
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi lleihau maint y bil lles fel amcan allweddol. O ganlyniad, mae wedi cyhoeddi toriadau yn y gyllideb a newidiadau i feini prawf cymhwyster, gan dynhau mynediad at gymorth ariannol i’r rhai y tu allan i’r farchnad lafur. Ond mae’r mesurau hyn wedi’u herio’n gryf gan felinau trafod gwrthdlodi ac elusennau anabledd, sy’n rhybuddio y byddant yn anochel yn arwain at lefelau uwch o dlodi, yn enwedig ymhlith pobl anabl a’r rhai sy’n wynebu rhwystrau lluosog i gyflogaeth.
Mae dwy brif ffordd o leihau’r bil lles: torri cymorth ariannol a chyfyngu ar gymhwysedd, neu gynyddu’r cyflenwad o swyddi hygyrch a chynhwysol sy’n dod â phobl i mewn i waith. Yn amlwg, mae perygl i’r dull gweithredu cyntaf waethygu anghydraddoldeb a chaledi. Mae’r ail – creu mwy o gyfleoedd cyflogaeth sy’n wirioneddol hygyrch i’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur – yn ateb tymor hwy ond llawer mwy cynaliadwy.
Nid yw ailstrwythuro’r farchnad lafur i fod yn fwy cynhwysol yn ymyriad syml. Mae angen i gyflogwyr ganolbwyntio ar drin pobl fel unigolion a deall eu cryfderau, gan gydnabod y cyfraniad y gallant ei wneud, a chydnabod cymhlethdod bywydau pobl a’r cyfyngiadau gwirioneddol sy’n effeithio ar yr hyn sy’n bosibl. Nid yw hyn yn ymwneud â gorfodi pobl i waith anaddas ond yn hytrach â chynllunio swyddi a gweithleoedd sy’n cael gwared o rhwystrau, yn gweithio ochr yn ochr â’u bywydau ac yn galluogi pobl i ffynnu.
Mentrau Cymdeithasol yn hybu cyflogaeth gynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru
Yn ffodus, mae gan Gymru fusnesau llwyddiannus sy’n arwain y ffordd o ran dangos bod cyflogaeth gynhwysol yn gyraeddadwy ac o fudd i unigolion, busnesau a chymunedau. Mae mentrau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cyfleoedd gwaith ystyrlon i’r rhai a allai fel arall gael eu heithrio o gyflogaeth draddodiadol. Trwy ddefnyddio’r model llinell driphlyg a blaenoriaethu pobl a’r blaned yn ogystal â chynaliadwyedd ariannol, mae’r mentrau cymdeithasol hyn yn defnyddio eu mentergarwch i greu swyddi sydd nid yn unig yn ariannol hyfyw ond sydd hefyd wedi’u cynllunio i gefnogi a grymuso unigolion.
Maen nhw’n profi ei bod hi’n bosibl adeiladu marchnad lafur lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae’r mentrau cymdeithasol hyn yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant wedi’u teilwra i anghenion unigolion, gan helpu pobl i fagu hyder, datblygu sgiliau, a symud tuag at sicrwydd swydd hirdymor. Mae eu gwaith yn amlygu dewis amgen clir i doriadau cosbol i orfodi pobl i mewn i waith—un sydd ag ymagwedd sy’n canolbwyntio ar bobl. Mae Elite Paper Solutions, Antur Waunfawr, a’r Community Impact Initative yn dri sefydliad eithriadol sy’n gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau unigolion sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Trwy ddarparu hyfforddiant, profiad gwaith, a chyfleoedd datblygiad personol, mae’r sefydliadau hyn nid yn unig yn helpu pobl i ennill sgiliau a hyder ond hefyd yn cryfhau cymunedau ac yn creu economi mwy cynhwysol.
Meithrin sgiliau, magu hyder, a thrawsnewid i gyflogaeth hirdymor
Wedi’i leoli yng nghymoedd de Cymru, mae ELITE Paper Solutions yn darparu gwasanaethau rhwygo a dinistrio cyfrinachol a diogel ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon i unigolion anabl a difreintiedig a allai fel arall ei chael yn anodd dod o hyd i waith.
Daethant o ELITE Supported Employment Agency Ltd, elusen sydd wedi bod yn cynorthwyo pobl ag anableddau i gael a chynnal cyfleoedd cyflogaeth â thâl, o fewn y gymuned, drwy gymorth un i un ers 1994. Gan ddibynnu ar gydweithio â busnesau lleol i ddarparu cyfleoedd galwedigaethol, cydnabuwyd yr angen i sefydlu eu busnes cynaliadwy eu hunain, gyda’r nod o greu cyflogaeth â thâl neu gyfleoedd gwaith i’r hymgeiswyr – lansiwyd ELITE Paper Solutions wedyn, ynghyd â chreu ELITE Paper Solutions, yn 2015; ac ELITE Clothing Solutions yn 2019.
Trwy gynnig hyfforddiant strwythuredig a chyflogaeth â chymorth, maent yn galluogi unigolion i feithrin eu sgiliau, magu hyder, a throsglwyddo i gyflogaeth hirdymor. Maent wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac maent bellach yn darparu contractau ar gyfer sefydliadau proffil uchel fel Trafnidiaeth Cymru, Byrddau Iechyd a Llywodraeth Leol.
Darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i unigolion ag anableddau dysgu
Mae Antur Waunfawr, menter gymdeithasol arloesol yng ngogledd Cymru, yn darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i unigolion ag anableddau dysgu. Maent yn gwneud hyn mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys ailgylchu, crefftau coed, rhedeg caffi, a llawer mwy. Mae Antur Waunfawr yn creu amgylchedd cefnogol lle gall pobl ddatblygu sgiliau ymarferol a chael mwy o annibyniaeth.
Dywedodd eu sylfaenydd, R. Gwynn Davies, “Dros y blynyddoedd sylweddolais pa mor bwysig yw gofalu fod pob aelod o gymdeithas yn cael ei ystyried fel unigolyn ac nid fel aelod o garfan arbennig o gymdeithas. Byrdwn fy mhregeth yw mai trwy roi gwasanaeth i’w gymuned y mae person yn ennill ei blwyf fel dinesydd.”
Heddiw, maen nhw wedi tyfu i fod yn fusnes llwyddiannus sy’n cyflogi bron i 100 o bobl yng Ngwynedd.
Cyfuno hyfforddiant sgiliau gyda phrosiectau adeiladu ac adnewyddu go iawn
Community Impact Initiative (Cii) yw Menter Gymdeithasol y Flwyddyn 2024 Busnes Cymdeithasol Cymru. Maent yn cymryd agwedd arloesol at gefnogi pobl y tu allan i’r farchnad lafur trwy gyfuno hyfforddiant sgiliau â phrosiectau adeiladu ac adnewyddu. Mae cyfranogwyr, llawer ohonynt yn wynebu heriau sylweddol fel diweithdra hirdymor, problemau iechyd meddwl, neu ddiffyg cymwysterau, yn cael profiad ymarferol mewn crefftau fel gwaith coed, plastro, a phaentio wrth adnewyddu gofodau cymunedol a chartrefi. Mae’r dull hwn nid yn unig yn darparu sgiliau amhrisiadwy ond hefyd yn darparu buddion diriaethol i gymunedau lleol. Trwy feithrin hyder, gwaith tîm, a gwytnwch, mae Cii yn helpu cyfranogwyr i symud tuag at gyflogaeth sefydlog a dyfodol mwy disglair.
Dywedodd Abi Lewis, Pennaeth Cyflenwi Gwasanaethau:
“Rydyn ni’n rhoi cyfle i aelodau’r gymuned leol ddysgu sgiliau newydd, gweithio ar eu hyder a’u cymhelliant a chwrdd â phobl newydd, a’r cyfan tra’n adnewyddu cartrefi gwag yr un pryd.”
Y nod yw gwella bywyd yn sylweddol, beth bynnag mae hynny’n ei olygu i bob unigolyn. Gallai olygu dychwelyd i’r gwaith, ond yn bendant mae’n golygu magu hyder a grym trwy ennill sgiliau newydd.
Byddan nhw’n rhoi cynnig arni, a byddan nhw’n llawn cyffro ar ddiwedd y dydd, am eu bod wedi dysgu sgil newydd, ac mae ganddyn nhw hyder ynddyn nhw eu hunain i drïo rhywbeth newydd.”
Mae gan fentrau cymdeithasol ran allweddol i’w chwarae
Yn amlwg, mae gan y mentrau cymdeithasol hyn y potensial i fod yn asedau enfawr i gyflawni uchelgais Llywodraeth y DU i gefnogi pobl i gael gwaith. Nid yw’n ateb cyflym – mae gweithio gyda phobl mewn ffordd wedi’i theilwra sy’n canolbwyntio ar bobl yn cymryd amser. Ond bydd cynyddu nifer y swyddi a ddarperir gan y mentrau cymdeithasol hyn sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth yn creu ateb cynaliadwy ac hirdymor i’r heriau y mae Llywodraeth y DU wedi’u nodi.
Mae sicrhau bod sector cryf o fentrau cymdeithasol yn darparu’r cyfleoedd hyn i bobl ymuno â’r farchnad lafur yn allweddol, ac mae angen inni greu amgylchedd mor gefnogol â phosibl ar gyfer busnesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes. Er bod llawer o fentrau cymdeithasol yn ffynnu ac yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, mae heriau sylweddol hefyd. I lawer o fentrau cymdeithasol a sefydliadau trydydd sector pwysau ychwanegol diweddar eraill fel y cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr Yswiriant Gwladol yn her sy’n bygwth cynaliadwyedd y sefydliadau hyn sy’n cael effaith aruthrol.
Galwad i weithredu ar gyfer y llywodraeth
Mewn erthygl ddiweddar, mae Prif Weithredwr Antur Waunfawr, Ellen Thirsk, wedi dweud: “Mae cost gynyddol Yswiriant Gwladol yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar sefydliadau trydydd sector fel Antur Waunfawr.
“Fel menter gymdeithasol arloesol yn ein maes, sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl ag ystod o anableddau dysgu, gan gynnwys anableddau dwys a chymhleth, rydym eisoes yn gweithredu o fewn ffiniau tyn iawn, ac mae bil ychwanegol o £71,684 y flwyddyn yn her ddifrifol i ni.
Mae costau uwch fel hyn yn cyfyngu ar ein gallu i ddatblygu gwasanaethau hanfodol ac yn ein gorfodi i wneud toriadau nad ydym am eu gwneud.
Rydym eisoes wedi lleihau ein costau rhedeg yn sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn anghynaladwy o ystyried ein bod yn darparu gwasanaethau gofal gwerth hyd at £2.1 miliwn yng Ngwynedd.
“Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol ar fyrder.”
Rydym yn cefnogi’r galwadau hyn yn gryf. Byddai’r cymorth ychwanegol hwn yn fuddsoddiad mewn ail-gydbwyso’r farchnad lafur a helpu pobl i gael gwaith.
Y tu hwnt i hynny, dylai sicrhau amgylchedd cefnogol ar gyfer y busnesau cymdeithasol hyn sy’n cael effaith mawr ac hollbwysig fod wrth wraidd agenda polisi economaidd Llywodraeth Cymru – i greu twf cynaliadwy, cynhwysol i gymunedau Cymru.
Bydd buddsoddi yn y sector hwn yn creu buddion sylweddol a gwerth cymdeithasol – gan gefnogi pobl nid yn unig i mewn i waith ond i amgylchedd cefnogol sy’n eu cysylltu â’u cymuned.
Ar draws gwahanol heriau – o dlodi parhaus, i sicrhau pontio cyfiawn, i sicrhau bod cyflogaeth yn opsiwn i bawb, mae mentrau cymdeithasol sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth ac sydd â dull llinell driphlyg eisoes yn dangos yr arloesedd a’r entrepreneuriaeth gymdeithasol a fydd yn darparu atebion. Darparu amgylchedd mor gefnogol â phosibl ydy ein cyfrifoldeb ar y cyd, gyda menter gymdeithasol wrth galon galluogi pobl i ddechrau neu i ddychwelyd i gyflogaeth yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
Pa bynnag heriau sy’n ymwneud â chadw unigolion allan o’r farchnad lafur, nid bygwth cynaliadwyedd yr union sefydliadau sy’n mynd ati’n rhagweithiol i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i helpu phobl i mewn i’r farchnad lafur yw’r ateb. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a’r DU i sicrhau eu bod yn cefnogi busnesau cymdeithasol yn rhagweithiol i barhau i wneud eu gwaith gwych yn y maes hwn.