Mae Gwerth Cymdeithasol yn Galw am Arweinyddiaeth Weithredol: Saith Awgrym ar gyfer Busnesau yng Nghymru
Mae Gwerth Cymdeithasol yn Galw am Arweinyddiaeth Weithredol: Saith Awgrym ar gyfer Busnesau yng Nghymru
Gan Adam Cox, Prif Ymgynghorydd Gwerth Cymdeithasol, Cwmpas
Mae gwerth cymdeithasol yn fwy na blwch i’w dicio ar ffurflen gaffael. Mae’n ymwneud â chyflawni buddion go iawn i gymunedau, gweithwyr, a’r amgylchedd, ac wrth gwrs, yng Nghymru, mae’r diwylliant yn rhan bwysig o hynny hefyd. Mae’n gofyn am arweinyddiaeth aeddfed, un sy’n seiliedig ar uniondeb ac atebolrwydd.
Yng Nghymru, mae gennym y cyfle perffaith i arwain y ffordd, gyda deddfwriaeth gref sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Ond i wireddu hynny, mae angen mwy na dyhead – mae angen gweithredu, cydweithio a chred.
Dyma saith ffordd ymarferol y gall arweinwyr busnes yng Nghymru raddio gwerth cymdeithasol yn effeithiol.
- Arwain gyda chred, nid gwelededd
Yn aml mae’r lleisiau mwyaf swnllyd yn chwilio am gydnabyddiaeth, ond mae arweinyddiaeth wirioneddol yn llawer tawelach. Mae’n ymwneud â gosod safonau, adeiladu fframweithiau, a chadw’n driw i’r nod – hyd yn oed pan nad oes neb yn gwylio. Dyna sy’n creu effaith hirdymor.
- Herio, nid cysuro yn unigNid cadw pawb yn hapus yw gwaith arweinwyr da. Maent yn gwahodd trafodaeth onest, cwestiynau anodd, a chydweithio ar draws sectorau. Mae gwir gynnydd yn gofyn am ddewrder a pharodrwydd i herio’r drefn.
- Cysylltu polisi â gweithredu
Mae symud y tu hwnt i adrodd ar gyfer ffurflenni’n golygu cysylltu’r hyn sydd ar bapur â’r hyn sy’n digwydd yn y gymuned. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn rhoi mantais i ni yng Nghymru – ond mae’n rhaid eu defnyddio fel offer byw, nid fel rhestrau gwirio.
- Defnyddio iaith sy’n glir ac yn agored
Nid yw gwerth cymdeithasol yn ymwneud â jargon. Mae’n ymwneud â gwneud pethau’n ddealladwy i fusnesau bach, cyflenwyr, a chymunedau sy’n gwneud y gwaith o greu newid. Pa fwyaf eglur y neges, y mwyaf o bobl sy’n ymuno â hi.
- Cyd-ddylunio atebion
Nid oes gan arweinwyr cryf yr holl atebion i ddechrau. Maent yn gwrando ac yn creu lle i eraill lunio atebion gyda nhw. Mae cyd-ddylunio’n sicrhau bod camau’n berthnasol i’r cyd-destun lleol ac yn fwy tebygol o lwyddo.
- Blaenoriaethu etifeddiaeth dros mesuriadau
Mae mesurau perfformiad yn bwysig, ond nid dyna’r cyfan. Arweinyddiaeth wirioneddol yw’r gallu i ysbrydoli ac i grymuso eraill i weithredu yn ôl eu gwerthoedd eu hunain – hyd yn oed ar ôl i chi symud ymlaen.
- Deall polisi a chroesawu sgyrsiau dewr
Mae tirwedd bolisi Cymru yn cynnig cyfle unigryw, ond dim ond os yw arweinwyr yn deall y cyd-destun ac yn fodlon cael sgyrsiau gonest ac anodd y gellir manteisio’n llawn arno. Mae gwerth cymdeithasol yn gofyn am ddealltwriaeth, trafodaeth, a chyfeiriad clir – nid ticio blychau.
Mae Cymru mewn sefyllfa arbennig i arwain y ffordd o ran gwerth cymdeithasol. Ond mae hynny’n gofyn am arweinwyr sy’n fodlon dysgu, herio, ac ysbrydoli newid go iawn. Pan wnawn hyn yn iawn, nid polisi yn unig yw gwerth cymdeithasol – mae’n symudiad sy’n helpu busnesau a chymunedau i ffynnu gyda’i gilydd.
Cysylltu â Cwmpas
Ydych chi eisiau cymryd cam strategol tuag at werth cymdeithasol?
Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau ymgynghori yma: https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/gwasanaethau-ymgynghori/