Trawsnewid gofal cymdeithasol
Canllaw i dendro yn well
Mae prif ffocws y canllaw hwn ar sut i hyrwyddo Modelau Cyflawni Gwerth Cymdeithasol drwy’r prosesau tendro.
Mae’n disgrifio:
• Y meini prawf y mae angen eu sgorio
• Y pwysoliad y dylid ei gymhwyso
• Y mathau o gwestiynau i’w gofyn
• Y mathau o atebion i’w rhoi.
Mae’r canllaw wedi’i anelu at gomisiynwyr, caffaelwyr a darparwyr gwasanaeth i’w helpu i ddeall pam a sut y gallai hyrwyddo Modelau Cyflawni Gwerth Cymdeithasol mewn tendro effeithio ar eu gweithgareddau.
Fodd bynnag, nid tendro yw’r unig ffordd o hyrwyddo Modelau Cyflawni Gwerth Cymdeithasol.
Efallai nad tendro hyd yn oed yw’r gweithgarwch pwysicaf y dylai comisiynwyr ag eraill ymgysylltu ag ef.
Mae datblygu modelau gwerth cymdeithasol yn ddyhead strategol hirdymor a ategir gan gyfreithiau llesiant Cymru, a pholisïau ar gyfer Economi Sylfaenol ffyniannus.
Mae angen ei roi ar waith nid yn unig mewn tendrau, ond cyn tendro ac ar ôl tendro, a hyd yn oed heb yr angen am dendro. Efallai mai’r gweithgarwch pwysicaf yw cael cefnogaeth pawb. Mae angen i bawb ddeall beth yw model cyflawni gwerth cymdeithasol, a pham mae ei angen.
I’w roi yn syml; mae’n golygu cyflawni gofal cymdeithasol gwych a gwerth ychwanegol: cyflawni’r canlyniadau gorau i bobl a chymunedau yn y tymor byr a’r tymor hir.