Cystadleuaeth ysgolion ‘Cydweithredwyr Yfory’

29 Medi 2022

Wrth ddathlu pen-blwydd Cwmpas yn 40, mae Cwmpas a Hwb yn falch o gyhoeddi cystadleuaeth ‘Cydweithredwyr Yfory’ ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ledled y wlad.

Mae’r gystadleuaeth yn herio’r rhai sy’n rhoi cynnig arni i edrych ymlaen 40 blynedd i’r dyfodol a llunio darn o waith yn ateb y cwestiwn: ‘Gan feddwl am y lle rwyt ti’n byw, beth allai fod yn well ymhen 40 mlynedd i nawr pe bai pobl yn cydweithredu mwy?’.

Gellir cyflwyno’r cynigion terfynol mewn unrhyw fformat, gyda dim ond un gofyniad – mae’n rhaid eu creu drwy ddefnyddio cyfres j2e Hwb o feddalwedd creadigol. Gallai fod yn blog, ffilm fer, poster, animeiddiad, sgript ar gyfer drama, cyfuniad o bob un, neu hyd yn oed rhywbeth cwbl wahanol.

I helpu i ysbrydoli dysgwyr, mae Cwmpas a Hwb wedi paratoi adnodd dysgu ar gyfer athrawon i gynnig cyd-destun pellach mewn perthynas â’r gystadleuaeth.

Gyda dim ond un cynnig yn cael ei ganiatáu o bob ysgol sy’n cymryd rhan (Cymraeg neu Saesneg), anogir disgyblion i gydweithio ar y cyflwyniad terfynol erbyn y dyddiad cau, sef 4yh ar 28 Tachwedd 2022. Gall ysgolion ddewis cynnal cystadleuaeth fewnol i ddechrau, gyda disgyblion yn cydweithio mewn grwpiau, neu’n dod at ei gilydd fel ysgol i weithio ar eu cynnig i’r gystadleuaeth.

Ar ôl cael ei feirniadu gan ein panel, sy’n cynnwys staff o Gwmpas a Hwb, bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar wefannau Cwmpas a Hwb ar wythnos y 12fed o Ragfyr.

Bydd y cais buddugol yn derbyn tlws ‘Cydweithredwyr Yfory’, hamper o nwyddau gan fentrau cydweithredol a chymdeithasol ledled Cymru, ac ymweliad arbrofol gan fenter gymdeithasol leol.

Sut mae cymryd rhan

  • Gwnewch ddatganiad o fwriad i gystadlu drwy e-bostio marketingteam@cwmpas.coop gydag e-bost gyda’r teitl ‘Cydweithredwyr Yfory’ yn cynnwys manylion cyswllt yr ysgol, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
  • Cynlluniwch wers am y gystadleuaeth, gan ddefnyddio adnodd dysgu ‘Cydweithredwyr Yfory’ Cwmpas.
  • Anogwch ddysgwyr i gydweithio ar y prosiect, gan ddefnyddio cyfres j2e Hwb.
  • Cyflwynwch URLs prosiect 2je ac unrhyw ddogfennau ategol a allai fod yn angenrheidiol erbyn y dyddiad cau, sef 4yh ar 28 Tachwedd 2022, drwy e-bostio marketingteam@cwmpas.coop. Rhowch y teitl ‘Cydweithredwyr Yfory’.
  • Cofiwch: un cynnig gan bob ysgol sy’n cymryd rhan.
  • Cadwch lygad ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Cwmpas a Hwb – cyhoeddir yr enillwyr yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 12 Rhagfyr 2022.

Cwestiynau pellach

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am y gystadleuaeth, e-bostiwch marketingteam@cwmpas.coop