Maniffesto menter gymdeithasol

Maniffesto 2021 y Senedd ar gyfer y sector menter gymdeithasol yng Nghymru

Maniffesto menter gymdeithasol

Drwy gydol y pandemig, helpodd mentrau cymdeithasol ledled Cymru i gadw pobl mewn gwaith a darparu cymorth cymunedol hollbsig a gwasanaethau hanfodol. Mae’r Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol o’r farn y gall mentrau cymdeithasol bellach chwarae rhan allweddol wrth helpu i ailadeiladu economi decach, fwy cynhwysol a chynaliadwy wrth i ni adfer ac ailadeiladu.

Mae mentrau cymdeithasol mewn sefyllfa unigryw i wneud hynny fel sefydliadau sy’n gweithredu ar egwyddorion y llinell Waelod Driphlyg: pobl, planed, elw. Mae hyn yn sicrhau bod eu diben cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd bob amser wrth wraidd yr hyn a wneir ganddynt.

Er mwyn helpu’r sector i wireddu’r potensial hwn ac i ailadeiladu economi decach, mwy cynhwysol a chynaliadwy, credwn y dylai Llywodraeth nesaf Cymru:

  • Ehangu a chryfhau’r cymorth busnes arbenigol sydd wedi’i deilwra i anghenion mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol
  • Parhau i dyfu ffrydiau ariannu penodol i gefnogi’r sector mentrau cymdeithasol wrth iddo adfer ac ailadeiladu yn sgîl y pandemig
  • Sefydlu polisïau ac arferion caffael a chomisiynu cyhoeddus sy’n ymgorffori gwerth cymdeithasol ac yn defnyddio cadwyni cyflenwi lleol
  • Blaenoriaethu a defnyddio datrysiadau mentrau cymdeithasol ar draws pob maes o bortffolios y Llywodraeth a Gweinidogion
  • Parhau i flaenoriaethu’r Argyfwng Hinsawdd ac adferiad ‘Gwyrdd’ ac ymgorffori egwyddorion economi ddi-garbon a chylchol
  • Datblygu a gweithredu polisïau sy’n cefnogi cynwysoldeb ac amrywiaeth a Gwaith Teg o fewn economi Cymru; gan harneisio arbenigedd mentrau cymdeithasol i wneud hynny
  • Lansio menter uwchsgilio a buddsoddi i feithrin sgiliau a seilwaith digidol yn y trydydd sector (gan gynnwys ar gyfer mentrau cymdeithasol)
  • Creu cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid cymdeithasol cyfrifol drwy ymgorffori menter gymdeithasol ac economeg llesiant mewn cwricwlwm astudiaethau economaidd/busnes ym mhrifysgolion, colegau ac ysgolion Cymru