiweddar. Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnig awyrgylch cynnes a chroesawgar i bobl leol archwilio byd sgiliau digidol, lle gallai aelodau’r gymuned ehangu eu gorwelion digidol wrth fwynhau diod boeth a chacen.
Er bod y Partïon Te Digidol yn ymwneud â gwneud technoleg yn fwy hygyrch a phleserus i bawb, roedden nhw’n sicr yn taro deuddeg gyda phoblogaeth hŷn Sir Ddinbych – grŵp y mae cynhwysiant digidol yn hanfodol ar eu cyfer, o ystyried nad yw 46% o bobl dros 65 oed yn genedlaethol yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Cafodd y gynulleidfa gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau digidol, o ddefnyddio Google Maps i archwilio gwahanol leoedd ledled y byd yn rhithwir, i chwarae gemau dysgu iaith ar Duolingo, dysgu sut i weld a phrynu tocynnau trên, chwarae offerynnau cerdd digidol, a dysgu sut i sganio codau QR hyd yn oed. Cafodd pob gweithgaredd ei greu i fod yn ddeniadol ac yn hawdd ei ddeall, gan ganiatáu i gyfranogwyr brofi ochr ymarferol a difyr technoleg. Roedd y cyfuniad o ddysgu a chymdeithasu’n creu amgylchedd agored a chyfeillgar, lle’r oedd pobl yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn cwestiynau a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Roedd yr ymateb i’r Partïon Te Digidol yn frwdfrydig. Roedd y rhai a fynychodd yn mwynhau’r sesiynau’n fawr, gan ganmol yr awyrgylch hamddenol a’r cyfle i ddysgu pethau newydd heb deimlo eu bod wedi’u gorlethu. Gwnaeth llawer o gyfranogwyr sylwadau ar faint roedden nhw wedi’i ddysgu, gan fynegi syndod wrth ddarganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer gweithgareddau bob dydd nad oedden nhw’n sylweddoli oedd yn bosibl.
Mae sylwadau megis, “Cyfle gwych i gael gwybodaeth wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd”, “Prynhawn mwyaf pleserus yn y Parti Te Digidol yn dysgu ond yn rhyngweithio ag eraill”, ac mae “Sesiynau ardderchog gyda thiwtoriaid gwybodus, amyneddgar a dymunol” yn amlygu gwerth sesiynau hyfforddi digidol yn y gymuned. Roedd y fformat rhyngweithiol yn galluogi mynychwyr i weld sut y gallai sgiliau digidol wella eu bywydau bob dydd mewn ffyrdd ymarferol, o drefnu teithiau yn y dyfodol i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau yn gyflym ac yn hawdd.
I lawer, roedd y digwyddiadau yn gam cyntaf tuag at fwy o hyder digidol. Trwy chwalu’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â thechnoleg, roedd y partïon te yn grymuso mynychwyr i fanteisio ar offer digidol mewn lleoliad cyfeillgar a chefnogol. Roedd y sesiynau’n meithrin ymdeimlad o gymuned hefyd, wrth i bobl rannu eu profiadau, dysgu gan ei gilydd, a mwynhau’r lluniaeth gyda’i gilydd.
Trwy barhau i gynnal sesiynau hyfforddi a chymorth digidol fel y rhain, mae Hyder Digidol Sir Ddinbych nid yn unig yn pontio’r rhaniad digidol ond hefyd yn annog dysgu gydol oes a chysylltiadau cymdeithasol. Boed yn ddysgu sut i lywio’r we neu ddarganfod sut i ddefnyddio apiau ar gyfer dysgu iaith, y nod yw helpu pawb i deimlo’n hyderus ac yn alluog mewn byd cynyddol ddigidol.
I gael gwybod mwy am Hyder Digidol Sir Ddinbych, neu i weld pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill am weddill y flwyddyn, ewch i’n tudalen we Hyder Digidol Sir Ddinbych.