Mae mentrau cymdeithasol gwydn yn dod o hyd i ffyrdd creadigol o ymdopi, meddai cyfarwyddwr Cwmpas i’r BBC

5 Rhagfyr 2023

Mae Cyfarwyddwr Menter Cwmpas, Glenn Bowen, wedi dweud wrth y BBC fod mentrau cymdeithasol ledled Cymru yn dod o hyd i ffyrdd creadigol o ymdopi yn yr amgylchedd ariannol heriol presennol.

Roedd Glenn yn siarad â Felicity Evans ar BBC Wales Today ar y sefyllfa yng Nghymru a dywedodd fod busnesau cymdeithasol yn fwy gwydn o ystyried nifer y rhanddeiliaid sy’n ymwneud â’r busnes.

“Pan fydd pethau’n mynd yn anodd i fusnes masnachol, mae gennych chi’ch banc a’ch cyfranddalwyr a’r buddsoddwyr. Ond o fewn busnes cymdeithasol, mae gennych chi’ch aelodaeth o gymuned ehangach ar gael i chi” meddai wrth y BBC.

Roedd Rhaglen Wales Today yn arddangos gwaith Dr Sondra Butterworth, a ddywedodd fod ei menter gymdeithasol yn Wrecsam wedi’i hachub gan system ffeirio, ac amlinellodd sut mae RareQoL yn dod o hyd i ffyrdd creadigol o gadw eu busnes i ffynnu. Wedi’i hysbrydoli gan y ffordd yr oedd pobl yn ei phentref yn Llandrillo, Sir Ddinbych, wedi cefnogi ei gilydd, dyfeisiodd Dr Butterworth system o gyfnewid sgiliau a gwybodaeth i barhau â’i gwaith gyda’r sefydliad clefydau prin, RareQol.

“Gallai RareQol fod wedi cau,” meddai Dr Butterworth. “Ond yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaethom lwyddo i gynnal cynhadledd fawr heb unrhyw arian oherwydd roedd cymaint o bobl yn ein helpu ni. Byddai rhywun yn gwneud rhywbeth i rywun, ac yna byddent yn cyfnewid, fel ffeirio, ac roeddwn i’n meddwl ‘mae hyn yn fodel cynaliadwy. Gallai hyn weithio mewn meysydd eraill’.”

Wnaeth adroddiad ;Mapio Busnes Cymdeithasol’ eleni dangos fod mentrau cymdeithasol yn gryfach nag erioed ac yn chwarae rhan gynyddol bwysig yng nghymunedau Cymru.

Roedd yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Busnes Cymdeithasol Cymru, sy’n rhan o Cwmpas, hefyd yn dangos bod llawer o fentrau cymdeithasol yng Nghymru wedi teimlo effaith yr argyfwng ariannol a’u bod yn wynebu costau uwch ac adnoddau cyfyngedig.

  • Gallwch ddarllen erthygl Glenn ar yma.
  • Gallwch ddarllen Adroddiad Mapio Busnes Cymdeithasol 2022 yma.
  • Mae adroddiad BBC Wales Today yma, 15 munud mewn i’r fidio.