Blog Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru
Postiadau blog gan dîm Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru, ac yn cynnwys gwesteion o fyd ehangach cyfranddaliadau cymunedol. Mae erthyglau yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau
![Blog Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru](https://cy.cwmpas.coop/wp-content/uploads/2022/11/Havards-6-720x405.jpg)
Croeso i'r blog cyntaf gan Brosiect Cadernid Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru! Rydym yn brosiect newydd wedi ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru ac yn cael ei ddarparu gan Cwmpas. Ein nod yw helpu cymunedau i gael buddsoddiad i ddiogelu a chryfhau’r pethau sydd o bwys iddyn nhw.
Mae ein tîm yn frwd dros berchnogaeth gymunedol ac yn mwynhau gweithio gyda phobl ledled Cymru i godi’r cyfalaf sydd ei angen arnynt i gyflawni gweledigaeth a rennir. Os oes angen cymorth arnoch, neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.
Os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i Gymru ac angen cymorth gyda’ch cynllun cyfranddaliadau cymunedol, ewch i dudalen we Cyfranddaliadau Cymunedol yn Co-operative’s UK: Community Shares | Co-operatives UK
Tudalen gartref Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru: Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru
Darganfod mwy gan Cwmpas: Ein gwasanaethau