O gynhwysiant i gydnerthedd
Agenda ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru
Er bod y rhyngrwyd wedi bod gyda ni ers 30 mlynedd, mae twf gweithgarwch ar-lein dyddiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn syfrdanol. Fodd bynnag, mae anghydraddoldebau a rhaniadau digidol dwfn yn bodoli yng Nghymru o hyd, sydd wedi cael eu gwaethygu ymhellach gan y pandemig Covid-19.
Mae’r ffigurau presennol yn dangos bod 10% o bobl nad ydynt ar-lein nac yn defnyddio’r rhyngrwyd yn rheolaidd o hyd. Mae’r bobl hyn yn fwy tebygol o fod yn hŷn, ar incwm is, yn dioddef problemau iechyd tymor hir neu fod heb sgiliau. Er bod y ffigur hwn wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y degawd diwethaf, ond mae wedi bod yn gyndyn i newid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydym wedi cyrraedd cyflwr sefydlog lle mae’n anodd gwneud mwy o gynnydd heb weithredu go iawn.
Grŵp aml-sector o sefydliadau yw Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru sydd wedi ymrwymo i weithredu ar y cyd i newid yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru yn sylweddol. Diben y Gynghrair yw dod â phobl ynghyd o’r sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector a’r sector academaidd yng Nghymru i gydlynu a hyrwyddo gweithgarwch cynhwysiant digidol ledled Cymru dan un faner genedlaethol. Rydym wedi ymrwymo i godi proffil cynhwysiant digidol yn uchel ar agenda pob sefydliad sy’n ymwneud â’r cyhoedd, oherwydd credwn fod yn rhaid i fod fusnes pawb os ydym am fod yn genedl wirioneddol gynhwysol yn ddigidol.
Mae’r Gynghrair am weld diwedd ar allgáu digidol yng Nghymru. Sylweddolwn nad yw’n realistig disgwyl i 100% o’n dinasyddion fod ar-lein – bydd rhai pobl yn dewis peidio ag ymwneud â thechnoleg ddigidol a’r rhyngrwyd am amrywiaeth o resymau. Ein huchelgais yw bod Cymru yn lle bydd pawb sydd eisiau neu sydd angen cael mynediad i’r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol yn gallu gwneud hynny’n hyderus – gan gynnwys pobl ag anghenion mynediad ychwanegol.
Credwn y gall Cymru arwain y ffordd ar hyn, ac rydym wedi cyhoeddi yn diweddar ein Hagenda ar gyfer cynhwysiant digidol, sef ‘O gynhwysiant i gydnerthedd’, sy’n amlinellu’r camau y credwn eu bod yn angenrheidiol i leihau allgáu digidol i lai na 10% a sicrhau bod Cymru yn genedl ddigidol gynhwysol.
Ein blaenoriaethau
Credwn fod rhaid i bob sector yng Nghymru wneud ymdrech ar y cyd os ydym am lwyddo i guro allgáu digidol. Bydd y Gynghrair gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod gweithgareddau i’w cefnogi cynhwysiant digidol yn cael ei brif ffrydio ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Byddwn yn ceisio cydweithio gyda adrannau ar draws Llywodraeth Cymru i osod cynhwysiant digidol fel blaenoriaeth drawsbynciol ar gyfer pob maes – gan gynnwys mentrau gwrthdlodi a lles cenedlaethol. Rydym am weithio ar y cyd i gynhyrchu cynllun clir ar gyfer dod â gwaharddiad digidol i ben yng Nghymru.
Mae’n rhaid i ni osgoi creu “Cyfraith Gofal Wrthdro” ddigidol yng Nghymru – gan adael ar ôl y rhai a allai elwa mwyaf o fodelau digidol newydd iechyd a gofal. Maedynhwysiant digidol – mynediad, sgiliau a hyder – yn cael ei gydnabod bellach yn benderfynydd cymdeithasol iechyd, ac os caiff dulliau digidol eu gweithredu mewn ffordd ystyriol, gallant helpu i gau’r bwlch anghydraddoldeb iechyd. Credwn fod modd creu mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd a gofal trwy fynd i’r afael â bylchau mewn cysylltedd gartref. Rydym hefyd am sicrhau bod cymwysiadau, gwefannau a chynhyrchion y GIG a gofal cymdeithasol yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar y defnyddiwr. Yn ogystal, dylid rhoi cymorth digidol i bobl y mae’n anodd iddynt gael gwybodaeth neu wasanaethau iechyd a gofal ar-lein. Ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod pob aelod o’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael yr hyfforddiant angenrheidiol i ddatblygu’r sgiliau digidol sy’n ofynnol i gymryd rhan yn ddiogel ac yn effeithiol yn yr economi ddigidol ar ôl COVID-19.
Mae tlodi data wedi dod yn fwy amlwg nag erioed yn ystod y pandemig COVID-19 gan fod llawer o aelwydydd wedi’i chael hi’n anodd ymgysylltu’n llawn yn y byd ar-lein, o ganlyniad i gost data a dyfeisiau. Hoffem weld ymagwedd gydgysylltiedig ar draws sectorau sy’n cymryd camau i hyrwyddo datblygiad datrysiadau cynaliadwy, wedi’u cynhyrchu ar y cyd, i fynd i’r afael â thlodi data. Gallai’r rhain gynnwys datrysiadau sy’n annog diwylliant o rannu a chydgefnogi (fel pan all pobl roi data nas defnyddiwyd i bobl eraill pwy sydd ddim yn gallu ei fforddio) ac ymestyn WiFi cyhoeddus ledled Cymru. Rydym am weld yr ymagwedd hon yn cael ei hymestyn i’r holl bolisïau a mentrau gwrthdlodi, y dylid disgwyl iddynt hefyd gydnabod a mynd i’r afael â thlodi data.
Yng Nghymru, bydd sgiliau digidol yn y gweithlu yn allweddol i’r adferiad economaidd. Gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a sectorau ehangach, bydd y Gynghrair yn ceisio sicrhau bod yr agenda sgiliau digidol yn cael ei thargedu at y bobl a’r ardaloedd hynny lle mae sgiliau digidol sylfaenol yn fwyaf tebygol o fod yn eisiau. Mae’n rhaid i unrhyw ymyrraeth gyrraedd pobl ddi-waith a phobl mewn gwaith y mae angen iddynt uwchsgilio neu ailhyfforddi i gadw i fyny â newidiadau.
Mae cyd-ddylunio a chydgynhyrchu yn rhan annatod o’r holl gynigion rydym wedi’u hargymell. Mae’n rhaid i lais pobl sydd wedi profi allgáu digidol gael ei glywed wrth ddylunio, datblygu a gwerthuso polisïau a rhaglenni. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i wasanaethau cyhoeddus fod yn wirioneddol gynhwysol, ac i fentrau polisi cynhwysiant digidol gael effaith go iawn. Rydym yn ceisio cydweithrediad ar draws pob sector i wella bywydau rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed a difreintiedig. Bydd y penderfyniadau a wnawn fel cenedl wrth i ni ailadeiladu ac ailgychwyn Cymru ar ôl y pandemig COVID-19 yn arwain at oblygiadau tymor hir i’n cymunedau a’r bobl sy’n byw ynddynt. Os ydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd gallwn wneud Cymru yn esiampl ar gyfer Cynhwysiant Digidol, a byddwn i gyd yn elwa.