Mae’r Etholiad Cyffredinol yn gyfle allweddol i adeiladu economi gryfach yng Nghymru gyda menter gymdeithasol wrth ei galon

5 Mehefin 2024

Mae’r Etholiad Cyffredinol ar Orffennaf 4ydd yn foment o benderfyniad mawr i bobl ledled y DU. I lawer yng Nghymru, bydd adeiladu economi gryfach sy’n creu ffyniant, yn lleihau tlodi ac yn blaenoriaethu cynaliadwyedd yn flaenllaw yn eu meddyliau.

Rydym yn gwybod bod y sector menter gymdeithasol yn arwain y ffordd o ran datblygu’r math hwn o economi yng Nghymru. Mae ymchwil sy’n mapio’r sector menter gymdeithasol yng Nghymru wedi dangos bod y sector yn mynd o nerth i nerth ers Covid-19, gyda lefelau uchel o weithgarwch entrepreneuraidd newydd.

Mae’r sector yn hanfodol i’n cymunedau mewn sawl ffordd; trwy greu cyfleoedd gwaith i’r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, defnyddio arferion arloesol i fod yn gynaliadwy, neu greu gwasanaethau a gweithgareddau hygyrch i bobl sydd eu hangen – mae model busnes menter gymdeithasol yn ateb y problemau sy’n wynebu ein cymunedau efo entrepreneuriaeth sy’n creu elw cymdeithasol.

Er bod llawer o’r polisi sy’n canolbwyntio ar economi Cymru yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, nid oes amheuaeth y bydd Llywodraeth nesaf y DU yn cael effaith sylweddol ar y cyd-destun mae ein sector menter gymdeithasol yn gweithio ynddo.

Rydym am weld agenda polisi datblygu economaidd sydd yn canolbwyntio ar greu economi gynaliadwy a gynhwysol ac yn canolbwyntio ar lesiant. Rydym yn bartner yn Cynghrair Economi’r Dyfodol, menter eang, gynhwysol ac arloesol sy’n ceisio rhoi menter gymdeithasol wrth galon polisi economaidd ledled y DU.

Mae gan Gymru lawer i fod yn falch ohono ar ran ddatblygu’r economi gymdeithasol. Mae ein prosiect Busnes Cymdeithasol Cymru, a ddarperir fel rhan o gonsortiwm Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol, yn darparu cymorth arbenigol i’r sector menter gymdeithasol ac yn gweithio’n strategol i gyflawni ein huchelgais o wneud menter gymdeithasol yn fodel busnes o ddewis erbyn 2030.

Rydym yn gweld canlyniadau’r gwaith hwn. Dangosodd yr ymchwil diweddaraf bod tua 2,828 o fusnesau yn y sector, cynnydd o 22% o 2020. Cyfanswm trosiant y sector oedd £4.8bn, a chyfrifwyd cyflogaeth ar gyfer y sector yn 65,299. Rydym wedi dyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr yng Nghymru ers 2021 – ddwy flynedd ynghynt nag uchelgais Llywodraeth Cymru.

Ond does dim dwywaith y gallwn wneud mwy – mae’r sector ei hun yn uchelgeisiol iawn ar gyfer y dyfodol. Mae ein hymchwil wedi dangos bod llawer o fusnesau yn ceisio ehangu neu amrywio eu gweithgareddau, er mwyn creu hyd yn oed mwy o werth i’n cymunedau.

Mae’r etholiad cyffredinol yn gyfle arall i roi menter gymdeithasol wrth galon yr agenda bolisi. Byddwn yn gweithio gydag eraill sy’n cefnogi creu amgylchedd polisi effeithiol yng Nghymru a ledled y DU i gyflawni ein nod o wneud menter gymdeithasol yn fodel busnes o ddewis, ac i hyrwyddo effaith y sector menter gymdeithasol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni neu gymryd rhan yn yr ymgyrch, cysylltwch â Daniel Roberts drwy dan.roberts@cwmpas.coop i drafod.