Mae gofalwyr di-dâl ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gofyn ‘Who Cares?’

Mae grŵp o ofalwyr di-dâl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn erfyn ar awdurdodau i wneud eu bywydau gofalu yn haws wrth lansio eu cân wreiddiol, ‘Who Cares?’, heddiw.
Wnaeth ‘Cysylltu Gofalwyr’, a gyflwynwyd gan yr elusen gelfyddydau cymunedol Tanio, weithio gyda grwpiau ym Mhracla a Betws i recordio ‘Who Cares?’ ym mis Rhagfyr.
Mae’r gân yn sôn am y frwydr feddyliol a chorfforol ddyddiol y mae gofalwyr di-dâl yn ei hwynebu, a’u hymroddiad i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, roedd 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn 2021. Mae disgwyl i’r ffigwr hwnnw gynyddu i fwy na hanner miliwn erbyn 2037.
Gall gofal di-dâl gael effaith andwyol ar les meddyliol gofalwyr, niweidio iechyd a lleihau ansawdd bywyd, addysg a chyflogaeth. Po hiraf y mae’n rhaid i ofalwr di-dâl ofalu am ei anwyliaid, a pho uchaf yw lefel y gofal sydd ei angen, y gwaetha’ yr effeithiau.
Ysgrifennodd grwpiau gofalwyr di-dâl Pen-y-bont ar Ogwr y geiriau ar gyfer ‘Who Cares?’, tra bod Matthew Frederick, canwr/cyfansoddwr a pherchennog label recordiau Staylittle Music, wedi ysgrifennu’r alaw wreiddiol, dan gomisiwn gan Tanio. Fe wnaeth y fenter gymdeithasol, Choirs for Good, sy’n rhedeg corau lles cymunedol ledled Cymru, gefnogi ac arwain y cantorion, a recordio’r gân.
Mae ‘Who Cares?’ yn erfyn ar y rheiny mewn grym i wrando a chefnogi gofalwyr di-dâl:
“I feel invisible. It’s insurmountable. Am I winning in this fight? It’s a daily battle now. Who will listen if I’m struggling? Troubling thoughts run through my mind. I tell myself that I won’t break… Even on the days that I’m not okay I keep smiling anyway. Is anybody really listening? And who cares?”
Dywedodd Rob Lester, gofalwr di-dâl sy’n cefnogi ei ferch 13 oed sydd ag awtistiaeth:
“Wrth gyfansoddi a recordio’r gân ‘Who Cares?’, rydym wir yn gobeithio y bydd hyn yn tynnu sylw ac yn amlygu pledion gofalwyr di-dâl. Rydym yn chwarae rhan enfawr yn ein cymunedau, ond rydym yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael gafael ar gymorth ar yr adegau anoddaf.
“Mae’r broses o gynhyrchu a recordio’r gân wedi ein helpu ni i ddod at ein gilydd, rhannu’r her rydyn ni i gyd yn ei hwynebu yn ein hamgylchiadau unigol a phersonol iawn, a rhoi i’n gilydd y gefnogaeth sydd ei hangen arnom ond dydyn ni ddim bob amser yn ei chael gan yr awdurdodau, a ddylai fod yn ein helpu ni.”
Mae hyn ddwywaith mor bwysig i ofalwyr di-dâl: os nad ydynt yn gallu gofalu, yna mae’r argyfwng yn ymestyn. Bydd o leiaf ddau berson mewn argyfwng – y gofalwr a’r person y mae’n gofalu amdano.
Meddai Iori Haugen, Cyfarwyddwr Choirs for Good:
“Roedd Choirs For Good yn eithriadol o hapus i gynhyrchu’r fideo mewn partneriaeth â Cwmpas a Tanio. Prosiect ‘Cysylltu Gofalwyr’ yw’r union fath o waith sy’n canolbwyntio ar y gymuned rydym yn hoffi ei gefnogi, yn enwedig pan fydd cerddoriaeth a chanu yn rhan ohono.
“Gobeithio y bydd pobl yn cysylltu ag ef, ac yn deall pa mor bwysig yw gofalwyr di-dâl i’n cymunedau – a faint maen nhw angen ein cefnogaeth.”
Dywedodd Donna Coyle, Ymgynghorydd Gofal Cymdeithasol Cwmpas, sy’n cefnogi ac yn hwyluso twf grwpiau Cysylltu Gofalwyr:
“Mae ple drwy gydol ‘Who Cares?’ am well help a chefnogaeth i’r holl ofalwyr di-dâl ymroddedig anhygoel ledled Pen-y-bont ar Ogwr, a Chymru. Mae ein gofalwyr yn gweithio llawer o oriau’r wythnos, yn ddi-dâl, yn gofalu am bobl o bob oed – ond i wneud hyn mae’n rhaid iddynt ymladd a brwydro i gael yr hyn sydd ei angen drostynt eu hunain ac i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
“Pe bai awdurdodau cenedlaethol a lleol wir yn gwrando ac yn ymateb i geisiadau gofalwyr, ni fyddai angen i ni gael ‘ymladdwyr a rhyfelwyr’. Gadewch i ni newid hynny, a dechrau cefnogi gofalwyr di-dâl yn iawn.”
Mae’r grwpiau cymorth wythnosol Cysylltu Gofalwyr yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ac yn hybu iechyd meddwl. Maent yn cynnig cyfle i rannu’r rhwystredigaeth a’r llawenydd o ofalu mewn gofod diogel, hwyliog a chreadigol lle gall gofalwyr di-dâl fynd y tu hwnt i‘w meddyliau arferol a dod o hyd i ffyrdd o helpu ei gilydd.
Beth allwch chi ei wneud i gefnogi gofalwyr di-dâl? Gwrandewch ar y gân, yn gyntaf oll, ac yna meddyliwch amsut i gynnwys gofalwyr di-dâl wrth greu ateb sy’n bodloni eu hanghenion.
Oes rhywun yn gwrando? Who Cares?
Ar gael nawr ar wasanaethau ffrydio cerddoriaeth
Spotify, Apple Music, iTunes, YouTube Music, Amazon, Deezer