Sut i hacio eich ffordd i syniad newydd?

12 Hydref 2023

Beth pe gallech chi fywiogi’ch tîm neu’ch cymuned i arloesi, dod o hyd i atebion a chyflwyno syniadau newydd? Swnio’n ddiddorol? Dysgwch fwy am ein Hac Caredigrwydd® a sut y gallwch chi, yn syml, Ddechrau Rhywbeth Da®.

Mae’n amser cyffrous i Cwmpas yn dilyn lansio brand Dechrau Rhywbeth Da®. Rydym yn dathlu cyflawni mwy na 40 o ddigwyddiadau Hac Caredigrwydd® ledled Cymru. Trwy’r Haciau, mae Cwmpas wedi ymgysylltu â mwy na 1500 o gyfranogwyr, sydd wedi cyflwyno syniadau newydd ar gyfer newid cymdeithasol ac arloesi mewn busnes.

Beth sydd gan ein holl gleientiaid yn gyffredin?

Mae ganddynt awydd i ymgysylltu â rhanddeiliaid, dod at ei gilydd i greu syniadau newydd a Dechrau Rhywbeth Da®. Y nod yn y pen draw yw cynnig opsiynau i fynd i’r afael â heriau, sbarduno arloesedd a mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar ein cymunedau.

Felly, beth yw digwyddiad Hac Caredigrwydd®?

Yn y fideo hwn, mae Martin Downes, Ymgynghorydd Arweiniol Dysgu a Datblygu yn Cwmpas a Kelly Davies o Ashoka a Chadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn crynhoi’n berffaith beth yn union yw Hac Caredigrwydd® a manteision y broses unigryw:

Sut all Hac Caredigrwydd® eich helpu chi?

Mae pob sefydliad, busnes preifat, elusen a grŵp cymunedol yn defnyddio ein Haciau mewn ffordd wahanol, sy’n gwneud y gwasanaeth yn unigryw ac wedi’i deilwra i sicrhau bod y canlyniadau yn cyd-fynd ag anghenion a nodwyd ar ddechrau’r dydd. Gellid defnyddio Hac ar gyfer:

  • Arloesi ac ymgysylltu cymunedol
  • Mewnwelediad dyfnach i gymunedau
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Sylfeini ar gyfer cydgynhyrchu
  • Cynhyrchu syniadau busnes ffres / datblygu prosesau
  • Datrys problemau penodol / difrifol
  • Datblygu Menter Gymdeithasol
  • Archwilio atebion yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Arloesi er budd cymdeithasol

Beth yw eich her?

Mae Cwmpas yn gweithio gyda sawl sefydliad yn amrywio o brifysgolion, colegau, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, elusennau i fusnesau preifat. Mae problem gymhleth yn broblem – un gymdeithasol neu ddiwylliannol fel arfer – sy’n heriol neu’n amhosib ei datrys naill ai oherwydd nad oes digon wedi ei ddeall am y broblem, neu oherwydd nifer y rhanddeiliaid dan sylw, nifer y barnau amrywiol, y baich economaidd neu effaith y problemau hyn.

Gallai fod yn mynd i’r afael â phynciau fel Ymarfer Busnes Cyfrifol (RBP), gwerth cymdeithasol, Sero Net, Budd Cymunedol, Llywodraethu Cymdeithasol Amgylcheddol (ESG) neu’r agenda Nod Datblygu Cynaliadwy ehangach (SDG).

Yn y pen draw, rydym am eich helpu i wneud eich gweithgareddau yn gydnaws â saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chreu Cymru lewyrchus. Mae pob Hac Caredigrwydd® wedi creu syniadau newydd, effaith gymdeithasol ac wedi gwneud gwahaniaeth.

Pa mor hir yw ein hac?

Mae’r Hac Caredigrwydd® fel arfer yn sesiwn diwrnod cyfan sy’n dod â phobl ynghyd o gefndiroedd amrywiol i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â heriau mwyaf arwyddocaol ein hoes.

Profiad newydd

Yr hyn y mae ein Hac Caredigrwydd® yn ei gynnig yw egni, brwdfrydedd ar y cyd a dull ymarferol o ddatrys problemau sy’n ysgogi ac yn bywiogi cyfranogwyr.

Mae’r profiad yn gynhwysol, ymarferol, cyfeillgar a chaiff y syniadau eu dilyn ar ôl y digwyddiad gan ein Ymgynghorydd Gwerth Cymdeithasol, i’ch helpu chi i wneud i bethau ddigwydd.

Cwrdd â’r Tîm Dechrau Rhywbeth Da®

Mae’r grŵp Dechrau Rhywbeth Da yn cynnwys arbenigwyr sy’n arbenigo mewn menter, datblygu cymunedol, gwerth cymdeithasol, polisi, sero net, ac atebion digidol. Er gwaethaf eu meysydd amrywiol, maent i gyd yn rhannu angerdd cyffredin dros feithrin arloesedd cymunedol. Mae Cwmpas yn defnyddio cryfder amrywiaeth gydag edefyn gwerthoedd cyffredin, gweledigaeth ar y cyd ac eirioli dros gydgynhyrchu, gyda mwy na 100 o gydweithwyr wedi’u lleoli’n strategol o fewn cymunedau Cymru.

Mae ein cydweithwyr yn cymryd rhan weithredol mewn cynhwysiant digidol, menter gymdeithasol, tai a gofal cymdeithasol, gan ganiatáu i’r tîm Dechrau Rhywbeth Da fanteisio ar gyfoeth o arbenigedd ac adnoddau lleol.

Martin Downes, Prif Ymgynghorydd: Dysgu a datblygu

Martin yw crëwr Dechrau Rhywbeth Da a Hac Caredigrwydd® ac mae’n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA). Mae gan Martin gefndir mewn busnes, gwaith cymunedol a chyhoeddi. Mae’n awdur, hwylusydd a siaradwr cyhoeddus sydd ag angerdd dros arloesi, cydgynhyrchu ac atebion hewristig.

Paul Stepczak, Ymgynghorydd: Twf Busnes a Chyflawni

Mae Paul yn ymarferydd datblygu cymunedol profiadol ac entrepreneur ers dros 20 mlynedd, ac mae’n cyd-ddylunio a chyflwyno llawer o ddigwyddiadau Hac Caredigrwydd® ac mae ganddo angerdd am ymgysylltu â’r gymuned ac arloesi.

Rachael Hobbs, Ymgynghorydd Gwerth Cymdeithasol

Mae Rachael yn ymgynghori ar effaith gymdeithasol – mae hi’n cefnogi unigolion a grwpiau sy’n datblygu syniadau o dan y rhaglen Dechrau Rhywbeth Da® a rhaglenni dysgu eraill. Mae gan Rachael gefndir mewn gwerthiant Busnes i Lywodraeth (B2G), marchnata rhyngwladol ac entrepreneuriaeth, menter gymdeithasol, adeiladu cyfoeth cymunedol a Sero Net.

Swnio’n dda?

Cysylltwch â’n tîm Hac Caredigrwydd® a gwnewch eich hun yn barod i Ddechrau Rhywbeth Da®. Gallwch hefyd ddarllen mwy ar wefan Cwmpas https://cy.cwmpas.coop/dechrau-rhywbeth-da/.