Map Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru

Defnyddiwch ein map Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru i ddarganfod cynigion byw yn eich ardal a gofyn am gefnogaeth leol gan ein rhwydwaith o Ymarferwyr a Mentoriaid

<strong>Map Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru</strong>

Map o’r Sector

Rydym wedi creu map i ddangos cryfder y sector cyfranddaliadau cymunedol yng Nghymru i chi. Mae’r sefydliadau sy’n ymddangos ar y map naill ai wedi lansio cynnig cyfranddaliadau cymunedol yn llwyddiannus, neu mae ganddynt gynnig yn fyw ar hyn o bryd! Gallwch hefyd weld lle mae ein rhwydwaith o Ymarferwyr a Mentoriaid wedi’u lleoli.

Sut i ddefnyddio’r map

  • Cliciwch ar yr eicon saeth (chwith uchaf) i ddod â’r opsiynau hidlo i fyny
  • Defnyddiwch yr opsiynau sydd ar gael i ddangos y data rydych yn chwilio amdano e.e. Mentoriaid ac Ymarferwyr
  • Gallwch weld y map yn y modd sgrin lawn trwy glicio ar yr eicon sgwâr (dde uchaf)
  • Gellir rhannu’r map hwn ag eraill a bydd yn cael ei wreiddio ar safleoedd eraill

Os hoffech i ni gynnwys eich sefydliad neu dderbyn arweiniad gan un o’n Hymarferwyr neu Fentoriaid, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch 0300 111 5050.

Mae ein tîm yn frwd dros berchnogaeth gymunedol ac yn mwynhau gweithio gyda phobl ledled Cymru i godi’r cyfalaf sydd ei angen arnynt i gyflawni gweledigaeth a rennir. Os oes angen cymorth arnoch, neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.

Os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i Gymru ac angen cymorth gyda’ch cynllun cyfranddaliadau cymunedol, ewch i dudalen we Cyfranddaliadau Cymunedol yn Co-operative’s UK: Community Shares | Co-operatives UK

Tudalen gartref Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru: Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru

Darganfod mwy gan Cwmpas: Ein gwasanaethau