Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024 Cwmpas

Fel aelod o Cwmpas, fe’ch gwahoddir i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, a gynhelir ar-lein trwy Zoom ddydd Gwener 27 Medi 2024 am 10.00 am.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024 Cwmpas

Credwn y gall cwmnïau cydweithredol ac egwyddorion cydweithredol helpu pobl, teuluoedd, cymunedau a busnesau i fod yn gryfach ac yn fwy hyderus. Gallwch gefnogi’r egwyddorion hyn a helpu i ledaenu’r delfrydau hyn trwy gymryd rhan yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Fel aelod o Ganolfan Cydweithredol Cymru, estynnir gwahoddiad i chi ddod i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, y byddwn yn ei gynnal ar-lein trwy Zoom ddydd Gwener 27 Medi 2023 am 10:00.

Etholiadau i’r Bwrdd

Mae yna dair swydd wag ar y Bwrdd eleni.

Fel aelod mae gennych hawl i enwebu aelodau cymwys i gael eu hethol i’r tair swydd wag ar y Bwrdd. Os ydych am enwebu rhywun, neu eich enwebu eich hun, llenwch y ffurflen enwebu/datganiad sydd ar gael isod, a’i dychwelyd atom erbyn canol dydd, Dydd Mercher 28 fed o Awst 2023. 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb. Rydym yn gweithio’n ymwybodol tuag at Fwrdd sy’n cynrychioli ein rhanddeiliaid a’r gymuned ehangach yr ydym yn gweithio ynddi. I gyflawni hyn, byddem yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fenywod, aelodau o’r gymuned LGBTQI+, pobl du neu aelodau o gymunedau leiafrifoedd ethnig, a phobl sy’n byw y tu allan i dde-ddwyrain Cymru.

community benefit society cbs
Ymunwch â ni ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cwmpas 2024!
Cofrestrwch eich lle yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cwmpas 2024 trwy ein tudalen Eventbrite.
Archebwch eich lle