Lansio prosiect newydd i ddarparu cefnogaeth Cynhwysiant Digidol i drigolion Sir Ddinbych

18 Ionawr 2024

Mae prosiect newydd sy’n ceisio cefnogi’r 9% o ddinasyddion Sir Ddinbych sydd ddim ar-lein wedi’i lansio i’w hannog i ddefnyddio technoleg ddigidol i gael defbyddio’r gwasanaethau sydd angen arnynt mewn bywyd bob dydd.

Bydd Hyder Digidol Sir Ddinbych yn cael ei ddarparu gan Cwmpas a bydd yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2024. Mae’r prosiect wedi derbyn £515,106 o ddyraniad Cyngor Sir Ddinbych o cyllid Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig i gefnogi trigolion i fynd ar-lein trwy gyflwyno sesiynau galw heibio, gweithdai a chyrsiau sgiliau digidol hanfodol yn yr ardal.

Gall cynhwysiant digidol fod yn rymusol a helpu pobl i gymryd rhan mewn bywyd pob-dydd, a bydd yn galluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein a digidol os nad oes ganddynt ddyfais, yn byw mewn ardal â chysylltedd gwael, neu bod ganddynt sgiliau neu hyder digidol isel.

Mae’r manteision yn cynnwys arbed arian, lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd, cynyddu sgiliau a gwybodaeth, a hyd yn oed cynyddu sgiliau cyflogadwyedd.

Yn ôl Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, grŵp o 90 sefydliad sy’n gweithio i wneud Cymru’n genedl ddigidol-gynhwysol, wrth i wasanaethau hanfodol symud ar-lein, gan gynnwys apwyntiadau’r GIG a phyrth budd-daliadau, bydd pobl hŷn, pobl ag anghenion ychwanegol, a siaradwyr Cymraeg mewn perygl gwirioneddol o golli mynediad at wasanaethau hanfodol.

Ac yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae 7% o boblogaeth Cymru ddim ar-lein. Dim ond 41% o bobl dros 75 oed sydd ar-lein, ac mae llai o bobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor ar-lein. Amlygodd hefyd fod angen ymdrechion i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cyrchu gwasanaethau ar-lein gyda hyder.

Bydd Hyder Digidol Sir Ddinbych yn gweithio gyda pob grwp sydd yn cael eu heffeithio, gan gynnwys  pbl sy’n ynysig yn gymdeithasol, teuluoedd ar incwm is, a phobl sy’n profi digartrefedd, i sicrhau y gallant gael mynediad diogel a hyderus at wasanaethau digidol.

Dywedodd David Madge, Arweinydd Rhaglen Ranbarthol Cwmpas:

“Mae cynhwysiant digidol a llythrennedd digidol yn hawliau a sgiliau hanfodol mewn byd modern. Mae mwy a mwy o wasanaethau hanfodol yn cael eu darparu ar-lein, fel treth y cyngor, bancio a chyllid, gwasanaethau nwy, dŵr a thrydan, a sawl agwedd ar ofal iechyd. Mae’n hollbwysig ein bod yn galluogi ac yn grymuso pobl i ddefnyddio gwasanaethau digidol, a all wella ansawdd eu bywyd yn aruthrol.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych  ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae technoleg ddigidol wedi dod yn rhan fawr o fywyd bob-dydd i’r rhan fwyaf ohonom, ond i rai pobl nid yw’n hawdd ymgysylltu â’r technolegau hyn. Mae’r Cyngor yn falch o allu cefnogi Cwmpas gyda’r grant hwn o ddyraniad y sir cyllid Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig i helpu i gefnogi pobl yn ein cymunedau lleol i fynd ar-lein a theimlo’n hyderus wrth ddefnyddio technolegau digidol i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.”

Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych, neu’n adnabod rhywun a all elwa, gallwch gymryd rhan yn y prosiect trwy e-bostio dcdenbighshire@cwmpas.coop, ymweld â https://cwmpas.coop/digital-confidence-denbighshire/, neu drwy gael eich cyfeirio gan asiantaeth berthnasol.