Ariannu a chyllid

Ariannu a chyllid

Un o’r cwesitynau cyntaf a mwyaf dybryd a ofynnir ar dai dan arweiniad y gymuned yw sut i’w ariannu.

Rydym yn awgrymu rhannu’r costau yn dair adran: Grŵp, Cynllun/Safle, ac Adeiladu. Gweler isod am y mathau o dreuliau y gallech eu disgwyl ar bob pwynt o’r daith:

Grŵp
  • Cynnal cyfarfodydd
  • Cynnal ymchwil/arolygon anghenion tai
  • Ymweld â phrosiectau TDAG eraill
  • Costau corffori
Cynllun/Safle
  • Arolygon safle
  • Cynllunio
  • Caffael tir
  • Ffioedd proffesiynol
Adeiladu
  • Adeiladu/adnewyddu
  • Ffioedd proffesiynol

Mae’r tabl isod yn dangos y cymysgedd o gyllid y gallai grŵp TDAG ddymuno ei gael ar adegau gwahanol. Mewn datblygiad arferol y benthyciad/cyllid morgais fyddai’r incwm mwyaf ar gyfer yr adran prynu ac adeiladu safle, gyda grantiau a chyllid yn ychwanegu at arian ar gyfer datblygu a chostau prosiectau atodol.

Mae rhagor o wybodaeth am ariannu prosiectau TDAG ar gael yma.