Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus – ymagwedd decach at fusnes?

22 Mai 2023

Dyma Hajer Newman, Intern Polisi gyda Cwmpas, yn archwilio potensial y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus i gyflawni deiliannau cadarnhaol i Gymru.

Yn ddiweddar, cyflwynodd Llywodraeth Cymru’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Nod y Bil, a ddaw’n ddeddf cyn hir, fydd gwreiddio egwyddorion gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus cyfrifol yn gymdeithasol ar draws y rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus datganoledig. Diben y ddeddfwriaeth yw dwyn ynghyd yr holl bobl sy’n ymwneud â chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus i weithio’n gydweithredol er mwyn sicrhau ffyniant i Gymru nawr ac yn y dyfodol.

Beth yw gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol?

Mae gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn annog cydweithredu cadarn rhwng cyrff cyhoeddus, undebau llafur a gweithwyr. Nod y dull yw gweld gweithwyr a chyflogwyr yn gweithio gyda’i gilydd i wneud penderfyniadau sydd o fudd nid yn unig i’r sector ond i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi ymagwedd radical at gysylltu gweithwyr a chyflogwyr mewn modd na welwyd erioed o’r blaen. Bydd Llywodraeth Cymru’n galluogi clywed llais gweithwyr trwy sefydlu cyngor partneriaeth gymdeithasol. Bydd y cyngor hwn yn arwain yr ymgysylltu lleol a chenedlaethol â’r Senedd, gan roi cyfle i gyrff cyhoeddus, gweithwyr a thros 400,000 o aelodau undebau llafur gyfrannu at lesiant cyffredinol Cymru.

Hefyd, bydd dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i sicrhau bod eu caffael yn gyfrifol yn gymdeithasol. Bydd angen iddynt osod amcanion cymdeithasol wrth ddefnyddio contractwyr a rhoi gwaith allan ar gontract. O ganlyniad i hyn, bydd gwerthoedd gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar waith ar draws y sector cyfan. Bydd Llywodraeth Cymru yn mesur hyn yn erbyn meysydd allweddol, fel gwella amodau gweithio, tâl a chyflogadwyedd.

Cynhaliodd y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol gyfarfod ar 3 Mai i drafod y bil a beth fydd yn ei olygu i’w sector:

Dywedodd Vikki Howells (AS) Llafur, Cwm Cynon, a gadeiriodd y cyfarfod, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru’n wlad gwaith teg, lle y caiff gweithwyr eu gwobrwyo, eu clywed, a lle y gallant wneud cynnydd, gan sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu’n llawn. Ychwanegodd fod llawer o’r egwyddorion hyn wedi bod yn ganolog i daith ddatganoli wrth iddo geisio gwreiddio a ffurfioli dull partneriaethau cymdeithasol ar gyfer datblygu economi deg, mwy gwydn.

Meddai Nasireen Mansour, Swyddog Polisi – Cynghrair Undebau Llafur Cymru “Mae’r Bil yn flaenoriaeth fawr i’r TUC; mae undebau llafur wedi galw am wneud egwyddorion partneriaethau cymdeithasol yn ofyniad statudol nawr ac yn y dyfodol”.

Fe wnaeth Nicola Meghen, Twf Busnes Cymdeithasol Cymru – Cwmpas, hyrwyddo rôl y  sector busnesau ym mherchenogaeth gweithwyr, sef sector sy’n tyfu, gan amlygu eu bod yn fodelau busnes sy’n ennyn ymgysylltiad eu gweithwyr, yn gwella diwylliant a llesiant, ac yn adeiladu gweithlu ymroddedig. Ychwanegodd fod busnesau ym mherchnogaeth gweithwyr yn gwreiddio busnes yng Nghymru, sy’n helpu’r genedl i ffynnu yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd Harry Thompson, Arweinydd Polisi – Cynnal Cymru, sef achredwr y Cyflog Byw Gwirioneddol i Gymru, y bydd y bil yn sicrhau bod cyflogwyr yn ‘darparu dyfarniad teg, yn talu’r cyflog byw gwirioneddol’. Ychwanegodd fod ymchwil wedi dangos bod talu’r cyflog byw gwirioneddol yn helpu i ateb costau byw a’i fod o fudd i gyflogwyr hefyd:

  • dywedodd 36% o gyflogwyr sy’n talu’r cyflog byw gwirioneddol ei fod wedi’u helpu i sicrhau contractau gyda’r sector cyhoeddus.
  • dywedodd 50% ei fod wedi’u helpu i ennill cleientiaid a chwsmeriaid newydd.
  • dywedodd 81% ei fod wedi gwella’u henw da corfforaethol.

Mae busnesau cymdeithasol fel cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau ym mherchnogaeth gweithwyr yn alinio â gwerthoedd gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Maent yn hyrwyddo gwaith teg ac yn poeni am y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn gyfle mawr i’r busnesau hyn weithio ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus.

Mae ymchwil ddiweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos bod dros chwarter o drigolion Cymru sydd mewn gwaith amser llawn, sy’n derbyn yr isafswm cyflog, yn byw mewn tlodi. I’r gwrthwyneb, mae 68% o fusnesau cymdeithasol ar draws Cymru’n talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol Gwirioneddol i’w gweithwyr. Mae busnesau cymdeithasol hefyd yn rhan allweddol o economi Cymru; mae ymchwil yn dangos bod y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn 2022 yn mynd o nerth i nerth, gan fod tua 2,828 o fusnesau cymdeithasol yng Nghymru erbyn hyn.

Yn ogystal â hyn, mae’r sector yn creu cyfleoedd gwaith. Dros gyfnod o 12 mis yn y sector, roedd 36% o weithwyr newydd yn ddi-waith cyn ymgymryd â’u swydd. Mae hyn yn dangos rôl y sector wrth ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl sydd allan o waith fel arall. Mae busnesau cymdeithasol yn cyflogi’n lleol, gyda 69% o weithlu’r busnesau’n byw o fewn 10 milltir i’w gweithle, gan ddangos rôl y sector fel cyflogwr lleol hanfodol ac un sy’n ymwybodol yn amgylcheddol.

Bydd yr egwyddorion wrth wraidd deddfwriaeth gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol yn helpu i lywio newid yn y sector cyhoeddus ac yn helpu i gefnogi gwelliant parhaus busnesau cymdeithasol, gan ddarparu glasbrint i’r sector cyhoeddus. Mae’r Bil yn gosod gwaith teg a hyrwyddo llesiant yn ganolog i’w uchelgeisiau. Mae’n rhoi llais i bobl sy’n gweithio yng Nghymru er mwyn helpu i wella a llywio’u bywyd gwaith. Mae’r Bil yn gofyn bod cyrff cyhoeddus a’u gweithwyr yn cyrraedd canlyniadau cadarnhaol trwy weithio’n gadarn mewn partneriaeth gymdeithasol rhwng sefydliadau, gweithwyr ac undebau llafur.