Tanio – Y Sefydliad Celf Cymunedol Sy’n Tanio Pethau Mawr yn Sir Pen-y-Bont ar Ogwr

14 Gorffennaf 2025

Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, Tanio y mae’r sefydliad celf cymunedol creadigol hwn wedi’i gyflawni – mae wedi tanio creadigrwydd a newid mewn cymuned a oedd yn ei gweld hi’n anodd ar ôl Covid. 

Roedd y sefydliad, a sefydlwyd gyntaf yn y 1980au o dan enw ‘Valley and Vale Community Arts’ yn ystod streic y glowyr, yn symbol o gydlyniant cymunedol ar draws Cwm Garw a Bro Morgannwg, gan ailfrandio yn 2020. Yn ystod cyfnod Covid, darparodd Tanio weithdai creadigol a gwasanaethau cymorth, gan gyrraedd cannoedd o unigolion a theuluoedd, a chynnig cymorth emosiynol ac ymdeimlad o gymuned a gwydnwch. 

A hithau’n fenter gymdeithasol wedi’i lleoli mewn capel ym Metws, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Tanio’n defnyddio celf cymunedol fel arf i ddwyn pobl ynghyd i danio newid cymdeithasol ar sail tair blaenoriaeth: iechyd, yr amgylchedd a hwyl gymunedol. 

Meddai Lisa Davies, Prif Weithredwr Tanio: 

“Mae ein lleoliad ym Metws yn hynod bwysig.  

“Oherwydd ein bod wedi cymryd amser i feithrin ymddiriedaeth ac adeiladu gofod diogel i bobl, maen nhw’n gallu dweud wrthym pan maen nhw’n cael amser anodd.  

“Mae pob perthynas sydd gennym wedi’i seilio ar ymddiriedaeth. Rydyn ni’n glir am yr hyn rydyn ni’n mynd ati i’w gyflawni ac rydyn ni’n cyflawni llawer iawn o bethau da ochr yn ochr â hynny.”  

Yn ogystal â gweithgareddau cymunedol fel eu digwyddiadau budd cymunedol adeg y Nadolig a diwrnod hwyl y Pasg, mae Tanio’n darparu amrywiaeth o brosiectau, gweithgareddau creadigol ac ymyriadau i hybu sgiliau, hyder a hunan-barch. Maen nhw’n canolbwyntio’n arbennig ar unigolion a grwpiau a all fod ar y cyrion, yn fregus, neu’n wynebu risg.  Mae rhaglen Breathing Space ar waith mewn saith lleoliad ar draws Sir Pen-y-bont ar Ogwr a Phontypridd, ac mae’n cefnogi dros 70 o bobl bob wythnos. 

“Mae’n defnyddio creadigrwydd ac ymgysylltu â’r gymuned i gefnogi pobl sy’n teimlo’n unig: dull ataliol wedi’i adeiladu ar sail iechyd meddwl. Rydym ni’n cael atgyfeiriadau gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) a thimau gofal iechyd meddwl.  

“Petai’r unigolion hynny’n mynd at y meddyg teulu, mae’n siŵr mai cael cyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn fydden nhw, ond ni fyddai hynny’n datrys eu hangen, mewn gwirionedd.  

“Mae gweithgareddau cymdeithasol creadigol – rhagnodi cymdeithasol – yn gwneud mwy o wahaniaeth i’w hiechyd a’u lles.” 

Rhaglen arall mawr ei heffaith yw Cysylltu Gofalwyr, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Cwmpas, ac sy’n dwyn gofalwyr di-dâl ynghyd ym Metws a Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr. Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth y grwpiau ysgrifennu, canu ac, mewn partneriaeth â Choirs For Good, recordio cân wreiddiol hynod brydferth o’r enw ‘Who Cares?’, yn pledio ar yr awdurdodau i wrando a gwneud eu bywyd gofalu yn haws.  

Mae’r grwpiau cymorth yn cynnig cyfle i rannu rhwystredigaeth a phleser gofalu mewn gofod creadigol diogel a hwyliog.  

“Rydyn ni wedi helpu pobl i sylweddoli bod ganddyn nhw rym ac rydyn ni wedi rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio’r grym hwnnw. 

“Fe drafodon nhw ba mor bwysig y bu creadigrwydd a meithrin cysylltiadau iddyn nhw. Efallai mai person cryf y grŵp fydd rhywun un wythnos, yr wythnos ganlynol, efallai byddan nhw wedi cael amser caled ac angen ychydig o gymorth eu hunain. Mae rhywun yn gwneud paned o de i chi ac, yn sydyn, mae bywyd ychydig yn well.  

“Rydyn ni’n eu galluogi nhw i eistedd, tynnu llun a meddwl am sut maen nhw’n teimlo. Rydyn ni’n rhoi lle iddynt greu caneuon a cherddi.  

“Mae’r hud mewn dau beth sy’n digwydd gyda’i gilydd.  

“Mae rhwydweithio rhwng cymheiriaid yn hynod bwysig.” 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) a Cwmpas ill dau wedi cefnogi gweithgareddau Tanio trwy raglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin.  

“Mae eu cefnogaeth wedi bod yn bwysig tu hwnt i ni. 

“Aethom i hacathon gwych yn Nhŷ Bryngarw ar wasanaethau cyhoeddus a rhoddodd cynghorwyr Cwmpas gyngor i ni ar ein tendr cyntaf. 

“Yna, aethom ni i Farchnadle Gwerth Cymdeithasol wych Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghlwb Rygbi Brynmenyn.  

“Roedd bod yn yr ystafell yn amhrisiadwy, yn  cyfarfod a meithrin perthnasoedd â mentrau cymdeithasol eraill. Dechreuodd pobl siarad amdanom ni a dangosodd y gweithdai i ni sut i gymhwyso theori busnes yn ymarferol. 

“Rydyn ni wedi llunio partneriaeth â BCBC i ddatblygu dosbarthiadau coginio creadigol mewn ysgolion lleol a chymunedau, gan annog pobl ifanc i ddysgu coginio bwyd ffres, addurno potiau planhigion, a gofalu am a thyfu hadau gartref. Rydyn ni bob amser yn chwilio am bethau hwyliog, am ddim, i bobl ddysgu eu gwneud gyda’i gilydd a mynd â nhw adref gyda nhw. 

“Mae’r agenda iechyd a’r celfyddydau yng Nghymru yn wych. Mae’n bwysig gwybod beth sy’n digwydd mewn ffactorau gwleidyddol a chymdeithasol, a newid beth rydyn ni’n ei wneud er mwyn bodloni anghenion. 

“Mae arallgyfeirio yn ein gwneud ni’n fwy cadarn ac yn fwy defnyddiol. 

“Nawr, rydyn ni’n gweithio gyda chwmnïau adeiladu ar themâu gwerth cymdeithasol. 

“Rydyn ni’n dîm bach sy’n gwneud pethau mawr ar draws y Sir. Rydyn ni gymaint yn fwy na’n nifer. 

“Mae’n gyfnod anodd ac nid yw pobl yn cael yr holl help sydd ei angen arnynt, ond mae’n bwysig iawn bod yn garedig a chofio’r llawenydd y gallwn ei roi i bobl.”