Strwythurau cyfreithiol
Manteision ac anfanteision gwahanol strwythurau cyfreithiol ar gyfer grwpiau TDAG
Strwythur cyfreithiol
Cwmni cyfyngedig trwy warrant - Nid oes gan gwmni cyfyngedig trwy warant unrhyw gyfranddaliadau na chyfranddalwyr ond mae’n eiddo i warantwyr sy’n cytuno i dalu swm penodol o arian tuag at ddyledion cwmni
Cwmni Buddiant Cymunedol - Mae’r ffurf gyfreithiol hon wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer sefydliadau sy’n dymuno hyrwyddo amcanion cymdeithasol fel menter gymdeithasol a defnyddio eu helw er lles y cyhoedd
Cymdeithas gydweithredol - Wedi'i ddiffinio fel sefydliadau sy'n bodloni egwyddorion a osodwyd gan y Gynghrair Gydweithredol Ryngwladol ac sydd er budd aelodau
Cymdeithas budd cymunedol - Rhaid i ymddygiad busnes cymdeithas budd cymunedol fod yn gyfan gwbl er budd y gymuned
Manteision
Hyblyg, addasadwy; Yn cael ei ddeall gan gyllidwyr; Hawdd a rhad i’w sefydlu a’i redeg; Gall cael statws elusennol
Clo asedau; Hawdd i'w sefydlu; Mynediad at gyllid; Aelodaeth agored
Strwythur gwastad – democrataidd; Di-elw; Aelodaeth gaeedig; Asesdau yn cael eu defnyddio er budd aelodau
Di-elw; Aelodaeth agored; Clo asedau; Gall godi cyfranddaliadau cymunedol; Gall wneud cais am statws elusennol
Anfanteision
Egwyddorion democrataidd ddim yn safonol; Anodd cael gafael ar gyllid; Dim clo asedau, oni bai ei fod yn elusennol
Wedi'i reoleiddio gan ddau reoleiddiwr; Gorfod bodloni prawf buddiant cymunedol blynyddol; Methu codi cyfranddaliadau cymunedol
Yn ddrutach i'w sefydlu; Gweinyddiaeth barhaus; Aelodaeth gaeedig
Yn ddrutach i'w sefydlu; Gweinyddiaeth barhaus; Aelodaeth agored
Ychwanegion cyfreithiol
Mae dau statws cyfreithiol ychwanegol y gallai grŵp ddymuno eu cyrchu isod. Efallai y ceisir y rhain i sicrhau cyllid ychwanegol neu/a chydnabyddiaeth gyhoeddus.
Statws elusen
Mae’n rhaid i sefydliad basio dau brawf er mwyn bod yn gymwys ar gyfer statws elusennol:
- Mae’n rhaid iddo gael diben elusennol (nid yw tai yn un, ond mae cymorth i bobl mewn angen yn un)
- Mae’n rhaid iddo fodoli er budd y cyhoedd
Statws ymddiriedolaeth tir cymunedol
Sefydlir hwn at ddiben penodol hyrwyddo buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cymuned leol drwy gaffael a rheoli tir ac asedau eraill er mwyn:
- Darparu budd i’r gymuned leol
- Sicrhau nad yw’r asedau’n cael eu gwerthu na’u datblygu ac eithrio mewn modd y mae aelodau’r ymddiriedolaeth yn meddwl sydd o fudd i’r gymuned leol
Fe’i sefydlir o dan drefniadau sydd wedi’u cynllunio’n benodol i sicrhau:
- Bydd unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio er budd y gymuned leol
- Mae aelodaeth yn agored i’r gymuned
- Mae’r aelodau sy’n ei reoli
Mae rhagor o wybodaeth am strwythurau cyfreithiol ar gael yma.