Prosiect Robert Owen (Cwmnïau Cydweithredol a Busnesau Cymdeithasol o fewn Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith)
Mae Cwmpas yn gweithio ar brosiect addysg cyffrous ar gyfer blatfform addysg Llywodraeth Cymru, Hwb. Byddwn yn datblygu adnoddau ynglyn â chwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol er mwyn ysbrydoli ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc. Bydd y prosiect yn cysylltu gyda’r llinyn cwricwlwm newydd, Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith
Gwahoddir athrawon a myfyrwyr i’n helpu i ddatblygu’r deunyddiau hyn. Byddwn yn cynnal sesiynau ar-lein er mwyn gwrando ar eich syniadau a’ch adborth, lle bydd hefyd cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan i ddatblygu deunyddiau a chysylltu gyda busnesau cymdeithasol lleol.
Mae Cwmnïau Cydweithredol a Busnesau Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol o fewn economi Cymru ac yn ddatrysiad i’r heriau y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn eu wynebu. Cyhoeddwyd Prosiect Ysgolion Robert Owen gan Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, ac fe’i henwir ar ôl sylfaenydd y mudiad Cydweithredol oedd yn dod o Gymru.
Bydd y datblygiad yn digwydd dros gyfnod yr hydref a’r gaeaf, a bydd wedi ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024. Mae’r maes dysgu yn debygol o fod o fewn y dyniaethau ond gyda chysylltiadau â meysydd eraill, ac rydym yn bwriadu i’n hadnoddau fod yn ddwyieithog ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3.
Os hoffech chi fod yn rhan o’r datblygiad hwn mewn unrhyw ffordd, ymunwch â ni. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyd-asiantaethau datblygu cydweithredol sydd eisoes wedi gwirfoddoli i rannu gwybodaeth.
Bydd rhagor o adborth a phrofion yn cael eu cynnal dros gyfnod y gaeaf gyda’r bwriad y bydd adnoddau’n barod erbyn mis Mawrth 2024.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag elizabethhudson@cwmpas.coop