Cwmpas yn cyhoeddi amrywiaeth o ganllawiau cynhwysiant digidol i arwain y ffordd i les digidol yng Nghymru

25 Mawrth 2025

Mae tîm Cwmpas Cymunedau Digidol Cymru (CDC): Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn awdurdod blaenllaw ar hyfforddiant cynhwysiant digidol yng Nghymru.

Mae CDC wedi cynhyrchu amrywiaeth o ganllawiau hyfforddi cynhwysiant digidol i gefnogi pobl Cymru, wedi’u hanelu at feysydd ffocws thematig y rhaglen: Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai Cymdeithasol, Pobl Hŷn, Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig, a Chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Mae potensial sylweddol i gynhwysiant digidol wella iechyd a lles pobl hŷn a phobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor yng Nghymru. Mae’r twf cyflym mewn technolegau digidol yn cynnig cyfleoedd anhygoel i bobl gymryd rhan weithredol yn eu gofal a gwella eu hiechyd a’u lles.

Mae risg ddifrifol y bydd pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn cael eu gadael ar ôl, gan greu anghydraddoldebau iechyd pellach.

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol:

“Nid yw pontio’r gagendor digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig – mae’n ymwneud â meithrin ymdeimlad o gynhwysiant, grymuso, a dysgu gydol oes. Gyda’n gilydd, gallwn greu cymdeithas sy’n fwy cynhwysol yn ddigidol.  

“Gwyddom mai’r ffordd orau o gyrraedd y bobl sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl yn y dirwedd ddigidol sy’n newid yn barhaus yw gweithio gyda’r sefydliadau a’r cymunedau sy’n eu cefnogi’n uniongyrchol.

 “Gall cael y mynediad, y sgiliau, yr hyder a’r cymhelliant wella galluoedd pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg.”

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mewn perygl sylweddol o gael eu hallgáu mae pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan eu bod yn wynebu mwy o rwystrau na’r mwyafrif. Gall y rhwystrau hynny gynnwys diffyg mynediad i fand eang ar safleoedd, anhawster gyda mynediad tanysgrifiad oherwydd diffyg cyfeiriad cartref sefydlog, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu.

Mae CDC hefyd yn cefnogi pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru i elwa o gael sgiliau digidol, a all wella rhyngweithio cymdeithasol, cyrchu gwybodaeth a gwasanaethau, a chadw’n ddiogel ar-lein. Mae’r rhaglen hefyd yn gweithio’n helaeth gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithredu ledled Cymru sydd mewn sefyllfa gref i gefnogi tenantiaid, ac aelodau o’r gymuned, i gynyddu eu sgiliau digidol, eu hyder a’u lles.

Gall cael sgiliau digidol wella cysylltiadau cymdeithasol, galluogi mynediad at wybodaeth a darparu mynediad at wasanaethau ar-lein.

Mae Cwmpas bellach yn cynnig amrywiaeth o ganllawiau hyfforddi digidol ar-lein ymarferol a defnyddiol, gyda phynciau sy’n ymdrin â diogelwch ar-lein, realiti rhithwir, taflen adnoddau diogelwch ar-lein, canllaw hygyrchedd, a chyfarwyddiadau cam wrth gam ar greu cyfrif ar gyfer Alexa neu Google Assistant ar ddyfeisiau clyfar. Mae’r dolenni i’r rheini wedi’u rhestru isod.

Trwy ddefnyddio a hyrwyddo’r canllawiau hyn a phartneru â Chwmpas, gall sefydliadau rymuso unigolion i ymgysylltu’n hyderus â thechnoleg a’r byd ar-lein.

Cysylltwch â ni  i ddanrganfod mwy.

Canllawiau hyfforddi digidol Cwmpas
Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad at ganllawiau hyfforddi cynhwysiant digidol Cymunedau Digidol Cymru.