Mae’r cystadleuwyr Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2022 wedi’u cyhoeddi!

8 Awst 2022

Rydym yn falch o gyhoeddi bod gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn ôl eto ar gyfer 2022!

Fe’ch gwahoddir i ymuno â ni yn Arena Abertawe brynhawn dydd Llun, 10 Hydref ar gyfer seremoni Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2022.

Edrychwch isod ar y rhestr o gategorïau a’r mentrau cymdeithasol ysbrydoledig sydd ar fin ennill gwobr…

 

1. Menter Gymdeithasol y Flwyddyn

  • Well-Fed (Services) Ltd, Sir y Fflint
  • Emmaus South Wales, Pen-y-Bont
  • Groundwork North Wales, Wrecsam

 

2. Y Fenter i’w Gwylio

  • Wild Elements Hospitality, Bangor
  • Menter Ty’n Llan, Caernarfon
  • Boss & Brew Academy, Caerdydd
  • The Bike Lock, Caerdydd

 

3. Tîm Menter Gymdeithasol y Flwyddyn

  • Smart Money Cymru Community Bank, Caerffili
  • Greenwich Leisure Limited, Caerdydd
  • Cardiff Cycle Workshop, Caerdydd

 

4. Menywod mewn Menter Gymdeithasol

  • Karen Balmer, Groundwork North Wales
  • Eleanor Shaw, People Speak Up, Llanelli
  • Helen Davies, Sunflower Lounge, Abertawe

 

5. Profwch ef: Effaith Gymdeithasol

  • Groundwork North Wales, Wrecsam
  • Down to Earth, Abertawe
  • With Music in Mind, Morgannwg

 

6. Trawsnewid Cymuned a Lle

  • Galeri, Caernarfon
  • Organised KAOS, Ammanford
  • Aura Leisure Limited, Deeside

 

7. Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Cydraddoldeb a Chyfiawnder

  • Emmaus South Wales, Pen-y-Bont
  • The Community Impact Initiative, Pen-y-Bont
  • Enbarr Foundation, Sir y Fflint

 

8. Technoleg er Budd

  • Smart Money Community Bank, Caerffili
  • Prom Ally, Llandudno
  • Rhyl City Strategy, Rhyl

 

9. Menter Cymdeithasol Amgylcheddol

  • Groundwork North Wales, Wrecsam
  • Emmaus South Wales, Pen-y-Bont
  • Down to Earth, Abertawe

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru wedi’u cynnal yn flynyddol ers 2010, fel rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru, i amlygu ac anrhydeddu’r busnesau cymdeithasol gorau yng Nghymru. Mae’r Gwobrau’n gysylltiedig â chynllun cenedlaethol a reolir gan Social Enterprise UK. Mae enillwyr o Gymru yn mynd ymlaen i gystadlu ag enillwyr o’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ar lefel y DU.

Yn 2020, ni chynhaliwyd y Gwobrau. Yn 2021 fe’u cynhaliwyd ar-lein, wrth i fusnesau cymdeithasol ymdopi â’r pwysau a grëwyd gan bandemig Covid-19. Estynnodd mentrau cymdeithasol at gymunedau ledled Cymru i gefnogi’r rhai yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt; a chamodd mentrau cymdeithasol i fyny hefyd i gyflenwi adnoddau hanfodol a chodi arian ar gyfer ein GIG. Mae wedi bod yn ddwy flynedd o wydnwch a thrawsnewid enfawr i’r sector. Bydd yn wych dathlu’r llwyddiannau hyn mewn seremoni bersonol unwaith eto.

Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru, caiff ei ddarparu gan Cwmpas.

Ein noddwyr

Ecology Building Society logo   Legal and General logo  Creating Enterprise   Natwest logo  Triodos logo   Choose 2 Reuse logo     Great Western Railway logo   Social Investment Cymru logo bic innovation logo