Mae gennym ni enillydd! Cystadleuaeth cyfnod allweddol 2 ‘Cydweithredwyr Yfory’

14 Rhagfyr 2022

Mae’r canlyniadau wedi’n cyrraedd. Gallwn ddatgelu enillydd cystadleuaeth cyfnod allweddol 2 ‘Cydweithredwyr Yfory’ Cwmpas a Hwb…

Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Maes-y-Deri o Aberaman!

Dosbarth Derw (Blwyddyn 6) o Ysgol Gynradd Maes-y-Deri yn cipio’r wobr 1af am eu cynnig yn y gystadleuaeth ‘Cydweithwyr Yfory’.

Roedd y gystadleuaeth, a drefnwyd i ddathlu pen-blwydd Cwmpas yn 40 oed, yn annog y dysgwyr i ateb y cwestiwn: ‘Gan feddwl am y lle rwyt ti’n byw, beth allai fod yn well ymhen 40 mlynedd i nawr pe bai pobl yn cydweithredu mwy?’.

Gan wneud defnydd o amrywiaeth o adnoddau creadigol ar gael trwy J2E, daeth cyflwyniad Dosbarth Derw ar ffurf tudalen we drawiadol, a grëwyd trwy adnodd ‘j2webby’ J2E.

Cyflwynwyd eu syniadau terfynol o dan benawdau’r meysydd a nodwyd ym maes gwella cymunedol – treftadaeth, amaethyddiaeth, adloniant, bwyd a diod, a hamdden a chwaraeon.  Roedd gan y dosbarth syniadau ar gyfer mwy o geir trydan a gorsafoedd gwefru, gardd gymunedol i hybu iechyd a lles, caffi caredigrwydd sero-newyn, clwb ieuenctid cynaliadwy ynni glân sy’n cynnwys llawr dawnsio cinetig, a champfa cydraddoldeb gofod diogel.

Yr hyn a greodd argraff dda ar chwe beirniad y gystadleuaeth o Cwmpas, Hwb a Cyfoeth Naturiol Cymru oedd y broses gydweithredol y defnyddiodd Dosbarth Derw i ddod i’w penderfyniadau terfynol ar sut beth fyddai dyfodol gwell i’w hardal.

Sut wnaethon nhw hynny

Gan ddefnyddio’r gystadleuaeth i archwilio eu thema dosbarth dyniaethau ‘Ni yw y byd: Sut gall person newid y byd?’ ar gyfer tymor yr Hydref, roedd disgyblion Blwyddyn 6 Maes-y-Deri yn drylwyr yn eu hymchwil a’u cynllunio, tra’n dangos dulliau cydweithredol o wneud penderfyniadau.

Ar ôl nodi eu pum maes allweddol o wella, gwahoddodd y dosbarth hyrwyddwyr cymunedol lleol a pherchnogion busnes i’r ysgol a’u cyfweld am ddyfodol eu cymuned.

Gan gael blas ar y cyfweliadau, daeth Dosbarth Derw at ei gilydd wedyn ar gyfer ymarfer mapio meddwl i drafod eu syniadau. Mewn grwpiau, fe benderfynon nhw ar y pum syniad gorau ar gyfer pob un o’r meysydd a nodwyd, cyn defnyddio j2vote i bleidleisio fel dosbarth ar y prosiectau cymunedol terfynol i’w dilyn.

Gyda’u prosiectau wedi’u hamlinellu, rhannodd y dosbarth unwaith eto i’w grwpiau i greu cyflwyniad gan ddefnyddio J2E ar gyfer pob un o’u pum syniad terfynol.

Roedd eu cyflwyniadau yn cynnwys asesiad o’r asedau cymunedol a oedd ganddyn nhw eisoes yn yr ardaloedd o amgylch Aberaman, yr hyn oedd ei angen yn yr ardal a allai gyfrannu at gyflawni Nodau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig, sut y byddai eu prosiectau o fudd i’r ardal leol, cynllun gweithredu manwl i gyflawni eu hamcanion, yn ogystal â phosteri yn annog pobl leol i ddefnyddio a manteisio ar eu prosiectau cymunedol.

Mewn fideo ar waelod y dudalen we, mae dau ddisgybl o Ysgol Gynradd Maes-y-Deri yn egluro eu cynnig drwy ddweud:

“Rydyn ni’n gobeithio eich bod mor falch o’n syniadau ag yr ydyn ninnau. Rydyn ni wedi mwynhau meddwl am ein cymuned a sut y gellir ei gwella yn y dyfodol. Mae’r rhain yn themâu rydyn ni’n eu cario drosodd i dymor y Gwanwyn, lle byddwn yn edrych ar Nodau Byd-eang yn fanylach ac ar ffynonellau ynni adnewyddadwy. Diolch yn fawr, hwyl fawr.”

Beth oedd gan feirniaid y gystadleuaeth i’w ddweud

“Roedd y cyflwyniad gan Ysgol Gynradd Maes-y-Deri yn ardderchog. Doedden nhw ddim yn siarad am gydweithredu yn unig, yn hytrach roedd cydweithrediad wedi’i ymwreiddio drwy’r holl ymarfer. Roedd y syniadau’n hyfryd ac fe’u lluniwyd gyda’r gymuned gyfan mewn golwg sy’n hanfodol wrth sefydlu unrhyw fusnes cymunedol. Aeth llawer o waith a meddwl i mewn i hyn ac roedd hi’n ymdrech hollol wych.”  – Hannah Morris, Ymgynghorydd Busnes Cwmpas.

“Syniadau gwych ar gyfer cydweithredu o fewn y gymuned leol. Defnydd ardderchog o offer creadigol a syniadau wedi’u pwyso a’u mesur yn ofalus sy’n helpu i gefnogi nodau datblygu’r Cenhedloedd Unedig trwy gydweithredu. Gallaf weld sut y byddai’r syniadau hyn o fudd i bawb yn y gymuned leol ac rwy’n hoff iawn o’r natur gynhwysol. Byddai’r syniadau hyn yn bendant yn helpu i wella’r amgylchedd yn Rhondda Cynon Taf. Dwi’n meddwl y byddwn i’n ymweld â’r caffi a’r clwb chwaraeon ac y byddwn i wrth fy modd yn gweld y llawr dawnsio cinetig!” – Rusell De’ Ath, Uwch Gynghorydd Arbenigol, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Eu gwobr

Fel enillwyr y gystadleuaeth, bydd Dosbarth Derw Ysgol Gynradd Maes-y-Deri yn derbyn tlws enillydd, basged o nwyddau gan fusnesau cymdeithasol yng Nghymru i’w rhannu ymhlith y dosbarth, yn ogystal ag ymweliad profiad gan fusnes cymdeithasol cyfagos i’w hysbrydoli ymhellach a rhoi blas i’r disgyblion ar sut y gall busnes fod o fudd i’r gymuned leol.

Da iawn chi gan bawb yn Cwmpas a Hwb i Gydweithredwyr Yfory Ysgol Gynradd Maes-y-Deri!