Pam ddylai dysgwyr ifanc becso am fentrau cydweithredol a busnesau cymdeithasol?

14 Mai 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau pecyn o ddeunyddiau dysgu sy’n cyflwyno mentrau cydweithredol a busnes cymdeithasol i bobl ifanc, a grëwyd gan Cwmpas.

Lansiwyd yr adnoddau hyn ar ddiwrnod Robert Owen, i ddathlu ei rôl bwysig mewn cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol.

I lawer yn y mudiad cydweithredol ledled y byd, mae Robert Owen yn ffigwr adnabyddus a ysbrydolodd ei ddatblygiad. Fodd bynnag, efallai nad yw mor adnabyddus yng Nghymru. Enwir yr adnoddau ar ei ôl, gan olrhain ei wreiddiau Cymreig i’r mudiad cydweithredol heddiw.

Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o’r rôl y mae cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol yn ei chwarae yn economi Cymru, sy’n werth dros £4.8 biliwn heddiw ac yn cyflogi dros 56,000 o bobl. Mae’r adnoddau addysgol yn esbonio eu gwerth economaidd a’u potensial i ddarparu atebion i rai o’n heriau modern, wrth helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau menter.

Cynhyrchir y pecynnau ar gyfer grwpiau oedran cynradd ac uwchradd a chawsant eu datblygu gydag athrawon a dysgwyr.

 

Datblygu’r adnoddau

Er mwyn helpu i ddatblygu deunyddiau Robert Owen a gwella dyluniad a hygyrchedd, darparodd disgyblion Hanes yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn Abertawe syniadau ac adborth. Roedd eu syniadau nhw a’r athrawon yn hollbwysig i wneud llawer o wybodaeth yn haws ei deall.

Bu myfyrwyr o Ysgol Gyfun Penyrheol ger Abertawe ac Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri hefyd yn cynnal eu hymholiadau eu hunain, gan ymweld â busnesau cymdeithasol i ddarganfod sut maent yn gweithredu ac yn helpu eu cymunedau. Fe wnaethon ni greu ffilmiau byr i rannu eu canfyddiadau, tra bod y pecyn yn annog ysgolion i gysylltu â busnesau cymdeithasol.

Gall myfyrwyr ddysgu am y rolau mewn busnes cymdeithasol, effaith gwaith Owen ac ymchwilio i fusnesau cymdeithasol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gallant hefyd roi cynnig ar wneud penderfyniadau cydweithredol a chynllunio eu hymgyrch neu fusnes eu hunain, lle maent yn rheoli ac yn helpu eu cymuned.

Mynegodd Ceri Metcalf Day, athrawes yn Ysgol Gyfun Penyrheol, frwdfrydedd dros fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu deunyddiau ar gyfer Prosiect Robert Owen, gan ddweud,

Mae’r disgyblion o Ysgol Gyfun Penyrheol a gymerodd ran mewn paratoi a ffilmio cyfweliadau gyda busnes Cydweithredol Cymunedol wedi cael profiad gwych gyda Cwmpas. Fe wnaethant ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac i sicrhau bod y gynulleidfa’n cael ei hystyried. Dysgon nhw lawer am wahanol fathau o fusnesau a sut y gallwn roi rhywbeth yn ôl i’n cymunedau yng Nghymru. Roedd dysgu am Robert Owen yn ysbrydoledig ac maen nhw eisoes yn meddwl am syniadau ar sut i gefnogi’r gymuned leol trwy fusnes, ac mae wedi agor syniadau newydd ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau ar gyfer byd gwaith, wrth i’r gweithgareddau gael eu hangori i linyn Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith Cwricwlwm i Gymru.

Mae cynhyrchu’r adnoddau wedi bod yn ymdrech gydweithredol, gyda chefnogaeth gan lawer o wahanol sefydliadau.

Dwedodd un disgybl a wnaeth cymryd ran o Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri ei fod “wrth fy modd i gael gwahoddiad i gymryd rhan a helpu i lunio adnoddau y gallwn eu defnyddio rhyw ddydd!

Fe wnes i fwynhau dysgu am Robert Owen yn y dosbarth, ac roedd yn wych helpu i roi ein gwybodaeth ein hunain i’r prosiect, roedd yn gyffrous iawn i fod yn rhan a dysgu mwy am sut mae mentrau cymdeithasol yn helpu pobl, yn enwedig y rhai sydd ar garreg ein drws.”

Mae llawer o bobl ifanc yn teimlo bod y llwybr i entrepreneuriaeth yn dal i fod yn ‘enillydd yn cymryd y cyfan’, felly mae’n gyfle gwych i ddangos y gwahaniaeth cydweithredol a’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio – arbed swyddi ac adnoddau i’r gymuned a chreu cyfleoedd newydd.

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru a Cwmpas, drwy gydweithio, gyda chymorth athrawon a dysgwyr, wedi creu prosiect Robert Owen. Mae hon yn ffordd wych i blant a phobl ifanc ddysgu am werthoedd cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol a’r effaith gadarnhaol y gall y rhain ei chael ar eu cymunedau.”

Bydd y gwaith yma yn cefnogi ysgolion sy’n rhoi ‘Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith’ ar waith yn y Cwricwlwm i Gymru – gan helpu plant a phobl ifanc i feithrin eu gwybodaeth am yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae dysgu am gyfleoedd gyrfa yn hanfodol i gefnogi dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”