Cyfleoedd yn codi

23 Ionawr 2023

Mae adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn awgrymu bod y sector cyhoeddus wedi colli cyfle i gefnogi a datblygu’r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn awgrymu y “gall Mentrau Cymdeithasol ddarparu gwasanaethau pwysig, ond nid oes gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol strategaeth gydlynol ac nid ydynt yn cydweithio i helpu i gefnogi eu twf a’u datblygiad”.

Wrth ddarllen yr adroddiad am y tro cyntaf mae’n ymddangos bod yr adroddiad yn creu darlun llwm o sut mae awdurdodau lleol yn rhyngweithio â mentrau cymdeithasol ac yn cefnogi mentrau cymdeithasol o fewn eu cymunedau. Er yn tynnu sylw at rai meysydd o arferion da, mae’n ymddangos nad yw’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn mapio’r mentrau cymdeithasol o fewn eu maes ac felly nad ydyn nhw’n deall potensial y gadwyn gyflenwi hon – cadwyn gyflenwi sy’n sicrhau bod elw yn cael ei gadw’n lleol ac yn cael ei ail-fuddsoddi er budd y gymuned. Mae hefyd yn amlygu’r ffaith mai ychydig iawn o awdurdodau lleol sydd â strategaeth mentrau cymdeithasol neu sy’n darparu cymorth ariannol penodol y tu hwnt i’w grantiau busnes cyffredinol.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y buddion y gall mentrau cymdeithasol eu cynnig yn y frwydr i fynd i’r afael â thlodi yn ein cymunedau. Mae’n nodi bod mentrau cymdeithasol yn aml yn cynnig gwasanaethau mewn ardaloedd difreintiedig na fyddent ar gael fel arall; maen nhw’n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd ac yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd mewn cymunedau difreintiedig, ac yn aml yn targedu eu gwaith yn uniongyrchol i helpu pobl sydd dan anfantais. Mae hyn yn bwysicach nag erioed yn wyneb pwysau ariannol sy’n wynebu awdurdodau lleol a’r argyfwng costau byw sy’n wynebu ein cymunedau.

Mae’n ymddangos bod gan lawer o awdurdodau lleol ddull adweithiol o weithio gyda mentrau cymdeithasol yn hytrach na’u bod yn chwilio’n rhagweithiol am gyfleoedd. Ychydig iawn o awdurdodau sydd â staff penodol ar gael i gefnogi mentrau cymdeithasol a dywedodd rhai o’r rhai a gafodd eu cyfweld eu bod yn poeni am y risg posibl o weithio gyda mentrau cymdeithasol, yn enwedig os oedden nhw’n rhai eithaf bach.

Mae hyn i gyd yn dipyn o her os ydyn ni eisiau gweld y sector mentrau cymdeithasol yn tyfu hyd yn oed ymhellach yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen i ni ddeall cyd-destun hanes diweddar. Cyn 2010 a’r cyfnod o gyni, roedd gan lawer mwy o awdurdodau lleol swyddogion ymroddedig a oedd yn cefnogi mentrau cymdeithasol lleol, roedd llawer o’r swyddogion hyn hefyd yn cydlynu rhwydweithiau mentrau cymdeithasol lleol ac yn cynnig symiau bach o gyllid.

Mae gennym ni gyfle gwych bellach ar ffurf y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Unwaith eto, mae gan awdurdodau lleol fynediad uniongyrchol at adnoddau i’w helpu i ysgogi datblygiad economaidd lleol ac rydyn ni yn Cwmpas o’r farn y dylai mentrau cymdeithasol, perchnogaeth gan weithwyr a thai dan arweiniad cymunedol fod wrth wraidd hyn. Gyda’r Gronfa gallwn feithrin system eco leol i gefnogi’r sector ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Gallwn helpu i hyfforddi a chefnogi cydweithwyr mewn awdurdodau lleol ar bwysigrwydd busnesau sydd dan berchnogaeth leol a busnesau sefydledig sy’n ail-fuddsoddi eu helw. Gallwn helpu i adfywio rhwydweithiau lleol ac asesu potensial y gadwyn gyflenwi. Mae yna gyfle i helpu awdurdodau lleol i edrych ar y gwariant presennol a’r potensial i ddefnyddio’r gwariant hwnnw i gefnogi mentrau cymdeithasol lleol. Gallwn gefnogi awdurdodau i edrych ar ddatblygu strategaeth, gan ymwreiddio hyn yn y Weledigaeth Mentrau Cymdeithasol a’r Cynllun Gweithredu cenedlaethol a gafodd ei ddatblygu gan holl asiantaethau cymorth y sector yn 2020.

Mae Cwmpas wedi bod yn cefnogi busnesau mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a busnesau dan berchnogaeth gweithwyr ledled Cymru ers dros 40 mlynedd. Yn y lle cyntaf, cafodd aelodau tîm Cwmpas eu hariannu gan awdurdodau lleol a’u lleoli ynddyn nhw, gan gydweithio â staff datblygu economaidd ar lawr gwlad a gweithio’n rhagweithiol gyda chymunedau i’w helpu i nodi problemau lleol a rhoi gwybod amdanyn nhw, ac yn bwysicach i ddod o hyd i atebion. Arweiniodd y mentrau cydweithredol lleol hyn dros chwarter canrif yn ôl at ffurfio mentrau cymdeithasol cryf, ac mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n dal i fasnachu hyd heddiw.

Mae mentrau cymdeithasol yn dangos ei bod hi’n bosib gwneud busnes yn well. Maen nhw’n dangos sut i fod yn arloesol ac entrepreneuraidd tra’n dal i ddangos cyfrifoldeb cymdeithasol ac yn rhagori’n gyson ar yr hyn sy’n cael ei ystyried yn arfer da mewn busnes a chyflawni i’r sector cyhoeddus.

Mae’r cyfle i weithio gyda mentrau cymdeithasol ac i sicrhau’r effaith fwyaf bosibl ar wariant o fewn y sector cyhoeddus yno o hyd. Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhoi cyfle go iawn i ni ddysgu o’r gorffennol, edrych tua’r dyfodol ac ymateb yn gadarnhaol i ganfyddiadau Adroddiad Archwilio Cymru.

Darllenwch adroddiad Archwilio Cymru ‘Cyfle wedi’i golli – Mentrau Cymdeithasol’ yma https://www.audit.wales/cy/cyhoeddiad/cyfle-wedii-golli-mentrau-cymdeithasol