Tafarn a Achubwyd gan Bobl: Stori Adfywiad Ty’n Llan
Dydd Gwener, 28ain o Dachwedd, bu criw Tafarn Gymunedol Ty’n Llan yn Llandwrog ger Caernarfon yn cynnal eu hagoriad swyddogol. Roedd camerâu rhaglen Heno yno’n darlledu’n fyw, y rhuban coch wedi’i dorri, a thrigolion lleol yn cael cyfle i godi gwydriad i ddathlu penllanw pum mlynedd o waith.
Caeodd drysau’r dafarn nôl yn 2017, ar adeg pan oedd 18 tafarn yn cau bob wythnos ledled Prydain. Am sawl blwyddyn bu’r adeilad yn wag, nes i’r newyddion ledaenu yn 2021 fod bwriad i’w gwerthu. Yn fuan, fe ddatblygodd pryder lleol i fod yn
ymgyrch gan y gymuned oedd yn benderfynol o’i phrynu a’i hadfywio.
“Roedden ni’n dod at ddiwedd y cyfnod clo, ac roedd pobl yn fwy ymwybodol nag erioed o bwysigrwydd cymuned a chysylltiad,” eglura Huw Jones, Trysorydd Menter Ty’n Llan, y fenter gymunedol sy’n gyfrifol am y prosiect. “Pan glywsom fod Ty’n Llan am gael ei rhoi ar y farchnad, roedd ’na deimlad fod ’na frys i wneud rhywbeth – doedd neb eisiau gweld y dafarn yn cael ei throi’n dŷ preifat, fyddai’n golygu ei cholli am byth.”
Daeth criw at ei gilydd a thorchi llewys. Mewn byr o amser roedd angen llunio cynllun busnes, a chynllun gwerthu siârs.
“Reit ar y dechrau, ar ôl penderfynu ffurfio’r gymdeithas er budd cymunedol, a cheisio prynu’r adeilad, cawsom arddeall bod Cwmpas yn gallu cefnogi ymgyrchoedd tebyg, felly dyma gysylltu.” Esbonia Huw. “Mewn dim o dro, rhoddodd Cwmpas ni mewn cysylltiad ag arbenigwr oedd yn medru bwrw golwg dros ein cynllun busnes a’n cynllun siârs ni, ac arbenigwr arall o’r
maes lletygarwch oedd yn siarad Cymraeg, oedd yn gallu rhoi syniad i ni os oedd ein ffigyrau ni yn weddol agos ati neu beidio.”
Wedi derbyn cymorth i baratoi’r dogfennau swyddogol dyma fynd amdani. Llwyddodd y Fenter i godi £465,200, £65,200 yn fwy na’r targed. Aeth y pryniant yn ei flaen yn ddiweddarach yn 2021, ac erbyn Nadolig y flwyddyn honno, roedd y
dafarn wedi ailagor fel ag yr oedd hi tra’r oedd gwaith adnewyddu hanfodol yn mynd rhagddo. Law yn llaw â chodi siârs cymunedol, roedd y criw hefyd wrthi yn ymgeisio am ragor o arian fyddai’n eu galluogi i atgyweirio, moderneiddio a thrawsnewid yr hen adeilad.
“Roedd cynllun y Llywodraeth Brydeinig, y Community Opportunities Fund (COF) wedi ei lansio yn ystod haf ’21, ond roedden ni’n meddwl ei fod o’n rhy fuan i ni. Ond roedd gan Cwmpas well syniad o ran beth oedd y sefyllfa yng Nghymru, ac roedden
nhw’n synhwyro nad oedd llawer o gynigion yn debygol o fod yn barod mewn pryd, ac yn amlwg am sicrhau bod Cymru’n cael ei siâr o’r pwll Prydeinig newydd yma. Felly yn reit agos at y dyddiad cau, gan fod ein Cynllun Busnes ni eisoes ar gael,
dyma benderfynu mynd amdani, ac fe lwyddon ni i gael yr arian.”
Yn y diwedd, llwyddodd Menter Gymunedol Ty’n Llan i sicrhau cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF), Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac Arfor. Cyn hynny hefyd, cafwyd
cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru (CFP), Cronfa Cyfleoedd Cymunedol Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
“Rydym wedi bod yn hynod lwcus o’r grantiau sydd wedi bod ar gael ac mae’r gefnogaeth gan Cwmpas wedi bod yn amhrisiadwy; roedden nhw’n ffrindiau i ni, yn ffrindiau da gyda gwybodaeth ddefnyddiol ac roedd rhywun wastad yn teimlo eu bod yno i’n helpu ni i lwyddo.”
Mae gan yr adeilad bellach bum ystafell wely foethus, cegin newydd sbon, bwyty modern gyda golygfeydd tuag at fynyddoedd yr Eifl, ac ystafell gymunedol bwrpasol. Yn yr ardd, mae cwt gwerthu ble gall trigolion y pentref brynu nwyddau sylfaenol fel llefrith a bara, ac mae ugain o bobl o’r ardal leol bellach yn cael eu cyflogi gan Menter Ty’n Llan.
“Roedd hi’n braf codi glasiad i ddathlu yn yr agoriad swyddogol,” ychwanega Huw. “Mae wedi bod yn waith caled, ac mae’n cymryd amser, ond os oes gennych gymuned gref sy’n barod i gydweithio, gallwch chi lwyddo hefyd.”