Ein datganiad o fwriad ar gyfiawnder, amrywiaeth a chynhwysiant

25 Medi 2022

Rydyn ni’n byw mewn cymdeithas sy’n llawn anghydraddoldebau, gormes a gwahaniaethu, rhai sydd mor ddwfn fel nad yw llawer ohonom yn sylwi arnyn nhw. Mae Cwmpas bob amser wedi cymryd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) o ddifrif, ond yn awr rydym yn cymryd camau i ddyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae cymdeithas yn creu ac yn parhau i greu braint a gormes.

I gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2022, mae Cwmpas wedi cyhoeddi ei Ddatganiad o Fwriad ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant (NIW) yn wythnos sy’n ymroddedig i ddathlu cynhwysiant a gweithredu i greu gweithleoedd cynhwysol. Wedi’i sefydlu gan Gyflogwyr Cynhwysol, mae Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant bellach yn ei 10fed flwyddyn. Cysylltodd thema Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant y llynedd, #UnedigdrosGynhwysiant, 60 miliwn o bobl i ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant. Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 2022, mae’r trefnwyr eisiau datblygu’r undod hwnnw i weithredu, a dyna pam mai thema Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant eleni yw ‘Amser i Weithredu: Grym Nawr’.

Mae thema Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant yn adlewyrchu agwedd Cwmpas. Rydym wedi ymrwymo i bob agwedd ar arferion gwrth-ormes a gwrth-wahaniaethu. Rydym eisiau bod yn sefydliad sy’n gwneud mwy na siarad am y peth, ond sy’n gweithio’n weithredol i wneud gwahaniaeth a sicrhau newid. Mae hyn yn golygu rhywfaint o waith annifyr yn herio ein prosesau, ein diwylliant a’n hymddygiad oherwydd, er ein bod bob amser wedi bod â thegwch a chyfiawnder wrth wraidd ein cwmni, rydym yn gwybod bod gennym fwy i’w wneud. Byddwn yn rhoi sylw manwl i ofynion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ac yn chwarae ein rhan i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol.

Cliciwch yma i ddarllen y Datganiad o Fwriad llawn ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.