Pecyn cymorth 04: Llywodraethu ac ariannu
Yn yr adran hon byddwn yn ystyried addasrwydd gwahanol strwythurau cyfreithiol ar gyfer eich grŵp ac yn archwilio ffynonellau cyllid.
Pobl, punnoedd ac eiddo
Y tair prif ystyriaeth wrth ddewis strwythur cyfreithiol ar gyfer grŵp TDAG yw:
- Pobl: Pwy yw’r aelodau? Pwy sy’n elwa? Pwy fydd yn cael pleidleisio? Sut bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud? Pa ddylanwad fydd gan bartneriaid a rhanddeiliaid eraill?
- Punnoedd: O ble mae’r cyllid angenrheidiol yn dod? A fydd y grŵp yn gwneud cais am grantiau?
- Eiddo: Sut bydd yr eiddo yn cael ei berchen? A fydd preswylwyr yn berchen ar eiddo yn bersonol ac yn gallu ei werthu i adennill y gwerth os byddant yn symud? A fydd endid cyfreithiol yn cael ei sefydlu i gadw perchnogaeth?
Mae hefyd yn bwysig nodi y dylai’r grŵp ddewis strwythur cyfreithiol i gyd-fynd â’r hyn y maent am ei gyflawni yn hytrach na siapio sefydliad i gyd-fynd â strwythur cyfreithiol penodol.
Pecyn cymorth 02: Cyd-destun a chysyniadau
Yn yr adran hon byddwn yn mynd yn ôl at y pethau sylfaenol, gan edrych ar ddiffiniad o dai dan arweiniad y gymuned ac archwilio'r gwahanol fodelau i ddewis ohonynt yn dibynnu ar anghenion a gweledigaeth eich grŵp.
Darganfyddwch fwy