Arweinwyr Cymdeithasol Cymru

Arweinwyr Cymdeithasol Cymru

Rhaglen datblygu arweinyddiaeth am ddim i arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru. Mae Social Leaders Cymru 2024 ar Agor. 

Mae rhaglen arweinyddiaeth Arweinwyr Cymdeithasol Cymru wedi’i llunio i gefnogi arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol ar bob cam o’u taith arweinyddiaeth.

Gan adeiladu ar y prosiect peilot yng Nghymru yn ystod 2021/22 bydd y rhaglen newydd, a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a gyflwynir mewn partneriaeth â Clore Social Leadership a WCVA yn:

  • datblygu arweinwyr ledled Cymru a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn galluogi’r trydydd sector i ffynnu
  • ymgysylltu ag arweinwyr o gefndiroedd amrywiol
  • annog cydlyniant a chydweithredu cymunedol.

Cyflwynir gan Clore Social Leadership, gan weithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr Rhaglen yng Nghymru. Mae’r rhaglenni Arweinydd Cymunedol a Cenedlaethol yn creu amser, caniatâd a lle i wella lles a datblygu rhwydweithiau cyfoedion cryf.  Fe’u cynlluniwyd i ehangu eich sgiliau presennol fel arweinydd i ddod yn fwy hyderus, wedi’u grymuso a’u gwydn.

Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru wedi cael eu creu i gefnogi arweinwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.

Dysgwch fwy am ein Rhaglenni a Chyfleoedd Social Leaders Cymru:

Rydym yn dod ag arweinwyr cymdeithasol at ei gilydd i feithrin gallu, cryfhau cymunedau a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Rhaglen datblygu arweinyddiaeth chwe mis ar gyfer pobl â phob lefel o brofiad – ar-lein ac yn bersonol. Darganfyddwch fwy!

CASNEWYDD: Mae ceisiadau wedi cau am Raglen Arweinydd Cymunedol Cymru (Casnewydd). Bydd y sesiynau mewn-person yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd, De Cymru. Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Mehefin – fis Rhagfyr 2024. 

WRECSAM: Mae ceisiadau ar agor am raglen Arweinydd Cymunedol Cymru (Wrecsam). Bydd y sesiynau personol yn cael eu cynnal yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Medi – fis Mawrth 2025. Gwnewch gais yma.

ABERTAWE: Bydd y rhaglen yn agor Hydref 2024. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Ionawr 2025 – Gorffennaf 2025. Cofrestrwch eich diddordeb!

Rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar-lein am bedwar mis. Darganfyddwch fwy.

Arweinydd Newydd Cymru:  Rhaglen ar-lein chwe mis wedi’i llunio ar gyfer arweinwyr yng Nghymru sydd â thair i chwe blynedd o brofiad arwain yn y sector cymdeithasol. Fe fydd y rhaglen yn rhedeg – Medi 2024 – Mawrth 2025. Cofrestrwch eich diddordeb!

Arweinydd profiadol Cymru: Rhaglen ar-lein chwe mis wedi’i llunio ar gyfer arweinwyr yng Nghymru sydd â chwe blynedd a mwy o brofiad arwain yn y sector cymdeithasol. Ceisiadau yn agor Hydref 2024. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Ionawr ac Ebrill 2025. Cofrestrwch eich diddordeb!

Cyd-lunio ‘datganiad arweinyddiaeth’ drwy gyfres o weithgareddau ymgysylltu â

  • chyn-fyfyrwyr o’r prosiect peilot,
  • cyfranogwyr o’r rhaglenni arweinyddiaeth sydd ar y gweill,
  • sefydliadau’r trydydd sector
  • budd-ddeiliaid eraill sydd â diddordeb

Bydd y datganiad yn nodi:

  • beth mae’r sector cymdeithasol yn ei ystyried yn arweinyddiaeth dda yng nghyd-destun ei waith yng Nghymru;
  • sut y gallwn ymrwymo i gryfhau arweinyddiaeth yn y tymor hir;
  • y dull y dylai arweinwyr cymdeithasol ei gymryd i ddod o hyd i atebion;
  • gwerth datblygu arweinyddiaeth;
  • manteision arweinyddiaeth gymdeithasol dda.

Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i gefnogi dyfodol arweinyddiaeth gymdeithasol yng Nghymru.

Cofrestru eich diddordeb i gymryd rhan.

Arweinydd Cymunedol Cymru (Casnewydd)

Rhaglen datblygu arweinyddiaeth chwe mis gyda sesiynau ar-lein ac wyneb-i-wyneb. Y lleoliad cyntaf yw Casnewydd, De Cymru ac mae ceisiadau bellach ar gau. Bydd y rhaglen yn rhedeg Mehefin – Rhagfyr 2024.

More about Social Leaders Cymru
Arweinydd Cymunedol Cymru (Wrecsam)

Rhaglen datblygu arweinyddiaeth chwe mis gyda sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025. Mae ceisiadau ar agor.

Ymgeisiwch nawr
Arweinydd Cymunedol Cymru (Abertawe)

Rhaglen datblygu arweinyddiaeth chwe mis gyda sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Ionawr 2025 tan fis Gorffennaf 2025. Bydd ceisiadau'n agor yn fuan.

Cofrestrwch eich diddordeb
Arweinydd Newydd Cymru (Ar-lein)

Arweinydd Newydd Cymru: Rhaglen ar-lein chwe mis wedi'i llunio ar gyfer arweinwyr yng Nghymru sydd â thair i chwe blynedd o brofiad arwain yn y sector cymdeithasol. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Medi 2024 a Rhagfyr 2024. Bydd ceisiadau'n agor yn fuan.

Cofrestrwch eich diddordeb
Arweinydd Profiadol Cymru (Ar-lein)

Arweinydd Profiadol Cymru: ar gyfer arweinwyr yng Nghymru sydd â chwe blynedd a mwy o brofiad arwain yn y sector cymdeithasol. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Ionawr 2025 a Gorffennaf 2025. Bydd ceisiadau'n agor yn yr Hydref.

Cofrestrwch eich diddordeb
Datganiad Arweinyddiaeth

Trwy gyfres o weithgareddau ymgysylltu gyda Cwmpas, ymunwch â'r sgwrs a helpu i lunio 'Datganiad Arweinyddiaeth' i gefnogi datblygiad Arweinyddiaeth Gymdeithasol yng Nghymru.

Cofrestrwch eich diddordeb
Gwneud cais am Arweinydd Cymunedol Cymru (Wrecsam)
Mae ceisiadau ar agor am raglen Arweinydd Cymunedol Cymru yn Wrecsam. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Medi 2024 - Mawrth 2025.
Ymgeisiwch nawr!
Oes gennych chi ddiddordeb mewn Arweinydd Cymunedol Cymru (Wrecsam)? Ymunwch â'n sesiwn holi ac ateb
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar ddydd Mercher 22 Mai 12:30-13:30 i gael gwybod mwy am y rhaglenni, cwrdd â thîm Rhaglenni Arweinyddiaeth Gymdeithasol Clore a chael ateb i'ch cwestiynau. Gallwch gofrestru am le ar y weminar yma, edrychwn ymlaen at eich gweld!
Archebwch eich lle

Ein Noddwyr a’n Partneriaid

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Cwmpas yn darparu Arweinwyr Cymdeithasol Cymru mewn partneriaeth â Clore Social Leadership a CGGC.

Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac rydyn ni’n falch o fod yn bartner cyflawni ar gyfer y rhaglen unigryw hon yng Nghymru.

Cefnogir y prosiect gan Grŵp Cynghori ar Brosiect y mae ei aelodau’n adlewyrchu amrywiaeth a chyrhaeddiad y sector – sy’n arwydd o’r effaith rydyn ni am i’r rhaglenni ei chael. Rôl y grŵp Cynghori yw helpu i lunio’r rhaglen er mwyn ei gwneud yn berthnasol ac yn effeithiol i’r sector cymdeithasol yng Nghymru

Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar ddydd Mercher 13 Mawrth 12:30 - 13:30 i gael gwybod mwy am y rhaglenni, cwrdd â thîm Rhaglenni Arweinyddiaeth Gymdeithasol Clore a chael ateb i'ch cwestiynau. Gallwch gofrestru lle ar gyfer y weminar yma, edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!