Cymunedau’n Creu Cartrefi

Mae ein prosiect Cymunedau’n Creu Cartrefi yn cynnig cefnogaeth a chyngor i sefydliadau newydd a phresennol sydd am ddatblygu cynlluniau tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru.

Cymunedau’n Creu Cartrefi

Beth yw tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned?

Pwrpas tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned yw dod â phobl ynghyd i benderfynu pa fath o gartrefi a chymunedau eu bod am fyw ynddynt.  Gall pobl sy’n rhannu gweledigaeth ddod ynghyd a chodi llais dylanwadol. Maent yn chwarae rôl hanfodol ar y cyd â chynghorau, datblygwyr a buddsoddwyr mewn creu cartrefi fforddiadwy sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol.

Daw tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned mewn bob lliw a llun. Grwpiau bach o ffrindiau’n prynu tŷ i’w rannu, lesddeiliaid yn sefydlu pwyllgor rheoli tenantiaid, aelodau o gymuned yn prynu tir yn lleol er mwyn datblygu tai newydd arno, a phobl sydd am ddatblygu tai cynaliadwy – mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau.

Mae gan bobl fwy o reolaeth dros ble maent yn byw, a gallant gydweithio ag eraill er mwyn cyflawni nod a rennir rhyngddynt. Cymunedau sy’n creu cartrefi.

Perchenogaeth a rheolaeth

Mae tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned yn cynnwys pobl leol mewn penderfyniadau ynghylch tai – ac felly mae’r canlyniadau’n fwy llwyddiannus yn aml.

  • Mae cael dweud eu dweud ynghylch datblygu a rheoli tai yn meithrin ymdeimlad o rym, balchder a pherchnogaeth i’r trigolion
  • Daw cymunedau’n fwy cydnerth gan ddatblygu’r galluedd i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion sy’n effeithio arnynt
  • Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleihau
  • Mae preswylwyr yn teimlo’n hapusach ac yn fwy bodlon am eu bod yn rhan o gymuned gefnogol

Caiff tai eu codi mewn ardaloedd lle mae angen amdanynt – yn aml mewn lleoedd na fyddai datblygwyr masnachol yn eu hystyried ar gyfer adeiladu tai.

  • Bydd hyn yn gwella’r cyflenwad o dai a darpariaeth tai fforddiadwy
  • Gall ardaloedd sydd wedi dirywio gael eu hadnewyddu a chaiff tai gwag eu defnyddio unwaith eto
  • Gall safleoedd bach lletchwith gael eu defnyddio’n dda
  • Bydd pwysau ar fannau gwyrdd yn lleihau drwy greu mannau cymunedol a rennir
  • Gall mwy o bobl gael buddiannau o fod yn berchen ar dŷ, gyda rhwyd ddiogelwch gefnogol
Ein cymorth
Mae Cymunedau'n Creu Cartrefi yma i helpu pobl i ddatblygu eu cynlluniau tai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned eu hunain. Yn ogystal â gwella darpariaeth tai, hoffem greu Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynus. Caiff y cynllun ei ariannu gan Sefydliad Nationwide a Lywodraeth Cymru a'i ddarparu gan Cwmpas. Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wahanol – felly rydym yn teilwra ein cymorth at anghenion pob cymuned. P'un a ydych yn newydd i dai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned, neu eisoes wedi ffurfio grŵp neu am ymuno â grwp sy'n bodoli'n barod, rydym am eich helpu.

Mae pum cam i'n cymorth:

A ydych chi erioed wedi clywed am dai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned o’r blaen? Rydym yma i gyflwyno’r syniad a gweld a allai hyn ddatrys eich problemau tai.

Unwaith y byddwch yn gwybod rhywbeth am dai cydweithredol/dan arweiniad y gymuned, cewch ddarganfod mwy drwy ein digwyddiadau, gweithdai a chyhoeddiadau. Byddwn yn ateb eich holl gwestiynau ac yn eich cysylltu â phobl sydd â’r un meddylfryd i archwilio potensial datblygu cynllun. Mae’n bosibl y galllwch wneud cais am grant bach hyd at £2500.

Os ydych yn barod i ddechrau prosiect tai, byddwn yn cefnogi’ch grŵp i ddatblygu’r cydlyniant, y gallu a’r galluedd sydd eu hangen er mwyn ei wireddu. Gyda’n hyfforddiant mentro hanfodol, cymorth technegol a chyngor, byddwch yn barod i gymryd y camau nesaf.

Wrth i’ch cynlluniau symud ymlaen, rydym yn cynnig cymorth ychwanegol, rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid a strategaethau cynaliadwy er mwyn sicrhau llwyddiant i’r eithaf yn y hirdymor.

Rydych wedi cyflawni’ch gweledigaeth, ond rydym am ddweud wrth y byd am eich llwyddiant! Rydym yn comisiynu ymchwil ac yn hyrwyddo’ch stori fel y gall pobl eraill ddysgu o’ch profiad.

Datganiad fforddiadwyedd

Ariennir Cymunedau’n Creu Cartrefi gan Lywodraeth Cymru a’r Nationwide Foundation i gefnogi’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy a chynaliadwy sy’n cael eu harwain gan y gymuned. Er mwyn penderfynu pa gynlluniau rydym yn blaenoriaethu ein cynnig o gymorth wedi’i ariannu ar eu cyfer, rydym yn defnyddio’r diffiniad canlynol o dai fforddiadwy a gymerwyd o Bolisi Cynllunio Cymru:

“tai lle mae mecanweithiau diogel yn eu lle i sicrhau ei fod yn hygyrch i’r rhai na allant fforddio tai ar y farchnad agored, ar feddiannaeth gyntaf ac ar gyfer meddianwyr dilynol.”

Bydd fforddiadwyedd yn cael ei bennu’n fwy cadarn ar lefel leol a, phe baech yn dymuno bwrw ymlaen â datblygiad TDAG fforddiadwy, byddwn yn eich helpu i weithio gyda’r awdurdod lleol i sicrhau bod eich cynnig yn cyfateb i ofynion tai fforddiadwy eu hasesiad o’r farchnad dai leol.

Os oes gennych gynllun tai dan arweiniad y gymuned mewn golwg nad yw, naill ai’n rhannol neu’n llawn, yn bodloni’r diffiniad uchod o fforddiadwyedd, efallai y bydd ein tîm o Hwyluswyr TDAG achrededig yn dal i allu eich helpu. Cysylltwch â ni i drafod ein cyfraddau.

community shares
Cysylltwch â ni
I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau, ffoniwch 0300 111 5050 neu e-bostiwch co-op.housing@cwmpas.coop.
Cysylltwch yma
Community Shares Wales blog
Cofrestrwch i'n cylchlythyr
Eisiau bod yn un o'r rhai cyntaf i wybod am ein newyddion a'n digwyddiadau tai dan arweiniad y gymuned?
Cysylltwch â ni