Maryann Enereba Intern Polisi a Chyfathrebu

2 Ebrill 2024

Y ddau fis diwethaf yw’r ddau fis mwyaf arwyddocaol o dyfiant personol i mi. 

Rwyf eisoes wedi bod â diddordeb mewn arweinyddiaeth a chael effaith ar fywydau pobl, ond doeddwn i ddim yn gwybod sut na ble i ddechrau. Roedd yn teimlo fel tasg anodd, ond wrth ymuno a Cwmpas sylweddolais taw beth roeddwn yn meddwl oedd yn anodd yn angerdd. 

Cefais groeso gan bobl a oedd yn wirioneddol yn malio ac yn dangos diddordeb yn fy nhaith. 

Roeddwn yn gallu gweithio gyda phobl sydd wedi bod yn cael effaith ar gymunedau am flynyddoedd, gan gynnwys drwy Cymunedau Digidol Cymru a chefnogi mentrau cymdeithasol. 

Dyma fy mhrofiad interniaeth cyntaf, a wnes i mi sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu a gwir ystyr gwaith tîm.

Doedd gen i ddim syniad beth oedd bywyd gwaith go iawn – fe ges i rôl gwasanaeth cwsmeriaid pan ddes i Abertawe ond fe gollais y swydd yr un mis; wnes i golli hyder oherwydd hyn ac roeddwn bob amser yn teimlo nad oeddwn yn ffitio i mewn fel lleiafrif ethnig yng Nghymru, ond ar ôl fy nghyfweliad gyda Cwmpas sylweddolais fy mod wedi magu cymaint o hyder.

Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghlywed a’m gweld gan fy nghyfwelwyr. Roeddwn yn teimlo’n mor hapus bod cwmni yn creu’r gofod hwnnw i interniaid o leiafrif ethnig dyfu a bod yn rhan o ddatblygu polisi yng Nghymru. 

Cefais angerdd newydd dros lunio polisi, wrth imi weld y rhan bwysig y mae Cwmpas yn ei chwarae yn nhwf a datblygiad Cymru drwy fentrau cymdeithasol, tai cydweithredol a chynhwysiant digidol.

Dwi erioed wedi gweld pobl mor angerddol am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill.

Rwy’n cofio fy nghyfarfod mewn-person cyntaf; Gadewais yr ystafell y diwrnod hwnnw gan ddweud wrth fy hun fy mod eisiau bod yn union fel y menywod yn yr ystafell.

Fel myfyriwr rhyngwladol, rhoddodd yr interniaeth hon gyfle i mi ddysgu mwy am bolisïau yng Nghymru, ond y tu hwnt i hyn fe wnaeth i mi wir ddatblygu fy angerdd, gwella fy hun yn gyson, ac i gael effaith positif lle bynnag y byddaf yn ffeindio fy hun.

Er bod fy interniaeth wedi dod i ben, rwy’n mynd â gwerthoedd Cwmpas gyda mi, gan wneud penderfyniadau beiddgar i wella bywydau’r bobl o’m cwmpas.

Rwyf am ddweud diolch yn fawr i bawb, ond yn enwedig y tîm Polisi a Chyfathrebu – diolch yn fawr iawn am roi cyfle i mi dyfu.