Unffiltered

Unffiltered

Mae Cwmpas Unffiltered yn waith peilot llythrennedd cyfryngau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella llythrennedd cyfryngau ymhlith oedolion ar draws pedair ardal awdurdod lleol targed (Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent a Merthyr).

Mae mwy a mwy o bobl yn wynebu casineb arlein, camwybodaeth a diffyg gwybodaeth a all niweidio cydlyniant cymdeithasol a lles unigol. Mae’r prosiect hwn wedi‘i gynllunio i helpu drwy ddysgu oedolion Cymru sut i asesu cynnwys arlein yn feirniadol ac ymateb yn adeiladol i naratifau niweidiol.

Gyda chefnogaeth gan bartneriaid cymunedol, byddwn yn rhoir sgiliau sydd eu hangen ar bobl i feddwl yn feirniadol ac adeiladu cymuned arlein gryfach a mwy diogel. Mae’r dudalen we hon yn dal i gael ei datblygu, ond maes o law bydd yn cael ei llenwi â gwybodaeth, adnoddau a chwisiau ychwanegol gwyliwch y gofod hwn!