Dod i adnabod Ap newydd GIG Cymru | Hyder Digidol Sir Ddinbych

Ymunwch ag un o dair sesiwn Zoom am ddim ym mis Chwefror a dysgu mwy am Ap GIG Cymru.

Dod i adnabod Ap newydd GIG Cymru | Hyder Digidol Sir Ddinbych

Fyddwn yn eich helpu i gael mynediad i apwyntiadau meddyg teulu, presgripsiynau a gwybodaeth iechyd o’ch ffôn clyfar, tabled neu liniadur.

Mae ap newydd GIG Cymru yn cael ei gyflwyno ledled Cymru eleni, ac mae Hyder Digidol Sir Ddinbych yma i’ch cefnogi a’ch arwain drwyddo. Ymunwch â ni yn mis Chwefror ar gyfer tair sesiwn hyfforddi Zoom rhad ac am ddim lle byddwn yn rhoi blas ichi ar sut i’ch helpu i wneud y gorau o’r app defnyddiol hwn.

Dewiswch ddyddiad ac amser sy’n addas i chi a chliciwch ar un o’r dolenni isod i gofrestru ar gyfer sesiwn sydd i ddod – dyna pa mor hawdd ydi hi i ddechrau!

 

Dod i adnabod Ap GIG Cymru – Dydd Iau | 08.02.24 | 10-11yb

Dod i adnabod Ap GIG Cymru – Dydd Iau | 15.02.24 | 2-3yb

Dod i adnabod Ap GIG Cymru – Dydd Iau | 22.02.24 | 6-7yh

Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno yn Saesneg.

 

Oeddech chi’n gwybod fod hyd at 9% o boblogaeth Sir Ddinbych ddim ar-lein, o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 7%? Mae Hyder Digidol Sir Ddinbych yn cynnal ystod o sesiynau hyfforddi sgiliau digidol ar-lein ac wyneb yn wyneb yn 2024 sydd am ddim i’w mynychu. Ewch i’n tudalen we digwyddiadau i gymryd rhan. 

Ariennir y prosiect hwn gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.