Sut mae ein tîm gwerthuso’n rhoi hwb i brosiectau

5 Rhagfyr 2023

Yma yn Cwmpas, rydym yn credu mewn gwerthuso seiliedig ar werthoedd sy’n canolbwyntio’n llwyr ar bobl. Mae’r tîm yn ffodus o gael gweithio gyda phrosiectau ysbrydoledig sy’n newid bywydau.

Yn y blog hwn, rydyn ni’n amlinellu agweddau craidd ein gwasanaeth gwerthuso ac yn manylu ar yr effaith y mae ein tîm wedi’i chael ar y sefydliadau hyn a’r bobl dan sylw. Yn Cwmpas mae ein tîm gwerthuso’n darparu gwerthusiadau crynodol a ffurfiannol ar gyfer amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, grwpiau trydydd sector a mentrau cymdeithasol. I Cwmpas a’r tîm, mae’n ymwneud â chefnogi’r prosiect i wneud gwahaniaeth.

Ar flaen y gad yn ein gwasanaeth gwerthuso mae Jenny Phillips, ein Hymgynghorydd Twf a Chyflenwi Busnes. Mae taith broffesiynol Jenny yn pontio sawl sector amrywiol, gan gynnwys addysg uwch, gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector, ac mae’r profiad hwn wedi ei galluogi i gaffael set eang ac amrywiol o sgiliau. Mae MSc Jenny mewn Astudiaethau Gerontoleg a Heneiddio o Brifysgol Abertawe yn golygu bod ganddi ddealltwriaeth drylwyr o ddulliau ymchwil ansoddol a meintiol, ynghyd â medrusrwydd mewn dadansoddi data.

Mae Jenny a’r tîm wedi cyfrannu at waith monitro a gwerthuso amrywiol ledled Cymru. Yr hyn sy’n gwneud ein proses werthuso’n unigryw yw ein dull sy’n canolbwyntio ar bobl. Trwy roi’r gymuned, rhanddeiliaid a chyfranogwyr wrth wraidd y broses werthuso, credwn y gall prosiectau wireddu eu potensial.

Mae Jenny yn taflu goleuni ar eu dulliau, gan chwalu’r dybiaeth nad yw gwerthusiadau’n ddim mwy nag ymarfer ticio bocsys:

“Dydyn ni ddim yma i ganfod bai. Rydyn ni’n dod yn aelodau annatod o dîm y prosiect, gan helpu i’w arwain tuag at ei botensial llawn a chasglu tystiolaeth werthfawr. Ein nod yw arddangos canlyniadau mewn ffordd sy’n werthfawr i sefydliadau a chyllidwyr.”

Ein hagwedd at werthuso

Mae Jenny a’r tîm yn gwneud mwy na gwerthuso’n unig; maen nhw’n dod yn bartneriaid gwirioneddol yn y prosiect. Yn y pen draw nod pawb sy’n cymryd rhan yw sicrhau llwyddiant y prosiect, ac rydyn ni’n cymryd camau rhagweithiol i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl. Mae meithrin perthnasoedd cryf yn hollbwysig, ac rydyn ni’n cydweithio’n agos â chyllidwyr i ymchwilio a deall cymhlethdodau’r prosiect.

Amlinellodd Jenny ei safbwynt:

“I ni, nid gwerthuso yw’r canlyniad terfynol, ac rydyn ni’n ymfalchïo mewn helpu sefydliadau i gasglu tystiolaeth a nodi perthnasedd strategol a fydd yn eu cynorthwyo i barhau i dyfu, sicrhau cyllid a chyflawni eu nodau. Gan weithredu’n rhannol fel ffrind beirniadol, rydyn ni’n gweithio’n agos law yn llaw â’n cleientiaid, gan ymdrechu bob amser i wneud y mwyaf o botensial pob prosiect.

Mae hyd a lled y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn cwmpasu sawl lefel o reoli prosiectau, ac rydyn ni’n gweithio gyda chyrff cyllido yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu bod gennym ni ddealltwriaeth helaeth o sut mae cyllid yn gweithio ac, yn y bôn, rydyn ni’n gwybod beth mae’r cyllidwyr yn chwilio amdano. Mae hyn yn sicrhau y gallwn ddod â thystiolaeth y gwyddom sy’n fuddiol ac yn werthfawr i gyllidwyr i’r amlwg”.

Ein heffaith

Mae’r effaith y mae’r gwasanaeth hwn yn ei ddarparu yn amrywio, gan adlewyrchu nodau unigryw pob prosiect. Mae rhai prosiectau’n pwysleisio enillion ariannol a chanlyniadau sy’n cael eu llywio gan ddata, tra bod eraill yn ymchwilio i brofiad unigol.

Wrth siarad am yr effaith y mae’r gwasanaeth yn ei gael, dywedodd Jenny:

“Mae natur amrywiol y broses werthuso’n golygu y gallwn ddadansoddi prosiectau mewn sawl ffordd. Gallwn ddefnyddio Llyfr Gwyrdd Trysorlys EF neu fethodolegau Fframwaith TOM i ffurfio adenillion o fuddsoddi. Efallai y byddwn yn defnyddio dulliau ansoddol, cyfranogol megis Mapio Newid Mwyaf Sylweddol neu Effeithiau Ehangach i sicrhau canlyniadau mwy ansoddol. Rydyn ni’n treulio amser bob amser yn siarad gyda’r bobl sy’n cymryd rhan ar bob lefel o’r prosiect, yn amrywio o bobl sy’n derbyn gwasanaeth neu gefnogaeth, i swyddogion gweithredol y sefydliad. Mae gwrando ar bobl wyneb yn wyneb a rhoi lle i’r lleisiau hyn adrodd stori’r prosiect yn hynod effeithiol o ran dangos effaith ac wrth sicrhau cyllid yn y dyfodol.”

Prosiectau cofiadwy

Mae dau brosiect nodedig yn dangos arbenigedd y tîm. Roedd prosiect Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn canolbwyntio ar adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr drwy alluogi busnesau newydd i roi cynnig ar fasnachu mewn stondinau codi – mewn siopau gwag a stondinau marchnad – a thrwy hynny gynyddu nifer yr ymwelwyr ac amser yn y dref a chynyddu gwario mewn siopau a marchnadoedd lleol.

Er mwyn darparu tystiolaeth i gefnogi effaith y prosiect ar nifer yr ymwelwyr a gwariant, dadansoddodd Jenny ddata o gamerâu yng nghanol y dref a data sydd ar gael ar wariant manwerthu er mwyn darparu tystiolaeth gadarn o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr a’r gwariant sy’n deillio o weithgareddau’r prosiect. Roedd hyn, ynghyd â thystiolaeth gan y rhai a gymerodd ran yn uniongyrchol, yn golygu y gellid gwneud dadansoddiad cynhwysfawr o’r prosiect.

Mae Cwmpas yn cydweithio â Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd ar brosiect tair blynedd sy’n archwilio sut y gellir ymwreiddio creadigrwydd ac arferion meddwl creadigol mewn lleoliadau meithrin blynyddoedd cynnar ledled Cymru. Wrth drafod ei chyfraniad, dywedodd Jenny:

“Mae’n brosiect cyffrous a gwerthfawr iawn i fod yn rhan ohono, gan adlewyrchu egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n hanfodol wrth lunio dyfodol Cymru. Mae wedi bod yn brofiad cydweithredol a chadarnhaol iawn, gyda Cwmpas yn cefnogi’r prosiect i sicrhau gwerth y gwaith a gyflawnwyd gan y tîm.”

Mae’r adroddiad (Saesneg yn unig) ar gael yma:
https://www.earlyyears.wales/sites/default/files/creative_learning_in_the_early_years_evaluation_report_-_year_1.pdf

Wrth i ni barhau i esblygu ac addasu, rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar alluogi prosiectau i wireddu eu potensial llawn, meithrin cynnydd, a gadael effaith barhaol ar y rhai sy’n ymwneud â phob prosiect.

Allwn ni eich helpu chi i werthuso prosiect neu grant? Cysylltwch â’r tîm i gael sgwrs.

E-bost: commercialteam@cwmpas.coop