Unffiltered – Eich Helpu i Deimlo’n Fwy Hyderus Ar-lein

Unffiltered – Eich Helpu i Deimlo’n Fwy Hyderus Ar-lein
Profwch eich gwybodaeth gyda'n cwis llythrennedd cyfryngau
Darganfod mwy yma

Bob dydd, mae pobl yng Nghymru’n mynd ar-lein i gadw mewn cysylltiad, cael y
newyddion diweddaraf, neu ddim ond i sgrolio yn hamddenol. Ond nid yw’r
rhyngrwyd bob amser yn syml, gall ddrysu, llethu ac, weithiau, gall fod yn niweidiol.

Nod Unffiltered, sef rhaglen beilot sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chyflwyno gan Cwmpas, yw gwneud i’r byd ar-lein deimlo ychydig yn haws dygymod ag ef, i bobl sy’n byw yng Nghaerffili, Torfaen, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful.

Pam mae Unffiltered yn bodoli
Gall y rhyngrwyd fod yn wych. Mae’n ein cysylltu ni, ein helpu i ddysgu pethau newydd a rhoi llais i ni. Ond gall hefyd ledaenu camwybodaeth, tanio rhwygiadau a gwthio cynnwys a luniwyd i danio emosiynau cryf yn hytrach na sgyrsiau defnyddiol. Mae Unffiltered yn eich helpu i ddeall sut mae platfformau ar-lein yn gweithio go iawn, fel y gallwch deimlo’n fwy hyderus a chwilfrydig, a bod mwy o reolaeth gennych dros beth rydych chi’n ei weld.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

Nid dweud wrth bobl beth i feddwl yw pwrpas Unffiltered, ond rhoi i bobl yr adnoddau i ddeall:

  • sut mae apiau, algorithmau ac AI – deallusrwydd artiffisial – yn llywio beth sy’n ymddangos ar ein sgriniau
  • sut i adnabod cynnwys camarweiniol neu niweidiol ar-lein
  • ryd i oedi a chwestiynu rhywbeth cyn clicio “rhannu”
  • sut i gadw’n ddiogel ac amddiffyn eich lles ar-lein

Hefyd, cewch olwg ar sut mae technoleg ddigidol yn newid a beth mae hynny’n ei olygu i bob un ohonom yn y dyfodol.

A woman using a tablet device
Pam mae hyn yn bwysig
Mae’r hyn rydym ni’n clicio arno yn dylanwadu ar beth fyddwn ni’n ei weld nesaf. Gydag amser, gall hyn ein cau ni mewn ‘swigod hidlau’ a ‘siambrau adlais’, gan ddangos mwy o’r un peth i ni a chau allan unrhyw beth sy’n wahanol. Gall hyn ei gwneud hi’n anoddach adnabod camwybodaeth neu gadw ein pwyll pan fydd cynnwys wedi’i lunio i ysgogi dicter, ofn neu i wylltio pobl. Mae gwella’ch gallu i wahanu ffeithiau rhag ffuglen (sef ‘llythrennedd yn y cyfryngau’) yn helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus ar-lein ac mae’n helpu i greu sgyrsiau iachach, mwy parchus, ar draws ein cymunedau.

Beth mae’r prosiect yn ei gynnig

  •  Sesiynau hyfforddi rhagweithiol, cyfeillgar
  •  Adnoddau defnyddiol y gallwch eu defnyddio ar unwaith
  • Adnoddau hawdd eu dilyn

Mae pawb yn chwarae rhan

Gall unrhyw un ddod o dan ddylanwad yr hyn a welant ar-lein, mae hynny’n normal. Ond mae camau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr: gall oedi, gwirio’r ffynhonnell a sylwi ar ein hadweithiau ein hunain i gyd helpu i wneud y rhyngrwyd yn lleoliad mwy cadarnhaol i bawb.

Rhowch gynnig ar ein cwis a rhannu eich canlyniadau i annog eraill i ymuno a gweld pa mor dda ydynt am adnabod cynnwys ffug a niweidiol.