Diweddariad Rhaglen: Hyder Digidol Sir Ddinbych
Mae rhaglen Hyder Digidol Sir Ddinbych (DCD) wedi’i hymestyn o fis Ebrill i fis Medi 2026, gan ganiatáu i ni barhau i helpu trigolion Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau digidol, gwella hyder, a theimlo’n fwy cyfforddus wrth lywio’r byd rhithiol.
Trwy DCD, mae ein tîm wedi darparu sesiynau galw heibio, gweithdai, a chymorth un-i-un, gan ganolbwyntio’n bennaf ar oedolion hŷn ond gan groesawu unrhyw un sydd angen cefnogaeth. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl i gadw i fyny â’r datblygiadau diweddaraf yn y byd digidol, tra’n sicrhau eu bod yn gallu defnyddio technoleg yn ddiogel ac yn hyderus.
Diolch i’r rhaglen, mae cyfranogwyr bellach yn gallu defnyddio e-byst a chyfryngau cymdeithasol, gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu a theimlo’n llai unig neu ar wahân. Rydym hefyd wedi helpu pobl i ddefnyddio bancio ar-lein yn hyderus, archebu apwyntiadau meddygol, a gwneud pryniannau ar-lein.
Mae ein rhaglen rhoi offer wedi galluogi llawer o unigolion i gael mynediad at wasanaethau digidol a gwella eu rhagolygon cyflogaeth. Bydd y cynnig hon yn parhau ar gyfer y rhai 16 oed a throsodd, er bod adnoddau’n gyfyngedig. I sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf, byddwn yn hysbysebu’r cyfle i dderbyn offer yn ofalus. Unwaith y bydd yr holl offer ar gael wedi’u dosbarthu, bydd y rhan hon o’r rhaglen yn diweddu.
Wrth edrych ymlaen, rydym yn parhau i gefnogi cymunedau Sir Ddinbych gydag un hyfforddwr cyflenwi penodedig. Byddwn yn cynnig cymorth yn yr un meysydd ag o’r blaen ac, er y byddwn yn cynnal llai o sesiynau bob wythnos, byddwn yn treulio mwy o amser ym mhob sesiwn i sicrhau bod pawb sy’n mynychu yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau, a gallwch ddod o hyd i wybodaeth am leoliadau, dyddiau ac amseroedd ein sesiynau cymorth wedi’u trefnu ar ein gwefan:
Digwyddiadau | Hyder Digidol Sir Ddinbych – Cwmpas
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn gallu elwa o gymorth digidol, cysylltwch â ni ar 0300 111 5050, dewiswch opsiwn 2 ar gyfer cymorth digidol ac yna opsiwn 1 ar gyfer tîm Hyder Digidol Sir Ddinbych. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom yn dcdenbighshire@cwmpas.coop.