Interniaeth Cymunedau’n Creu Cartrefi 2024

Interniaeth Cymunedau’n Creu Cartrefi 2024

Mae Cwmpas yn cynnig interniaethau gyda’n Cyfarwyddiaeth Cymunedau Cynhwysol. Nod yr interniaeth 12 mis yn y tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi yw ymgysylltu â phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol amrywiol ynghylch eu hanghenion tai a chynyddu ymwybyddiaeth o dai a arweinir gan y gymuned i bobl sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli yn y mudiad tai a arweinir gan y gymuned. Mae’r interniaeth hon ar gael i unrhyw un18+ oed, ar unrhyw gam yn eu gyrfa, fel cyfle i weithio gyda’r unig ganolfan dai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru.

Ein sefydliad

Mae Cwmpas yn asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio dros newid cadarnhaol, yng Nghymru ac ar draws y DU. Rydym yn fenter gydweithredol, ac rydym yn canolbwyntio ar adeiladu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod gyntaf.

Ein nod yw creu economi wyrddach a thecach drwy weithio i gynyddu cyfran yr economi sy’n fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr; cymdeithas fwy cyfartal drwy weithio i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol – cynyddu mynediad, tegwch, amrywiaeth a chyfranogiad; a sicrhau bod newid cadarnhaol yn digwydd drwy weithio gyda phobl a sefydliadau i weithredu er lles cymdeithasol.

Yn sail i’n gwaith mae ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth i bobl, cymunedau a busnesau mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd cydweithredol ein hunain. Credwn fod y ffordd rydym yn gwneud pethau yr un mor bwysig â’r hyn a wnawn. Mae ein gwerthoedd wedi’u hysbrydoli gan yr egwyddorion cydweithredol rhyngwladol ond maent wedi’u hysgrifennu yng ngeiriau ein staff. Dyma nhw:

  • bod yn gydweithredol
  • bod yn gefnogol
  • bod yn deg
  • bod yn onest
  • bod yn bositif
  • bod yn ysbrydoledig.

Fel sefydliad nid-er-elw, mae ein gwaith yn cael ei ariannu drwy gontractau a masnachu yn ogystal â chael ei gefnogi gan amrywiaeth o gyllidwyr gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Gallwch ddarllen am ein meysydd gwaith yma, a gallwch ddarllen am yr effaith a gawn yma.

 

Ein pobl

Ar draws Cymru rydym yn cyflogi bron i 100 o bobl erbyn hyn, o wahanol oedrannau, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.  Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad ydym yn cynrychioli’r cymunedau a’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu’n llawn o ran hil ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cofleidio sgiliau, galluoedd a phrofiadau diwylliannol pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn llawn oherwydd credwn fod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i’n twf.

 

Ein cyfle

Beth yw’r nod?

Mae digon o dystiolaeth bod pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol amrywiol yn profi gwahaniaethu ac anfantais yn y sector tai ac yn cael eu tangynrychioli yn y mudiad tai a arweinir gan y gymuned. Mae tai dan arweiniad y gymuned yn golygu bod pobl yn dod at ei gilydd i benderfynu ar y math o gartrefi a chymunedau maen nhw am fyw ynddynt. Gallai fod yn grŵp o ffrindiau sy’n trawsnewid eiddo gwag i’w rannu, cymunedau cyfan yn adeiladu eu cartrefi eu hunain neu gymdeithasau tai sy’n gweithio gyda’r gymuned i ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen sy’n iawn iddyn nhw. Nod yr interniaeth hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o dai a arweinir gan y gymuned ymhlith pobl sydd wedi profi rhwystrau tai a gosod y sylfeini i grwpiau o gymunedau sydd ar y cyrion yn aml i ffurfio’r hyn maent am ei ddatblygu fel eu prosiect tai dan arweiniad y gymuned. Rydym am sicrhau bod pobl o bob cymuned ledled Cymru yn cymryd rhan yn y penderfyniadau am eu hanghenion a’u dyfodol o ran tai.

Mae’r interniaeth hon ar gael i unrhyw un 18+ oed, ar unrhyw gam yn eu gyrfa, fel cyfle i weithio gyda’r unig ganolfan dai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru.

 

Beth sydd ar gael?

Byddwn yn cynnig interniaeth 12 mis gyda’n tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi. Byddwn yn talu’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y rôl hon, h.y. £12 yr awr (sy’n cyfateb i £21,840 y flwyddyn).

Yn ddelfrydol, byddai’r interniaeth yn swydd lawn amser (35 awr yr wythnos), ond byddem yn ystyried trefniant rhan-amser (21-35 awr yr wythnos) hefyd os yw hyn yn helpu i gefnogi ymrwymiadau eraill neu anghenion hygyrchedd.

Bydd yr Intern yn gweithio gartref gan ddefnyddio atebion digidol fel Microsoft Teams i gyfathrebu ag aelodau’r tîm a rheoli dogfennau gwaith. Bydd cyfarpar digidol yn cael ei gyflenwi i’w alluogi i wneud hyn.  Bydd cyfle i dreulio amser gyda thîm ehangach Cymunedau’n Creu Cartrefi wyneb yn wyneb. Pan fydd angen teithio yng Nghymru, bydd Cwmpas yn talu costau milltiroedd neu’n prynu tocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Cewch eich lleoli yn ein tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi a’ch ariannu gan Oak Foundation, a byddwch yn cyfrannu at estyn allan at bobl o gymunedau ymylol ledled Cymru ac ymgysylltu â nhw i hyrwyddo ac annog ymgysylltiad â’n rhaglen tai a arweinir gan y gymuned.

Bydd hyn yn cynnwys deall anghenion tai pobl ar y cyrion ac ymchwilio i’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu o ran manteisio ar dai a arweinir gan y gymuned. Byddwch yn meithrin cysylltiadau ystyrlon ac yn dod â phobl ynghyd i drafod yr heriau sy’n eu hwynebu, wrth hyrwyddo tai dan arweiniad y gymuned fel opsiwn tai yn y dyfodol.

Gallai diwrnod arferol gynnwys:

  • Siarad â chymunedau am eu hanghenion tai
  • Deall ac ymchwilio i anghenion tai a rhwystrau i grwpiau ymylol
  • Ymgysylltu â sefydliadau cymunedol a chyrff statudol i ddeall sut y gallant gefnogi tai a arweinir gan y gymuned
  • Cynnal digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned, gan gynnwys sesiynau gwybodaeth, sesiynau galw heibio, gweithdai ac ati.
  • Gweithio fel rhan o dîm i ddylanwadu ar lunwyr polisi a phenderfyniadau
  • Cysylltu ag interniaid eraill o fewn cyfarwyddiaeth Cymunedau Cynhwysol Cwmpas, a rhannu syniadau a dysgu.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

  • Byddwch yn dysgu am yr argyfwng tai yng Nghymru, a sut y gall tai a arweinir gan y gymuned gyfrannu drwy greu mwy o gartrefi fforddiadwy, wedi’u datblygu gan bobl leol ac ar eu cyfer.
  • Byddwch yn dysgu am fanteision tai a arweinir gan y gymuned, gan gynnwys sut y gallant leihau ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd, cynyddu hyder a sgiliau, yn ogystal â chreu cymunedau mwy gwydn a chydlynol.
  • Byddwch yn cael cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl a chymunedau, a’u helpu i weithredu wrth fynd i’r afael â materion sy’n bwysig iddyn nhw.
  • Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr o weithio fel rhan o dîm bach ond prysur, sy’n gweithio gyda chymunedau amrywiol ledled Cymru.
  • Byddwn yn rhoi cylch gwaith i chi ar gyfer eich gwaith, a fydd yn eich galluogi i weithio’n annibynnol a defnyddio eich creadigrwydd eich hun ond yn rhoi cymorth i chi hefyd pan fydd ei angen arnoch.
  • Bydd gennych fynediad i’n Hyb E-ddysgu, sydd â chasgliad eang o fodiwlau ar bynciau fel Iechyd a Diogelwch, GDPR, Arweinyddiaeth, TG a Llesiant. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm hefyd a byddwch yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd hyfforddi mewnol a allai godi o bryd i’w gilydd.

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch?

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd yn:

  • ymrwymedig i’n gwerthoedd sefydliadol
  • gallu hyrwyddo ein hymrwymiad i gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant
  • gallu cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i safon dda yn Saesneg
  • gallu trefnu eu hunain yn dda ac ymdrin â gwaith amrywiol ar gyfer terfynau amser gwahanol
  • gallu gweithio’n dda mewn tîm
  • gallu meddwl yn greadigol, ac awgrymu syniadau newydd
  • gallu defnyddio cyfrifiadur, a phlatfformau fel Facebook, Twitter, LinkedIn neu YouTube yn ddelfrydol.

 

Pwy all ymgeisio?

Os ydych chi’n meddwl y byddech chi’n addas ar gyfer ein lleoliad gwaith, rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n gallu:

  • dangos bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
  • ymrwymo i’r cyfnod lleoliad llawn o 12 mis naill ai’n llawn amser neu’n rhan-amser
  • cyrchu’r rhyngrwyd o’u cartref
  • mynd i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau yn ôl yr angen.

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl sydd wedi’u tangynrychioli ym marchnad lafur Cymru yn draddodiadol, ond mae’r lleoliad hwn ar agor i bob ymgeisydd cymwys, waeth beth fo’u rhyw, oedran, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, cred neu anghrediniaeth, beichiogrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil. Mae’n agored hefyd i bobl ag unrhyw lefel o brofiad gwaith mewn unrhyw faes, gan gynnwys y rhai heb unrhyw brofiad o gwbl.

A woman works form home
Sut mae ymgeisio?
I wneud cais am yr interniaeth, cwblhewch ein ffurflen gais fer a'i hanfon at recruitment@cwmpas.coop. Rhaid i chi gyflwyno eich ceisiadau erbyn hanner nos ddydd Sul 14 Gorffennaf 2024. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Nicola Leybourne, Rheolwr Pobl a Diwylliant ar 029 2080 7113. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Ffurflen Cais