Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024

Dathlu Mentrau Cymdeithasol yng Nghymru.

Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024

Mae ceisiadau wedi cau!

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn tynnu sylw at dwf a photensial y sector menter gymdeithasol yng Nghymru. Nid dim ond seremoni wobrwyo arall yw hon – mae’n deyrnged i’r ymdrechion diflino a fydd yn llunio ein dyfodol.

Gyda 6 chategori o wobrau, mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni yn datgelu straeon eithriadol mentrau ac entrepreneuriaid cymdeithasol sydd nid yn unig wedi goroesi’r storm ond sydd wedi dod i’r amlwg fel ffaglau newid yn y 12 mis diwethaf. Mae’n bryd cymeradwyo’r rhai a feiddiai wneud gwahaniaeth, gan drawsnewid bywydau a chymunedau.

Bydd enillwyr gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwobrau Social Enterprise UK ym mis Rhagfyr.

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o wasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru ac yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Fe’i cyflwynir gan gonsortiwm o ddarparwyr sy’n cynnwys Cwmpas, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd a CGGC.

 

Categoriau

  • Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
  • Un i’w Wylio
  • Menter Gymdeithasol Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder
  • Menter Gymdeithasol Technoleg y Flwyddyn
  • Menter Gymdeithasol yn y Gymuned
  • Arloesedd y Flwyddyn
Seremoni Wobrwyo a Cynhadledd 2024

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o ddigwyddiad deuddydd gan gynnwys Cynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru'r diwrnod canlynol.

Cynhelir y Gwobrau yn Venue Cymru, Llandudno, ar y 1af o Hydref, ac yna Cynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru ar yr 2il o Hydref.

Mynnwch eich Tocyn
Bwrsari'r Gwobrau a Chynhadledd

Rydym wrth ein bodd unwaith eto i gynnig bwrsariaeth i gefnogi mynychwyr o gymunedau a chefndiroedd amrywiol i fynychu'r Gwobrau a'r Gynhadledd.

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen isod ac anfon i awards@cwmpas.coop.

I gael rhagor o wybodaeth am y fwrsariaeth e-bostiwch awards@cwmpas.coop.

Wnewch gais am y fwrsariaeth

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn noddwr?

Os ydych yn gweithio i fudiad trydydd sector, corff sector cyhoeddus neu fusnes preifat, gallwch chi gymryd rhan yn y daith wobrwyo ysbrydoledig hon.

Eleni, mae gennym ystod wych o opsiynau nawdd i chi eu hystyried.

Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yw’r prif ddigwyddiad ar gyfer y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru ac mae bob amser yn denu nifer fawr o gynrychiolwyr, gan gynnwys staff busnes cymdeithasol ac aelodau bwrdd, uwch weision sifil, cyfarwyddwyr awdurdodau lleol a chyfryngwyr cymorth busnes o bob rhan o Gymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi neu’n gwybod am fudiad a allai fod â diddordeb, yna cysylltwch ag Elin Evans, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau Cwmpas: elin.evans@cwmpas.coop / 07464548058.

Ennillwyr 2023
Darllenwch fwy am y mentrau cymdeithasol anhygoel a enillodd Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn 2023.
Darllenwch Mwy