Mae Cwmpas yn sicrhau buddsoddiad ar gyfer prosiect Gofal dan arweiniad y Gymuned: Atebion i faterion mewn gofal cymdeithasol’.

28 Gorffennaf 2022

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Cwmpas, asiantaeth datblygu cydweithredol fwyaf y DU, wedi derbyn buddsoddiad gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect ‘profi a dysgu’ i alluogi cymunedau i gael llais a rheolaeth dros eu gofal.

Mae tua £290k yn cael ei fuddsoddi mewn dau brosiect sy’n mynd i brofi dau fodel gofal gwahanol dan arweiniad y gymuned, sy’n canolbwyntio ar ddarparu atebion i faterion mewn gofal cymdeithasol. Bydd y ddau fodel yn dangos bod ymyriadau cynnar mewn gofal cymunedol yn atebion fforddiadwy, hyfyw a chynaliadwy i’r argyfwng gofal.

Y ddau bartner lleol a fydd yn cefnogi Cwmpas yn y prosiect ‘profi a dysgu’ hwn yw Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) yng Nghaerdydd, fydd yn profi’r model trefol ‘ACE Cares’, a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), fydd yn profi’r model gwledig, gyda Cwmpas yn arwain y ddau bartner. Teitl y prosiect yw ‘Gofal dan arweiniad y Gymuned: Atebion i faterion mewn gofal cymdeithasol’.

Trwy ei waith gyda’r partneriaid hyn, a gydag ail-lunio darpariaeth gofal cymdeithasol yn ganolbwynt, nod Cwmpas yw dangos y canlynol:

  1. Mae gofal dan arweiniad y gymuned yn galluogi pobl i gael llais a rheoli eu gofal
  2. Gall ymyrraeth gynnar gofal cymunedol atal yr angen am ofal statudol mwy cymhleth
  3. Mae dull cyd-gynhyrchiol, sy’n hwyluso a harneisio cryfderau ac asedau mewn cymunedau, yn galluogi pobl i gymryd perchnogaeth yn hyderus o ddarpariaeth gofal
  4. Mae gofal dan arweiniad y gymuned yn gynaliadwy ac yn opsiwn gwirioneddol a fforddiadwy
  5. Gall adael etifeddiaeth barhaol.

Y nod yw i Cwmpas ddarparu gwybodaeth i rwydwaith Cymru gyfan o grwpiau cymunedol sydd am sefydlu eu gwasanaethau gofal cymunedol eu hunain a’u cynorthwyo i ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid statudol ynghylch canfyddiadau a thystiolaeth y prosiect profi a dysgu. Bydd Cwmpas yn dylanwadu ar strwythurau comisiynu rhanbarthol a lleol i gefnogi trawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy’r data a’r dystiolaeth a gasglwyd drwy’r prosiect ‘profi a dysgu’. Mae hyn yn arbennig o bwysig i helpu i gyflawni’r weledigaeth a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).