Mapio’r Sector Busnes Cymdeithasol yng Nghymru | Cyfrifiad 2022

Mapio’r Sector Busnes Cymdeithasol yng Nghymru | Cyfrifiad 2022

Mae ein gwaith ymchwil diweddaraf yn dangos bod y sector menter gymdeithasol yn gryfach nag erioed ac yn chwarae rhan gynyddol bwysig mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae’r gwaith ymchwil diweddaraf sy’n mapio’r sector menter gymdeithasol yng Nghymru wedi dangos ei fod yn mynd o nerth i nerth ar ôl Covid, gyda lefelau uchel o weithgarwch entrepreneuraidd. Mae tua 2,828 o fusnesau yn y sector erbyn hyn, sef 22% yn fwy nag yn 2020 (2309). Mae chwarter y busnesau a arolygwyd yn ‘egin fusnesau’ sydd wedi bod yn masnachu am 2 flynedd neu lai.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Mapio Busnes Cymdeithasol 2022 llawn

Cliciwch yma i ddarllen a lawrlwytho crynodeb o Adroddiad Mapio Busnes Cymdeithasol 2022

1
Dyma grynodeb cyflym o ganfyddiadau allweddol ar gyfansoddiad y sector:
  • Mae busnesau cymdeithasol bellach yn cynrychioli 2.6% o gyfanswm y stoc busnes yng Nghymru, i fyny o 2.2% yn 2020.
  • Mae cyfrifiadau’n dangos mai cyfanswm trosiant y sector yw £4.8bn, sef 26% yn fwy nag yn 2020 (£3.8bn). Mae hyn yn cynnwys mentrau mawr fel Dŵr Cymru a Pobl.
  • Mae cyfrifiadau’n dangos mai cyfanswm y gyflogaeth ar gyfer y sector yw 65,299, sef 16% yn fwy nag yn 2020 (56,000).
  • Mae cyfrifiadau’n dangos mai nifer y gwirfoddolwyr yw 54,261, sef 14% yn fwy nag yn 2020 (47,443).

Pryderon tymor byr, ond optimistiaeth ar gyfer y dyfodol

Er bod y sector wedi ehangu, mae mentrau cymdeithasol yn teimlo’r amodau economaidd heriol. Mae thystiolaeth yn awgrymu y gallai effeithiau’r pandemig fod yn parhau o hyd, yn ogystal â phwysau yn sgil gostyngiad mewn arian cyhoeddus, prisiau ynni sy’n codi a chwyddiant uchel.
Fodd bynnag, mae’r rhagolygon ar gyfer twf busnes yn optimistaidd dros y tymor hir, ac mae llawer o fusnesau cymdeithasol yn obeithiol ynglŷn â’u trosiant a’u helw yn y dyfodol. Mae dangosyddion sy’n ymwneud â datblygiad busnes yn awgrymu bod busnesau cymdeithasol yn ceisio ehangu ac amrywiaethu, gan adrodd ar ystod o ddangosyddion datblygu busnes yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae llawer o ddangosyddion wedi adlamu’n ôl i lefel debyg i ffigurau 2018, ar ôl gostwng yn 2020. Mae hyn yn awgrymu y bu busnesau mewn cyfnod o gyfnerthu neu oroesi yn ystod y pandemig, ond eu bod yn ceisio tyfu eto bellach.

1
Nododd yr adroddiad sut y gellir cefnogi busnesau i ehangu:
  • Cymorth marchnata (16%)
  • Cymorth I fanteisio ar gyllid (15%)
  • Cymorth â staff/recriwtio/gwirfoddoli (14%)
  • Cynlllunio/Hyfforddiant ariannol (14%)
  • Costau ar gyfer hyfforddiant neu hyfforddi staff (13%)
  • Mentora (12%)

Gwyliwch y recordiad o’r digwyddiad briffio a gynhaliwyd ddydd Mawrth 18 Ebrill 2023

 

Glenn Bowen yw Prif Weithredwr dros dro Cwmpas, sy’n cyflwyno rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru. Dywedodd: “Mae’r astudiaeth arwyddocaol hon yn amlygu rôl gynyddol bwysig busnesau cymdeithasol mewn cymunedau yng Nghymru, yn enwedig yn y frwydr i fynd i’r afael â thlodi. Maen nhw’n aml yn cynnig gwasanaethau mewn ardaloedd difreintiedig na fyddent ar gael fel arall; maen nhw’n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd, yn cyfrannu at ddatblygu economaidd mewn cymunedau sydd dan anfantais, ac yn aml yn targedu eu gwaith yn uniongyrchol i helpu pobl ddifreintiedig. Mae hyn yn bwysicach nag erioed o ystyried y pwysau ariannol sy’n wynebu awdurdodau lleol a’r argyfwng costau byw sy’n wynebu ein cymunedau.

The social enterprise sector in Wales is growing and diversifying to maximise the impact it has in Welsh communities. Social Business Wales will continue to offer free specialist support to new and growing businesses to answer some of the key challenges facing the country. Gobeithiwn y bydd data o’r ymarfer mapio yn helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau, cynllunio a chynnal gwasanaethau cyhoeddus, a dyrannu arian er mwyn parhau i gefnogi’r sector.

Rhaglen cymorth busnes yw Busnes Cymdeithasol Cymru a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Fe’i cyflwynir gan Cwmpas ac mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru.