Adeiladu sector twristiaeth gynaliadwy trwy fenter gymdeithasol a pherchnogaeth gymunedol

15 Awst 2023

O ystyried yr amrywiaeth o wahanol ardaloedd o harddwch naturiol, gweithgareddau cyffrous a gwyliau ymlaciol sydd gan Gymru i’w cynnig, dydy hi’n ddim syndod bod twristiaeth yn rhan ganolog o’n heconomi. Yr haf hwn, bydd mentrau cymdeithasol ledled Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wneud ein trefi, ein cefn gwlad a’n glan y môr yn lleoedd deniadol, hamddenol a chyffrous i fod ynddyn nhw. Yn Cwmpas, rydyn ni’n credu y gall y model menter gymdeithasol sicrhau’r effaith gadarnhaol fwyaf posibl ar y sector twristiaeth tra’n sicrhau bod datblygiad o dan reolaeth y gymuned leol.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod y sector twristiaeth yn ychwanegu £6.2bn i’r economi bob blwyddyn, ac yn cyflogi dros 172,000 o bobl. O ystyried pa mor bwysig yw twristiaeth i’n cymunedau, mae’n hanfodol cael strategaeth i sicrhau ei bod ei fod yn rhoi’r gwerth mwyaf posibl i Gymru. Serch hynny, mae effaith y diwydiant twristiaeth yn gymhleth – fel gyda phob agwedd o’n heconomi, mae angen i ni symud ymhellach na’r cysyniad o dwf er mwyn twf. Mae angen i ni ddiffinio gwerth yn ôl yr effaith gyffredinol mae’n ei gael ar bobl a’r blaned – nid gwerth economaidd yn unig.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn arddangos mentrau cymdeithasol ledled y wlad sy’n helpu i wneud Cymru’n gyrchfan wych i dwristiaid tra’n cyfrannu at genhadaeth gadarnhaol – boed hynny’n ail-fuddsoddi elw mewn cymunedau lleol, gan greu cyfleoedd gwaith i’r rhai hynny sydd y tu allan i’r farchnad lafur, gwarchod ein hiaith a’n diwylliant, neu warchod yr amgylchedd.

Rydyn ni am weld hyd yn oed mwy o’r farchnad dwristiaeth yng Nghymru yn cael ei llenwi gan fentrau cymdeithasol – boed hynny’n gwmnïau newydd yn cyflwyno dull newydd o weithredu, neu gwmnïau sy’n bodoli eisoes yn cael eu cefnogi i ymgorffori gwerth cymdeithasol. Nod y Weledigaeth a Chynllun Gweithredu Deng Mlynedd Trawsnewid Cymru drwy Fenter Gymdeithasol yw gwneud menter gymdeithasol yn fodel busnes o ddewis yng Nghymru erbyn 2030 a bydd ond yn bosibl cyflawni’r amcan uchelgeisiol hwn os yw entrepreneuriaid cymdeithasol a busnesau yn cael eu cefnogi.

Mae ein hadroddiad mapio diweddaraf yn dangos bod y sector mentrau cymdeithasol yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru, gydag entrepreneuriaid a busnesau yn ymateb i amseroedd heriol i’n cymunedau gyda syniadau ac arloesedd sy’n blaenoriaethu cynaliadwyedd a lles. Roedd yr ysbryd hwn yn glir mewn digwyddiad Hac Caredigrwydd diweddar a gafodd ei gynnal yng Nghaerffili. Roedd y rhaglen bwrpasol yn galluogi cymunedau i rannu dyheadau ar gyfer dyfodol twristiaeth gymunedol, gan droi gweledigaethau yn gynlluniau twristiaeth weithredol trwy gynhyrchu syniadau ar y cyd, profi dichonoldeb ac ymgynghori cymunedol ehangach. Roedd y syniadau a gynhyrchwyd yn cynnwys mynediad i dir a defnyddio tiroedd comin, creu menter gydweithredol i hyrwyddo digwyddiadau hyperlocal, a gwefan ac ap treftadaeth yn hyrwyddo llety a gweithgareddau.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi symud tuag at ddefnyddio’r dulliau polisi sydd ar gael iddi er mwyn cyfyngu ar effeithiau negyddol gordwristiaeth a sicrhau bod y sector yn cyfrannu at werth cymdeithasol mewn cymunedau. Er enghraifft, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru, mae’n cynnig rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno treth ymwelwyr yn ôl disgresiwn. Tâl bychan fyddai’r dreth a fyddai’n cael ei thalu gan bobl sy’n aros dros nos mewn llety sy’n cael ei osod yn fasnachol, gan godi arian newydd i’w ail-fuddsoddi mewn ardaloedd lleol.

Yn ogystal â’r mesurau hyn, mae’n hollbwysig ein bod yn ceisio trawsnewid y farchnad fel bod gwerth cymdeithasol yn cael ei flaenoriaethu i’r un graddau o leiaf â gwerth ariannol. Rydyn ni am iddi fod yn hawdd i ddefnyddwyr ddewis gwario eu harian ar fusnes sy’n cyfrannu at ddatblygu cymunedol, yn hytrach na thynnu cyfoeth neu gymryd penderfyniadau allan o ddwylo pobl leol.

Yr effaith ar y Gymraeg yw un o’r prif bryderon o ran gordwristiaeth yng Nghymru, ac mae Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru yn ceisio hyrwyddo datblygiad cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol dan arweiniad y gymuned mewn cymunedau Cymraeg. Mae ein prosiect Perthyn yn gweithio gyda phartneriaid sefydledig yn y cymunedau hyn i ddarparu cyllid a chefnogaeth er mwyn i gymunedau adeiladu modelau newydd sy’n cyfrannu at adeiladu cyfoeth cymunedol a diogelu cymunedau Cymraeg.

Mae Cwmpas yn gallu cefnogi busnesau, y sector cyhoeddus a chymunedau ledled Cymru i ddatblygu agweddau newydd dan arweiniad y gymuned at u diwydiant twristiaeth er mwyn sicrhau’r effaith gadarnhaol fwyaf bosibl. Os oes gennych syniad ar gyfer tyfu neu ddechrau busnes, os oes gennych ddiddordeb mewn ymgysylltu â’r gymuned ehangach er mwyn ail-ddychmygu dyfodol eich sector twristiaeth lleol, neu os hoffech chi ddysgu mwy am sut i wreiddio gwerth cymdeithasol yn eich gwaith, bydden ni’n falch iawn o’ch helpu. Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu neu cysylltwch â ni ar dan.roberts@cwmpas.coop i gael sgwrs.

Fel arall, edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf i weld enghreifftiau o fusnesau rhagorol sy’n gwneud Cymru’n lle cyffrous i ymweld ag ef, ond sydd ar yr un pryd yn defnyddio’r gwerth economaidd hwnnw i greu newid cadarnhaol sy’n cyfrannu at genhadaeth gymdeithasol neu amgylcheddol. Er mwyn wynebu’r heriau sy’n ein hwynebu fel gwlad, mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni’n gwneud busnes – ac mae menter gymdeithasol yn fodel sy’n gallu cyflawni’r newid hwnnw.