Un o gyfarwyddwyr Cwmpas yn cael ei phenodi i’r Pwyllgor Gweithredu Cenedlaethol ar Gynhwysiant Digidol

21 Gorffennaf 2025

Mae Cwmpas yn falch o gyhoeddi bod ein Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol, Jocelle Lovell, wedi’i phenodi i’r Pwyllgor Gweithredu ar Gynhwysiant Digidol (DIAC), sef corff cynghori newydd sy’n cael ei gadeirio gan y Farwnes Hilary Armstrong.

Sefydlwyd y pwyllgor gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) i lywio, craffu ar a chefnogi ymdrechion y llywodraeth i leihau allgau digidol a sicrhau mynediad digidol teg i bawb. Bydd tri is-bwyllgor a fydd yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth a phartneriaeth yn y diwydiant, cyflenwi lleol a gwasanaethau digidol cynhwysol.

Bydd Jocelle yn cadeirio’r is-bwyllgor cyflenwi lleol gyda Jason Tutin o 100% Digital Leeds, gan gyfrannu ei harbenigedd mewn cynhwysiant digidol a chydweithio ag arweinwyr o bob sector i lunio strategaethau sy’n hybu mynediad cyfartal i bawb.

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yn Cwmpas:

“Mae gan gynhwysiant digidol y grym i weddnewid bywydau, cymunedau a’r economi. Ein rôl ni yw sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r Pwyllgor Gweithredu ar Gynhwysiant Digidol, gan weithio â chydweithwyr i greu DU sy’n gynhwysol yn ddigidol ac yn gydnerth yn economaidd.”

Dywedodd Bethan Webber, Prif Weithredwr Cwmpas:

“Rydym yn hynod falch o weld Jocelle yn cynrychioli Cwmpas a Chymru ar y Pwyllgor Gweithredu ar Gynhwysiant Digidol. Mae ei hymroddiad i hyrwyddo mynediad digidol teg yn ddiysgog a bydd hi’n dod â llais a gweledigaeth rymus i’r Pwyllgor. Mae penodiad Jocelle yn adlewyrchu arweinyddiaeth Cwmpas o ran cefnogi cymunedau digidol cynhwysol yng Nghymru ac edrychwch ymlaen at yr effaith gadarnhaol a pharhaol y bydd pwyllgor yn ei chael ar leihau allgau digidol a sicrhau mynediad teg i bawb ledled y DU.”