Arweinwyr Cymdeithasol Cymru: Rhaglen newydd yn cael ei lansio i ddarparu datblygiad o ran arweinyddiaeth am ddim i’r Trydydd Sector yng Nghymru

21 Chwefror 2024

Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn rhaglen datblygu arweinyddiaeth gynhwysfawr a rhad ac am ddim wedi’i theilwra ar gyfer arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol ledled Cymru.

Mae’r fenter hon, sydd wedi’i gwneud yn bosibl drwy arian o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Gan adeiladu ar y llwyddiant a’r ysbrydoliaeth a gafwyd o’u prosiect peilot yn 2021/22, nod Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yw grymuso arweinwyr ar bob cam o’u taith i feithrin trydydd sector bywiog ac amrywiol.

“Roedd y sesiynau’n hynod ddefnyddiol, cymaint o wybodaeth ac ymarfer defnyddiol yn cael eu rhannu, mae wedi cael effaith enfawr ar fy ngwaith yn barod ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i wneud hynny wrth i amser fynd yn ei flaen. Hefyd, mae’r arddull cyd-hwyluso yn hynod gefnogol a grymusol ac wedi creu awyrgylch ymlaciol iawn, wrth ymgysylltu, i ddysgu a thyfu.” – Cyfranogwr peilot Arweinwyr Cymdeithasol Cymru

Wrth fynd i’r afael ag arwyddocâd y rhaglen, dywedodd Dr Sarah Evans, Cyfarwyddwr Twf Busnes ac Ymgynghoriaeth Cwmpas…

“Gweledigaeth Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yw cefnogi arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru trwy ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a rhwydweithio i helpu adeiladu ar eu sgiliau presennol a chryfhau eu rhwydweithiau, a fydd yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol o fewn eu sefydliadau a’u cymunedau eu hunain. Credwn trwy fuddsoddi mewn datblygu arweinyddiaeth, ein bod nid yn unig yn llunio’r presennol ond hefyd yn gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i’n cymunedau.”

Mae gan y rhaglen sy’n cynnwys Rhaglen Arweinydd Cymunedol, Rhaglen Arweinydd Cenedlaethol, a chreu ‘Datganiad Arweinyddiaeth’, dri phrif amcan: datblygu arweinwyr ledled Cymru sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn galluogi’r trydydd sector i ffynnu, annog amrywiaeth mewn rolau arwain, ac annog cydlynu a chydweithio cymunedol.

Mae’r Rhaglen Arweinydd Cymunedol yn gwrs datblygu arweinyddiaeth hybrid am gyfnod o chwe mis a gynhelir i ddechrau yng Nghasnewydd, Abertawe a Wrecsam. Mae’n canolbwyntio ar ddod ag arweinwyr ynghyd i feithrin gallu, cryfhau cymunedau, a hwyluso dysgu gan gymheiriaid.

Mae’r Rhaglen Arweinydd Cenedlaethol yn cynnwys dwy raglen datblygu arweinyddiaeth ar-lein a gynlluniwyd ar gyfer arweinwyr newydd a phrofiadol, sy’n rhychwantu pedwar mis.

Wedi’u cyflwyno mewn partneriaeth â Clore Social Leadership, mae’r rhaglenni Arweinydd Cymunedol ac Arweinydd Cenedlaethol yn darparu amser penodol ar gyfer gwella lles ac adeiladu rhwydweithiau cymheiriaid cryf.

Mae’r ‘Datganiad Arweinyddiaeth’ yn gydweithrediad deinamig sy’n cynnwys cyn-fyfyrwyr, cyfranogwyr rhaglenni, y trydydd sector, a rhanddeiliaid allweddol eraill. Ein cenhadaeth: Diffinio beth yw arweinyddiaeth gymdeithasol dda yng nghyd-destun gweithio yn y trydydd sector yng Nghymru, ymrwymo i gryfhau datblygiad arweinyddiaeth yn y tymor hir, pwysleisio gwerth buddsoddi mewn arweinyddiaeth a thynnu sylw at arweinyddiaeth gymdeithasol effeithiol.

“Nid teitl na safle sy’n bwysig mewn arweinyddiaeth yn y sector gwirfoddol, ond arweinyddiaeth ar bob lefel, gan bawb” meddai Sara Sellek, Cyfarwyddwr Cynorthwyol CGGC. “Bydd y prosiect hwn yn galluogi gwirfoddolwyr a staff cyflogedig i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a hyder i arwain newid yn eu sefydliadau a’u cymunedau”.

Ychwanegodd Nadia Alomar, Prif Swyddog Gweithredol Clore Social Leadership…

Drwy Arweinwyr Cymdeithasol Cymru, ein nod yw creu ecosystem bwerus sy’n meithrin ac yn grymuso arweinwyr o fewn y trydydd sector, er budd cymunedau ledled Cymru. Credwn yn gryf fod arweinyddiaeth effeithiol yn ganolog i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, ysgogi newid cadarnhaol a chael effaith barhaus ar gymdeithas.”

Mae’r cyfnod ymgeisio bellach ar agor ar gyfer y Rhaglen Arweinydd Cymunedol cyntaf yng Nghasnewydd, sy’n rhedeg o fis Mehefin i fis Rhagfyr 2024, ac mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar 22 Ebrill 2024.

Am fwy o wybodaeth, ac i wneud cais, ewch i: https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/social-leaders-cymru/.