Cwmpas yn cyhoeddi amrywiaeth o ganllawiau cynhwysiant digidol i arwain y ffordd i les digidol yng Nghymru

Mae tîm Cwmpas Cymunedau Digidol Cymru (CDC): Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn awdurdod blaenllaw ar hyfforddiant cynhwysiant digidol yng Nghymru.
Mae CDC wedi cynhyrchu amrywiaeth o ganllawiau hyfforddi cynhwysiant digidol i gefnogi pobl Cymru, wedi’u hanelu at feysydd ffocws thematig y rhaglen: Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai Cymdeithasol, Pobl Hŷn, Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig, a Chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Mae potensial sylweddol i gynhwysiant digidol wella iechyd a lles pobl hŷn a phobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor yng Nghymru. Mae’r twf cyflym mewn technolegau digidol yn cynnig cyfleoedd anhygoel i bobl gymryd rhan weithredol yn eu gofal a gwella eu hiechyd a’u lles.
Mae risg ddifrifol y bydd pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn cael eu gadael ar ôl, gan greu anghydraddoldebau iechyd pellach.
Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol:
“Nid yw pontio’r gagendor digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig – mae’n ymwneud â meithrin ymdeimlad o gynhwysiant, grymuso, a dysgu gydol oes. Gyda’n gilydd, gallwn greu cymdeithas sy’n fwy cynhwysol yn ddigidol.
“Gwyddom mai’r ffordd orau o gyrraedd y bobl sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl yn y dirwedd ddigidol sy’n newid yn barhaus yw gweithio gyda’r sefydliadau a’r cymunedau sy’n eu cefnogi’n uniongyrchol.
“Gall cael y mynediad, y sgiliau, yr hyder a’r cymhelliant wella galluoedd pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg.”
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mewn perygl sylweddol o gael eu hallgáu mae pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan eu bod yn wynebu mwy o rwystrau na’r mwyafrif. Gall y rhwystrau hynny gynnwys diffyg mynediad i fand eang ar safleoedd, anhawster gyda mynediad tanysgrifiad oherwydd diffyg cyfeiriad cartref sefydlog, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu.
Mae CDC hefyd yn cefnogi pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru i elwa o gael sgiliau digidol, a all wella rhyngweithio cymdeithasol, cyrchu gwybodaeth a gwasanaethau, a chadw’n ddiogel ar-lein. Mae’r rhaglen hefyd yn gweithio’n helaeth gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithredu ledled Cymru sydd mewn sefyllfa gref i gefnogi tenantiaid, ac aelodau o’r gymuned, i gynyddu eu sgiliau digidol, eu hyder a’u lles.
Gall cael sgiliau digidol wella cysylltiadau cymdeithasol, galluogi mynediad at wybodaeth a darparu mynediad at wasanaethau ar-lein.
Mae Cwmpas bellach yn cynnig amrywiaeth o ganllawiau hyfforddi digidol ar-lein ymarferol a defnyddiol, gyda phynciau sy’n ymdrin â diogelwch ar-lein, realiti rhithwir, taflen adnoddau diogelwch ar-lein, canllaw hygyrchedd, a chyfarwyddiadau cam wrth gam ar greu cyfrif ar gyfer Alexa neu Google Assistant ar ddyfeisiau clyfar. Mae’r dolenni i’r rheini wedi’u rhestru isod.
Trwy ddefnyddio a hyrwyddo’r canllawiau hyn a phartneru â Chwmpas, gall sefydliadau rymuso unigolion i ymgysylltu’n hyderus â thechnoleg a’r byd ar-lein.
Cysylltwch â ni i ddanrganfod mwy.
Canllawiau hyfforddi digidol Cwmpas
Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad at ganllawiau hyfforddi cynhwysiant digidol Cymunedau Digidol Cymru.
- Apiau ar gyfer Lles ac Annibyniaeth: Lles a meddwlgarwch, gemau, cwisiau a gweithgareddau, ac gerddoriaeth ac adloniant.
- Iechyd a Llythrennedd Digidol: Cyrchu gwefannau GIG Cymru, cyrchu gwybodaeth iechyd ddibynadwy ar-lein, ac offer digidol i gefnogi eich iechyd.
- Taflen Adnoddau Diogelwch Ar-lein: Gwirio bod gwefan yn ddiogel, creu cyfrifon diogel ar-lein, a cadw eich dyfais yn gyfredol.
- Meddwl yn feirniadol ar-lein: Beth yw meddwl yn feirniadol? Twyllwybodaeth a chamwybodaeth, swigod hidlydd a siambrau adlais ar y cyfryngau cymdeithasol, ac Deallusrwydd Artiffisial (AI).
- Cyfryngau cymdeithasol a deall ffiniau: Cyhoeddus yn ddiofyn, newidiwch eich gosodiadau preifatrwydd, osgoi gor-rannu gwybodaeth ar-lein, a MEDDYLIWCH cyn i chi bostio.
- Canllaw hygyrchedd: Ynglŷn â hygyrchedd, hygyrchedd ar eich dyfais, rheolaeth llais, darllenwyr sgrin, a chwyddo.
- Canllaw creu cyfrif ar ddyfais glyfar: Ynglŷn â dyfeisiau clyfar, creu cyfrif, a sefydlu eich dyfais glyfar.
- Offer digidol i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia: Cymorth digidol i’r rhai sy’n byw gyda dementia, a phethau y gall technoleg helpu gyda nhw.