Rhaglen newydd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yng Nghymru yn derbyn cyllid

17 Gorffennaf 2023

Sicrhawyd cyllid wrth Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol i gyflwyno rhaglen datblygu arweinyddiaeth newydd ar gyfer arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd y rhaglen hon, a gyflwynir mewn partneriaeth gan Cwmpas, Clore Social Leadership, a CGGC, yn galluogi arweinwyr cymdeithasol i fod yn fwy effeithiol, gwydn, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.

“Mae cyfrifoldeb mawr i fod yn ymddiriedolwr, ond mae’n syndod cyn lleied o hyfforddiant sy’n cael ei dargedu at ymddiriedolwyr. Datblygais yn aruthrol fel arweinydd dros y rhaglen, a theimlaf yn awr y gallaf gyfrannu’n fwy effeithiol fel ymddiriedolwr yn ystod cyfarfodydd bwrdd. Enillais hyder, a chred yn fy ngallu fel arweinydd. Fe wnes i fwynhau gweithio gyda’r garfan hyfforddi yn fawr iawn, ac rydym wedi cadw cysylltiad trwy sefydlu grŵp cymorth ymddiriedolwyr ar WhatsApp. Roedd meithrin perthnasoedd a gweithio mewn partneriaeth yn bonws enfawr i’r rhaglen.”

– Jackie Dix, Ymddiriedolwr Cyngor ar Bopeth Caerffili a Blaenau Gwent, cyn-fyfyrwr rhaglen Arweinwyr Cymdeithasol Cymru

 

Mae arweinwyr cymdeithasol yn gweithio’n ddiflino ar gyfer dyfodol gwell i’w cymunedau a’r gymdeithas ddinesig ehangach. Yn aml yn ddi-dâl mae llawer heb gefnogaeth na ddiolch, er eu bod yn gweithio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol a gyda rhai o bobl fwyaf bregus yn gymdeithas. Heb arweinwyr cymdeithasol, byddai llawer o’r rhaglenni a’r gwasanaethau y mae cymunedau bregus yn dibynnu arnynt ddim yn gweithredu.

Mae’r rhaglen yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, ond bydd yn creu ‘datganiad arweinyddiaeth’ newydd i Gymru sy’n nodi beth yw arweinyddiaeth dda yng nghymunedau Cymru. Bydd y datganiad hwn wedyn yn cael ei wreiddio drwy raglen o weithgareddau a arweinir gan y gymuned, yn ogystal â gweithgareddau ledled Cymru.

 

Dr Sarah Evans, Cyfarwyddwr Twf Busnes ac Ymgynghoriaeth, Cwmpas:

“Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Clore Social Leadership a CGGC i gyflawni prosiect a fydd yn galluogi cymunedau a gweithwyr proffesiynol o fewn sefydliadau cymunedol i fod yn fwy gwydn, trwy ddatblygu arweinyddiaeth a chefnogaeth. Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio rheolwr prosiect a fydd yn arwain ar y gwaith hwn, mae rhagor o wybodaeth am hyn ar wefan Cwmpas”.

 

Nadia Alomar, Prif Swyddog Gweithredol, Clore Social Leadership:

“Rydym wrth ein bodd i barhau â’n prosiect llwyddiannus, Arweinwyr Cymdeithasol Cymru. Rydym yn falch o adeiladu ar ein partneriaeth gref gyda Cwmpas ac yn gyffrous i groesawu CGGC fel partneriaid newydd yn y fenter drawsnewidiol hon. Drwy Arweinwyr Cymdeithasol Cymru, ein nod yw creu ecosystem bwerus sy’n meithrin ac yn grymuso arweinwyr o fewn y trydydd sector, er budd cymunedau ledled Cymru. Credwn yn gryf fod arweinyddiaeth effeithiol yn ganolog i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, ysgogi newid cadarnhaol a chael effaith barhaus ar gymdeithas.”

 

Sara Sellek, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CGGC

“Bydd y prosiect hanfodol yma rhoi cyfleoedd i wirfoddolwyr a staff cyflogedig o’r sector gwirfoddol gael cymorth datblygu arweinyddiaeth a fydd yn eu helpu i arwain newid cadarnhaol yn eu cymunedau”.

 

John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

“Dyfarnwyd y grant o £450,000 i’r bartneriaeth i ddarparu rhaglen arweinyddiaeth ar-lein i arweinwyr cymdeithasol ledled Cymru. Bydd y rhaglen yn rhoi’r hyder a’r gwytnwch sydd eu hangen ar arweinwyr cymdeithasol Cymru i ysgogi newid cymdeithasol. Rydym yn edrych ymlaen at weld llwyddiannau’r arweinwyr y maent yn eu hyfforddi. Mae’r grant hwn yn bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU.”

I fod yn rhan o’r rhaglen newydd gyffrous yma, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â phartneriaid y prosiect isod: