Ymunwch â seremoni Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2022 gyda chinio, adloniant a dathliadau!

24 Awst 2022

Rydym yn falch iawn o ddod â Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn ôl gyda seremoni yn Arena Abertawe eleni!

Dewch i ddathlu rhagoriaeth mewn busnes cymdeithasol Cymreig gyda seremoni wobrwyo amser cinio. Yn ystod pryd tri chwrs ac adloniant byw, bydd enillwyr Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2022 yn cael eu datgelu ar Dydd Llun 10 Hydref, o ganol dydd ymlaen.

Ar ôl tair flynedd i ffwrdd o ddigwyddiadau personol, bydd hwn yn gyfle gwych ac egnïol i rwydweithio a chysylltu â busnesau cymdeithasol o’r un anian o bob rhan o Gymru. Gyda’r cyfle i adeiladu partneriaethau gyda chyllidwyr a rhanddeiliaid allweddol a dysgu oddi wrth eich gilydd, bydd y seremoni yn eich gadael yn teimlo’n ysbrydoledig.

Gyda golwg ar y dyfodol, a ffocws ar gydnabod a dathlu’r busnesau rhyfeddol sy’n arloesi ac yn ffynnu yn ein sector, mae’n un na ddylid ei golli.

Ar hyn o bryd mae tocynnau wedi’u cyfyngu i 3 fesul sefydliad, gyda’r posibilrwydd o ryddhau mwy. Codir tâl o £10 i sicrhau eich lle.

Archebwch docynnau ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yma.

Ynglŷn â Busnes Cymdeithasol Cymru

Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei ddarparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ac mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru. Nod Busnes Cymdeithasol Cymru yw cefnogi busnesau cymdeithasol sydd â dyheadau i dyfu.

Hoffem ddiolch i’n noddwyr eleni

Darperir nawdd y seremoni gan: Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.

Darperir nawdd categori gan: Ecology Building SocietyLegal and GeneralCreating EnterpriseAcuity LawNatwestTriodosChoose 2 ReuseUniversity of Wales Trinity St David (UWTSD)Great Western RailwayBIC Innovation.