Mae Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol Cymru yn chwilio am rywun i ddod yn Gadeirydd annibynnol y grŵp.

4 Mai 2023

Mae Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol Cymru yn credu bod yn rhaid i fentrau cymdeithasol chwarae rhan allweddol wrth adeiladu economi decach, mwy cynhwysol a chynaliadwy. Rydym yn chwilio am Gadeirydd i arwain a chefnogi ein gwaith i gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y sector.

Mae ein haelod-sefydliadau dylanwadol a gyda proffil-uchel yn darparu cymorth arbenigol i fentrau cymdeithasol ledled Cymru ac mewn ystod o wahanol sectorau, ac yn chwarae rhan allweddol yn eu cefnogi i drawsnewid economi a chymunedau Cymru. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni’r amcanion ein hadroddiad Trawsnewid Cymru drwy Fenter Gymdeithasol, gweledigaeth a chynllun gweithredu a gyd-gynhyrchwyd i wneud menter gymdeithasol yn fodel busnes o ddewis yng Nghymru. Ein haelodau yw Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd, Cwmpas a’r CGGC.

Rydym yn chwilio am unigolyn annibynnol, profiadol a gwybodus i ddwyn y grŵp i gyfrif ac arwain ein gwaith i gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y weledigaeth a’r cynllun gweithredu. Bydd y person hwn yn goruchwylio datblygiad a chyflwyniad llwyddiannus y cynllun gwaith, yn hwyluso penderfyniadau a llywodraethu cadarn, ac yn hyrwyddo perthnasoedd effeithiol gyda’r sector ehangach.

Mae cyllideb o £250 y dydd ar gael i dalu costau. Yr ymrwymiad amser disgwyliedig yw un diwrnod y mis. Cliciwch ar y dogfennau isod i ddarganfod mwy am y GRMG ac i weld y disgrifiad swydd. Os hoffech drafod y rôl, cysylltwch â dan.roberts@cwmpas.coop.

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl at nicola.leybourne@cwmpas.coop. Y dyddiad cau yw y 31ain o Fai. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych chi.

Lawrlwythwch y Proffil Rôl ar gyfer Cadeirydd Grŵp Rhanddeiliaid Menter Cymdeithasol yma.

Lawrlwythwch wybodaeth ychwanegol am y Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol yma.