Beth yw Cymdeithas Budd Cymunedol?
Canllaw cynhwysfawr i’r model busnes, a’r synergedd cryf gyda chyfranddaliadau cymunedol
Mae Cymdeithas Budd Cymunedol yn fath o sefydliad cyfreithiol sydd wedi’i gofrestru â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae’n fodel busnes nid-er-elw sy’n ei wneud yn atyniadol iawn i gyllidwyr sy’n cynnig grantiau ac yn neilltuo tir ac asedau ar gyfer cyrff nid-er-elw. Trefnir aelodaeth Cymdeithas Budd Cymunedol ar yr egwyddor un aelod, un bleidlais, felly mae’n strwythur gwych lle mae cydraddoldeb sylfaenol rhwng aelodau sydd angen ei ymwreiddio yn y busnes. Dyna reswm mawr pam ei fod mor boblogaidd ar gyfer perchnogaeth gymunedol o asedau lleol sydd ag ystyr a phwysigrwydd i’r gymuned leol, fel tafarndai, siopau, clybiau pêl-droed, cyfleusterau hamdden ac ati.
Isod fe welwch atebion i gwestiynau cyffredin am y model busnes, a dolen lawrlwytho i’n canllaw cynhwysfawr yr ydym yn argymell yn gryf eich bod yn ei lawrlwytho a’i ddarllen.
Cymdeithas Budd Cymunedol: cwestiynau cyffredin
Caiff cymdeithasau eu cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, a’r ffordd hawsaf o ymdrin â’u system gofrestru yw drwy ddefnyddio templed sydd wedi’i gynhyrchu gan un o’r cyrff noddi sy’n gweithio i gofrestru cymdeithasau. Darperir cefnogaeth gyda strwythurau cyfreithiol, cofrestru a datblygu busnes hefyd gan Cwmpas drwy Busnes Cymdeithasol Cymru a Phrosiect Gwydnwch Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru. Gall Cwmpas gynnig cymorth busnes eang i fusnesau newydd a rhai presennol sydd am dyfu. Y cwbl sydd ei angen yw manylion sylfaenol fel enw a chyfeiriad busnes, ac o leiaf tri unigolyn neu sefydliad i weithredu fel Aelodau Sefydlu. Bydd hefyd angen i chi ddisgrifio ar gyfer pwy rydych chi’n ceisio sicrhau budd a sut, a beth fydd eich gweithgareddau masnachu.
Ydy. Wrth wraidd mentrau cymdeithasol mae diben cymdeithasol i’r busnes y tu hwnt i elw, a strwythur cyfreithiol sy’n galluogi i’r elw gael ei ail-fuddsoddi yn y busnes neu weithgarwch arall er y budd cyffredin. Mae’n ofyniad cyfreithiol i Gymdeithas Budd Cymunedol weithredu er budd y gymuned.
Cyfranddaliadau y gellir eu tynnu allan – dyma’r ‘hen’ enw swyddogol ar gyfer cyfranddaliadau cymunedol ac mae’n fath penodol o gyfranddaliad sydd ddim ond ar gael mewn cymdeithasau. Mae dwy fantais i’r math hwn o gyfalaf. Yn gyntaf, mae’n ffordd wych o fod yn berchen ar fusnes a’i gyllido pan mai’r diben yw diwallu anghenion pobl. Yn ail, nid yw gwerth cyfranddaliadau cymunedol yn cynyddu yn hapfasnachol; gwerth y busnes yw’r gwerth y mae’n ei greu drwy fasnachu. Mae’r gwerth yn llifo o weithgareddau’r busnes, nid yw’n deillio o asesiad sydd o bosib yn asesiad dychmygol o’r gwerth posib. O’r herwydd, mae’n ffordd wych o gyllido busnesau sydd angen sicrhau eu bod yn gydnaws ag anghenion pobl.
Ar sawl agwedd, bydd y gwaith o redeg Cymdeithas Budd Cymunedol a menter gydweithredol yn debyg. Mae’r gwahaniaeth allweddol yn ymwneud ag aelodau a’r hyn y maent yn ei gael. Er enghraifft, gall tafarndai cydweithredol dalu cyfran o’r elw i’w haelodau, ond nid i gwsmeriaid rheolaidd, gan nad ydynt hwy’n berchen ar y busnes. Efallai bod yr aelodau’n credu bod y dafarn o fudd i’r gymuned gyfan, ond mae cymhelliant yno hefyd i fod â rhan yn ei lwyddiant ar lefel bersonol. Fodd bynnag, nid yw’r dafarn sy’n eiddo i’r Gymdeithas Budd Cymunedol yn talu difidend i unrhyw aelod gan fod yr holl elw yn cael ei ail-fuddsoddi. Diben y dafarn yw bod o fudd i’r gymuned gyfan, felly mae unrhyw fudd y mae aelodau’r Gymdeithas Budd Cymunedol yn ei gael yn dod oherwydd eu bod yn rhan o’r gymuned y mae’r dafarn yn ei gwasanaethu, nid oherwydd eu bod yn cael budd am fod yn aelodau o’r gymdeithas.
Er bod yr enwau’n debyg a’u bod yn gweithredu mewn modd tebyg mewn sawl ffordd, mae gwahaniaethau cynnil ond pwysig rhyngddynt. Mae’n rhaid i Gwmni Budd Cymunedol fod â Chlo Asedau Statudol sy’n rheoli sut mae’n defnyddio ei asedau a’r hyn sy’n digwydd os daw’r busnes i ben. Gall Cymdeithasau Budd Cymunedol fod â Chlo Asedau Statudol hefyd, ond nid yw hynny’n orfodol. Mae’n ofynnol i’r naill a’r llall adrodd i gofrestrydd bob blwyddyn ar yr hyn y maent wedi’i wneud wrth ddilyn eu gofyniad cyfreithiol i weithredu er budd y gymuned. Fodd bynnag, tra gall Cwmni Budd Cymunedol gael yr un math o berchnogaeth a strwythur llywodraethu â Chymdeithas Budd Cymunedol, gall hefyd fod â bwrdd sy’n hunanbarhau am byth nad yw’n atebol i’r gymuned ehangach neu sydd hyd yn oed yn cael ei reoli gan un person fel yn achos llawer o gwmnïau gwneud elw ‘arferol’. A gall ddosbarthu traean o’i elw blynyddol mewn difidendau i randdeiliaid.
Mae’n rhaid i Gymdeithas Budd Cymunedol weithredu er budd y gymuned a gall wneud unrhyw beth yr hoffai i gyflawni hyn. Mae hynny’n fater i Gyfarwyddwyr ac aelodau yn unig ei benderfynu, o ran faint o fudd y gall ei roi, a’r hyn y mae’n ei wneud i ennill yr arian a galluogi’r gymdeithas i barhau i fasnachu. Mae elusennau’n cael eu rheoli gan gyfreithiau cwbl wahanol, sy’n cyfyngu ar yr hyn mae elusen yn ei wneud a pham ei bod yn gwneud hynny. Mae gan elusen ofyniad cyfreithiol i fod o fudd i’r cyhoedd, a thrwy hynny mae’n rhaid i elusen gynnal gweithgareddau sy’n gwbl elusennol, neu bron iawn. Felly, gallai Elusen gynnal gofod cymdeithasol, ond ni fyddai’n gallu masnachu drwy redeg bar neu gaffi ar yr un adeg. Ni fyddai’n gallu rhentu’r gofod i gleientiaid gwerth uchel oherwydd byddai hynny’n golygu na fyddai ar gael i’r cyhoedd. Gall elusennau sefydlu is-gwmnïau dan berchnogaeth lwyr i gynnal pa bynnag weithgareddau sy’n dod y tu allan i’w gweithgareddau elusennol. Er bod hyn yn rhywbeth mae llawer o elusennau yn ei wneud, mae’n gwneud pethau yn fwy cymhleth i gyfarwyddwyr elusennau (a elwir yn ymddiriedolwyr yn aml), sy’n gyfreithiol gyfrifol am sicrhau nad yw’r elusen yn gwneud pethau na ddylai eu gwneud.
Mae ein tîm yn frwd dros berchnogaeth gymunedol ac yn mwynhau gweithio gyda phobl ledled Cymru i godi’r cyfalaf sydd ei angen arnynt i gyflawni gweledigaeth a rennir. Os oes angen cymorth arnoch, neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.
Os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i Gymru ac angen cymorth gyda’ch cynllun cyfranddaliadau cymunedol, ewch i dudalen we Cyfranddaliadau Cymunedol yn Co-operative’s UK: Community Shares | Co-operatives UK
Tudalen gartref Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru: Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru
Darganfod mwy gan Cwmpas: Ein gwasanaethau