Twristiaeth De Cymru: Ymgymryd â Her Hacathon

22 Medi 2023

Ar 19 Medi, cynhaliodd Cwmpas Hacathon Twristiaeth Gymunedol Dechrau Rhywbeth Da® ar gyfer de Cymru. Fel un o’r hwyluswyr, mae fy mhen yn dal i droi o’r egni yn yr ystafell a greodd lawer o gysylltiadau newydd a nifer fawr o syniadau ar gyfer cymuned dwristiaeth de Cymru.

Daeth yr holl waith caled a brwdfrydedd gan set amrywiol o gyfranogwyr o 24 o wahanol sefydliadau oedd yn cynnwys nifer o awdurdodau lleol, Parc Rhanbarthol y Cymoedd, Tempo Time Credits, BikePark Cymru, Techniquest, Near Me Now, a Groundwork Cymru i enwi dim ond rhai.

Her y diwrnod oedd dod o hyd i syniadau newydd i’r broblem “Sut gall cymunedau fod yn fwy o ran o gynhyrchu twristiaeth?”

Yn unol â strwythur cyffredinol hacathonau Dechrau Rhywbeth Da®, roedd y diwrnod yn cynnwys y canlynol:

  • Creu nifer o dimau bach, amrywiol.
  • Annog pob tîm i rannu eu cryfderau, fel eu rhwydweithiau, profiad, gwybodaeth ac ati.
  • Gofyn i’r timau edrych yn ddyfnach i’r sefyllfa bresennol er mwyn amlygu unrhyw rwystrau.
  • Arwain y timau drwy ymarfer syniadau i’w helpu wedyn i nodi ffyrdd y gallan nhw ddefnyddio’u cryfderau cyfunol i ddod o hyd i ateb.
  • Creu prototeipiau o bob syniad i brofi eu hyfywedd.
  • Yna pob tîm yn rhannu eu syniad gyda thimau eraill i gael adborth cyn cyflwyno’u syniad i’r mynychwyr eraill.

Er mai dim ond “mini hac” oedd hwn gyda’r nod o greu nifer o syniadau, roedd yr ymateb yn drawiadol iawn:

Syniad 1: Fferm Gymunedol Merthyr
Fferm gymunedol/ymwelwyr a chanolfan farchogaeth yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, ysgolion a gwasanaethau presgripsiwn cymdeithasol yn gweithredu fel cyflenwr bwyd lleol tra’n addysgu cenedlaethau’r dyfodol ar faterion amgylcheddol fel ynni’r haul a gwynt.

Syniad 2: Holi Plentyn Pum Mlwydd Oed
Manteisio ar naïfrwydd ac agwedd gadarnhaol y cenedlaethau iau, nod “Holi plentyn pump oed” yw cynhyrchu syniadau trwy ofyn i blant am eu datrysiadau nhw i broblemau, gydag ymyrraeth gan oedolion ar gyfer unrhyw agwedd ymarferol.

Syniad 3: Croeso Gwyrdd
Creu mannau cyhoeddus gwyrdd gyda chyllid sbarduno a dull economi gylchol o ddefnyddio adnoddau.

Syniad 4: ID Brand Twristiaeth
Creu hunaniaeth cydgysylltiedig ar gyfer twristiaeth yn ne Cymru trwy gysylltu sefydliadau bach a mawr gyda’i gilydd ar gyfer cyfleoedd i wneud ceisiadau ar y cyd.

Syniad 5: Delweddau Cadarnhaol
Cipio a rhannu delweddau o/ar gyfer ‘balchder dinesig’ yn y gymuned, gyda byrddau digidol i arddangos y delweddau hyn. Defnyddio byrddau i hyrwyddo un cwm mewn cwm arall.

Syniad 6: Merthyr ar y Map
Dod â sylw rhyngwladol i Ferthyr trwy wneud Merthyr yn gartref i’r ŵyl grefftau i Gymru (yn debyg i Ganwr y Byd Caerdydd a Gŵyl Lyfrau’r Gelli), gan ddefnyddio gwaith byd-enwog Margaret Watts Hughes fel ei sylfaen.

Roedd y digwyddiad yn rhan o brosiect Imagining New Futures, a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol y DU. Rydyn ni’n gobeithio nawr y bydd rhai o’r timau’n gwneud cais am un o’r grantiau cymunedol bach sydd ar gael drwy’r prosiect i gefnogi twristiaeth leol.

Yn y digwyddiad, cafodd y cyfranogwyr y pleser o gyflwyniad ardderchog gan yr hanesydd lleol Chris Parry ar hanes yr ardal a’r gyrchfan dwristiaeth leol, Castell Cyfartha, ynghyd â diweddariad byr o arlwy twristiaeth ehangach Merthyr gan Lyndsey Handley o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Felly, gyda digwyddiad De Cymru ar ben, mae tîm Dechrau Rhywbeth Da® nawr yn troi eu sylw at Hacathon Twristiaeth Gymunedol Gogledd Cymru yn Rhuthun ar 27 Medi. Os hoffai unrhyw un ymuno, gellir cadw lle hyd at 26 Medi. I archebu lle, ewch i’r ddolen Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/hac-twristiaeth-gymunedol-community-tourism-hack-tickets-699529540687

Gobeithiwn eich gweld chi yno!

Paul Stepczak – Ymgynghorydd Twf Busnes ar gyfer Cwmpas a Hwylusydd Dechrau Rhywbeth Da®